P-05-713 The Wildlife Warriors

P-05-713 The Wildlife Warriors

http://senedd.cynulliad.cymru/SiteSpecific/ArrowGraphics/Petitions_Arrows_04.jpg

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Lee Kabza, ar ôl casglu 13 llofnod ar lein

 

Geiriad y ddeiseb

Mae Fforwm Iau Caerffili yn gweithio gyda phlant 7-11 oed ym mwrdeistref Caerffili i roi llais i blant am faterion sydd o bwys i blant.

Bob blwyddyn mae’r Fforwm Iau yn nodi pwnc blaenoriaeth i roi sylw iddo. Y flaenoriaeth ar gyfer 2015-2016 yw gwarchod cynefin naturiol bywyd gwyllt.

Mae aelodau’r Fforwm Iau yn credu y dylai fod gan bob ysgol gynradd yng Nghymru glwb amgylchedd o’r enw’r "Wildlife Warriors" i gynorthwyo i warchod amgylchedd naturiol ein bywyd gwyllt.

 

Byddai’r clwb hwn

·         yn wahanol i ecobwyllgorau ysgolion gan y byddai unrhyw un o unrhyw oedran yn cael ymuno. Ni fyddai angen i blant gael eu hethol i fod yn y clwb.

·         yn weithredol trwy’r flwyddyn er mwyn cynorthwyo i warchod bywyd gwyllt.

·         yn weithgar yn eu cymuned ac yn gwneud gweithgareddau ymarferol i gynorthwyo i warchod bywyd gwyllt. Gallai’r gweithgareddau hyn gynnwys glanhau afonydd, adeiladu cartrefi i fywyd gwyllt, plannu blodau a choed.

·         yn hyblyg er mwyn i wahanol bobl allu ymuno ar wahanol adegau

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 14/02/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, o ystyried y cytundeb cyffredinol  rhwng Cadwch Gymru'n Daclus a Llywodraeth Cymru ynghylch rôl Wildlife Warriors cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb gan ddiolch i’r deisebwyr am gyfrannu at y broses ddeisebau.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 30/09/2016