P-04-597 Diogelu dyfodol Draig Ffynci, Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru
Rydym ni, sydd wedi arwyddo isod, yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddiogelu dyfodol Draig Ffynci,
Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru, drwy adfer y cyllid craidd. Rhaid i Gymru
gael llwyfan cenedlaethol annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc, sy’n cael ei
arwain gan ieuenctid a’i ariannu’n gyhoeddus, ac sydd wedi’i ethol yn
ddemocrataidd ar lefel leol, er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw leisio’u barn a’u
safbwyntiau, a sicrhau bod Llywodraeth Cymru’n atebol. Rhaid bod gan y llwyfan
cenedlaethol hwnnw’r grym i weithio gyda’r holl Aelodau etholedig i hyrwyddo
materion plant a phobl ifanc, ac i adrodd yn uniongyrchol i Bwyllgor y
Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, fel y llwyddodd Draig Ffynci i wneud
yn 2008.
Mae’r Ddraig
Ffynci yn parhau i gredu fel a ganlyn:
1. Y dylai pobl ifanc, a etholir yn ddemocrataidd yn
lleol, gael llwyfan cenedlaethol i leisio eu safbwyntiau a’u barn;
2. Y dylid galw’r llwyfan hwnnw yn Gynulliad Ieuenctid
Cymru;
3. Y dylai allu gweithio gyda phob Aelod Etholedig, gan
gynnwys Aelodau’r Cynulliad ac Aelodau Seneddol er mwyn datblygu materion pobl
ifanc;
4. Y dylid ei gefnogi fel y gall pobl ifanc Cymru adrodd
yn uniongyrchol i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Dywedodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r
Plentyn, wrth wneud sylw ar adroddiad diwethaf y DU, (sylw terfynol 33), y
dylai fforymau cymorth llywodraethau ar gyfer cyfranogiad plant, fel Senedd
Ieuenctid y Deyrnas Unedig, y Ddraig Ffynci yng Nghymru a’r Senedd Ieuenctid yn
yr Alban, gael eu gweithredu.
Prif
ddeisebydd Catherine
Patricia Jones
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 23 Medi 2014
Nifer
y llofnodion: 1,212 a’r lein a 429 llofnod papur. Cyfanswm 1,641
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/09/2014