Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 317KB) Gweld fel HTML (118KB)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Roedd Janet Finch-Saunders wedi ymddiheuro am ei habsenoldeb.

2.

Deisebau newydd

2.1

P-05-734 Gwahardd Codi Ffioedd Asiantau Gosod ar Denantiaid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Cyflwynodd Fil arfaethedig i falot yr Aelodau ar yr un pwnc â’r ddeiseb.

 

Datganodd Gareth Bennett y budd perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Cyflwynodd Fil arfaethedig i falot yr Aelodau ar yr un pwnc â’r ddeiseb.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol:

 

  • y Pwyllgor Cymunedau Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol i ofyn a ydynt yn bwriadu ymgymryd â gwaith ar y mater hwn; ac

·         Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ofyn am ragor o wybodaeth am yr amserlen ar gyfer penderfynu a oes angen deddfu ar y mater.

 

 

2.2

P-05-735 Gwneud y Cyfnod Sylfaen yn fwy effeithiol ar gyfer ein plant, darparu mwy o athrawon a dileu y TASau blwyddyn 2.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau a ganlyn:

 

  • aros i gael barn y deisebydd am ymateb y Gweinidog.
  • gofyn am wybodaeth gan y Gwasanaeth Ymchwil am gymarebau disgyblion / athrawon yn Sgandinafia. 

 

 

2.3

P-05-736 Darparu gwasanaethau iechyd meddwl mwy hygyrch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at elusennau sy'n cynorthwyo pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl i ofyn am eu barn am y materion a godwyd yn y ddeiseb a'r wybodaeth a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet.

 

2.4

P-05-737 Achub ein bws

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau a ganlyn:

                                                

  • aros am farn y deisebydd am ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith; ac
  • anfon y ddeiseb at Ddefnyddwyr Bysiau Cymru er gwybodaeth.

 

 

2.5

P-05-739 Achub Gwasanaethau TWF

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau a ganlyn:

 

  • ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i holi ym mha ardaloedd awdurdod lleol y mae’r cynllun Cymraeg i Blant ar waith ar hyn o bryd, ac i gael rhagor o fanylion

am y modd y mae Llywodraeth Cymru yn datblygu elfen genedlaethol Twf; ac

·         aros am farn y deisebwyr.

 

 

2.6

P-05-740 Deiseb i Warchod ein Stryd Fawr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i ofyn am atebion i’r cwestiynau penodol a godwyd gan y deisebydd.

2.7

P-05-741 Mae angen cyfyngiadau llymach ar Gyfoeth Naturiol Cymru.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru i ofyn iddynt ymateb i’r pwyntiau a godwyd yn y ddeiseb ac esbonio sut y maent yn ystyried buddiannau sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd, a’r defnydd amaethyddol o dir, wrth fynd ati i ddynodi Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

 

 

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-539 Achub Cyfnewidfa Lo Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i:

 

  • Anfon cais y deisebydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith a gofyn iddo a yw’n barod i ystyried galw am ymchwiliad cyhoeddus i'r digwyddiadau’n ymwneud â datblygu’r Gyfnewidfa Lo; ac
  • ysgrifennu at Arweinydd Cyngor Caerdydd i ofyn iddo ymateb i'r sylwadau a gafwyd ynglŷn â chywirdeb ei ohebiaeth â'r Pwyllgor.

 

3.2

P-04-594 Apêl Cyngor Cymuned Cilmeri ynghylch y Gofeb i’r Tywysog Llywelyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at:

 

  • y deisebydd yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf cyn gynted ag y bydd yn cael  ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch ariannu arwyddion newydd; a

·         Chyngor Sir Powys i holi am y cynnydd a wnaed mewn perthynas â chynnal a chadw cofeb Tywysog Llywelyn a bwrw ymlaen â Chynllun Gweithredu Lloyd Brown 2013.

 

 

3.3

P-05-709 Cylchffordd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd  a chytunwyd i gau'r ddeiseb, ar gais y deisebydd, gan ddiolch iddo am ei gyfraniad at y broses ddeisebau. 

3.4

P-05-714 Cynnwys gorsaf ym Mynachdy a Thal-y-bont fel rhan o unrhyw gynnig ar gyfer Metro Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor unwaith y bydd y gwaith blaenoriaethu wedi’i gwblhau yng nghyswllt y rhestr o orsafoedd newydd o dan y Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol.

 

 

3.5

P-05-731 Gwerthu tir a lonydd mynediad yn Abercwmboi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith:

 

  • i ofyn a fyddai'n fodlon ymgynghori â'r deisebydd a thrigolion eraill Park View Terrace ynghylch y modd y caiff y tir ei ddefnyddio yn y dyfodol wedi i’r trafodaethau presennol â’r awdurdod lleol ddod i ben, a chyn i’r broses o werthu’r tir ddechrau;
  • i holi a fydd gan y rhai sy’n defnyddio’r lonydd a’r tir i barcio ar hyn o bryd hawl tramwy gan eu bod yn defnyddio’r tir ers cryn amser.
  • gofyn am eglurhad ynghylch yr anghysondebau yn yr ohebiaeth flaenorol y tynnodd y deisebydd sylw atynt.

 

3.6

P-04-519 Diddymu taliadau comisiwn wrth werthu cartrefi mewn parciau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant a’r deisebydd a chytunodd i:

 

  • aros i Ysgrifennydd y Cabinet gyhoeddi penderfyniadau’n dilyn ymchwiliad i’r diwydiant dan sylw, cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach; ac
  • archwilio a fyddai'n bosibl cwrdd â'r deisebwyr yn anffurfiol i drafod eu deiseb.

 

 

3.7

P-04-597 Diogelu dyfodol y Ddraig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan fod cryn amser wedi mynd heibio ers i’r deisebydd gysylltu ddiwethaf a'r ffaith bod y Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cymryd camau i sefydlu senedd ieuenctid Cymru ar hyn o bryd.

 

3.8

P-04-662 Mae’n anodd amgyffred sut y byddai bywyd wedi bod heb fy Ngweithiwr Cymorth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb o ystyried bod y gyllideb ar gyfer y Rhaglen Cefnogi Pobl wedi’i diogelu ac na lwyddwyd i gysylltu â'r deisebydd.

 

3.9

P-04-490 Meddyginiaeth gwrth-retrofeirysol yng Nghaerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan fod cryn amser wedi mynd heibio ers i’r deisebydd gysylltu ddiwethaf.

3.10

P-04-564 Adfer gwlâu i gleifion, gwasanaeth mân anafiadau ac uned pelydr-X yn Ysbyty Coffa Ffestiniog

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Iechyd Cymunedol i ofyn am ei farn am yr ohebiaeth.

 

3.11

P-04-682 Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Diabetes UK Cymru, y Pwyllgor Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a’r deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at:

 

  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i ofyn iddo ystyried cyfarfod â'r deisebwyr; a
  • phob Bwrdd Iechyd Lleol i ofyn am ragor o wybodaeth am eu trefniadau ar gyfer rhoi diagnosis ac atgyfeirio cleifion.

 

 

3.12

P-05-713 The Wildlife Warriors

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, o ystyried y cytundeb cyffredinol  rhwng Cadwch Gymru'n Daclus a Llywodraeth Cymru ynghylch rôl Wildlife Warriors cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb gan ddiolch i’r deisebwyr am gyfrannu at y broses ddeisebau.

 

 

3.13

P-05-717 Sefydlu hawliau mynediad cyhoeddus statudol i dir a dŵr mewndirol at ddibenion hamdden a dibenion eraill

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, yn dilyn ei datganiad ar 13 Chwefror, i ofyn iddi egluro a fydd yr ymgynghoriad arfaethedig yn cynnwys yr opsiwn i sefydlu hawl mynediad cyhoeddus statudol i dir a dŵr mewndirol, ac i holi am yr amserlen gysylltiedig.

 

3.14

P-04-499 Rhoi Hwb i Gwricwlwm yr Iaith Gymraeg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb gan fod cryn amser wedi mynd heibio ers i'r deisebwyr gysylltu ddiwethaf.

 

 

3.15

P-05-724 Hawliau i Ofal Iechyd Sylfaenol yn y Gymraeg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg a chytunodd i aros am ymateb Llywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad a'r rheoliadau drafft y bydd yn eu cyflwyno, gan ystyried y ddeiseb eto bryd hynny.

 

 

3.16

P-05-726 Rhoi Rhyddhad Ardrethi i Awdurdodau Lleol ar gyfer Cyfleusterau Hamdden a Diwylliannol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol a chytunodd i aros am sylwadau'r deisebydd cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach.

 

3.17

P-05-727 Arian i dalu ffi cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg ar ran Gweithwyr Cymorth Dysgu mewn ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i oofyn am ei hymateb i bryderon a chwestiynau’r deisebwyr, ac i ofyn a yw'n fwriad gan Lywodraeth Cymru i barhau i roi cymhorthdal ​​i helpu i dalu ffioedd cofrestru staff ysgol ar gyflog isel.

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

5.

Blaenraglen waith

6.

P-05-710 Sicrhau y gall pobl anabl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus pryd bynnag y bo’i hangen arnynt – trafodaeth yn ystod y sesiwn dystiolaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd ar 31 Ionawr gyda Llysgenhadon Whizz-Kidz a chytunodd i gymryd tystiolaeth lafar ychwanegol gan y canlynol:

 

 

  • Gweithredwyr rheilffyrdd;
  • Gweithredwyr bysiau;
  • Gwasanaethau tacsi;
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; ac
  • Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith