Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 303KB) Gweld
fel HTML (103KB) |
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: |
|
Deisebau newydd |
|
P-05-718 Cyflogau GIG Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
y deisebydd i ofyn ei farn ar y wybodaeth a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet
dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. |
|
P-05-723 Sefydlu System Bleidleisio Cynrychiolaeth Gyfrannol ar gyfer Etholiadau Cynghorau Lleol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ohirio ei
thrafodaethau tan fod y gwaith o graffu ar Fil Cymru wedi'i gwblhau, ac i
ystyried safbwyntiau manwl y deisebydd ar y cam hwnnw. |
|
P-05-729 Cael Gwared ar Gyfyngiadau Cyflymder ar yr M4 wrth Dwnelau Bryn-glas Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i ofyn a oes asesiad llawn
wedi'i gyflawni o effaith cyflwyno terfyn cyflymder newidiol, a gofyn iddo
rannu unrhyw ganfyddiadau â'r Pwyllgor. |
|
P-05-730 Cyllid ac Ariannu Llywodraeth Leol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol er mwyn gofyn a fyddai'r
deisebwyr yn gallu cyfrannu at y broses o ddatblygu cynigion i ddiwygio
llywodraeth leol, ac os felly, sut. |
|
P-05-731 Gwerthu Tir a Lonydd Mynediad yn Abercwmboi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb
gan y deisebydd cyn penderfynu pa gamau i'w cymryd ynglŷn â'r mater. |
|
P-05-732 Amseroedd Aros Annerbyniol ar gyfer Cleifion y GIG yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys Wrecsam/Ysbyty Wrecsam Maelor Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am ymateb gan y
deisebydd, ac i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ofyn pa
gamau sy'n cael eu cymryd i wella amseroedd aros yr adran Damweiniau ac
Achosion Brys Ysbyty Maelor Wrecsam. |
|
P-05-733 Dim gweithredu pellach ar Barthau Perygl Nitradau (NVZ) yng Nghymru o gwbl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am farn y
deisebydd ar ymateb Llywodraeth Cymru cyn penderfynu a ddylid cymryd camau
pellach ynglŷn â'r mater hwn. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ddiweddaraf gan y deisebydd gan fynegi
siom na gafwyd ymateb i'r ohebiaeth flaenorol a anfonwyd at Fwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu eto at y Bwrdd
Iechyd, gan geisio: ·
ei ymateb i'r sylwadau diweddaraf gan y deisebydd, a; ·
gwybodaeth am fynediad i wasanaethau mân anafiadau yn ardal Tywyn, gan
gynnwys y tu allan i oriau agor Ysbyty Tywyn. |
|
P-04-621 Cadw’r Uned Famolaeth dan Arweiniad Ymgynghorwyr yn Ysbyty Glan Clwyd ar Agor Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i gau'r
ddeiseb gan fod y deisebydd bellach wedi cadarnhau, gan na chyflwynwyd y
newidiadau arfaethedig y rhoddwyd sylw iddynt yn y ddeiseb, ei bod yn fodlon
bod canlyniad derbyniol wedi'i sicrhau ar y mater. |
|
P-04-663 Bwyd yn Ysbytai Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon
Cyhoeddus a chytunodd i aros am adroddiad y Pwyllgor ar arlwyo mewn ysbytai a
maeth cleifion, ac i geisio barn y deisebydd ar ôl hynny. |
|
P-04-676 Creu Pencampwr yr Iaith Gymraeg mewn Cymunedau yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
a'r deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am ei
gyfraniad. Wrth wneud hynny, cytunodd y
Pwyllgor i rannu'r cynnig a wnaed gan y deisebydd i gefnogi'r gwaith o
ddatblygu pencampwyr iaith cymunedol gyda Llywodraeth Cymru ac Un Llais Cymru. |
|
P-04-681 Caniatáu i’r Cyhoedd Recordio Cyfarfodydd Llywodraeth Leol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a
Llywodraeth Leol a chytunodd i ofyn am ragor o wybodaeth am sut y mae'n bwriadu
mynd ati i orfodi'r drefn o recordio trafodion. |
|
P-05-728 Diogelu Cyllid Teuluoedd yn Gyntaf Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor sylwadau gan y deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb
ar y sail y bydd y gyllideb ar gyfer Teuluoedd yn Gyntaf yn cael ei chynnal ar
gyfer 2017-2018. |
|
P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i rannu
canlyniadau'r cynllun monitro traffig gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Economi a'r Seilwaith, gan ofyn am ei sylwadau a gofyn a allai'r wybodaeth hon
gael ei hystyried fel rhan o'r gwaith parhaus ar ddiogelwch y darn hwn o'r
ffordd. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Item
5. |
|
P-04-668 Cefnogi Sgrinio Blynyddol ar gyfer Canser yr Ofari (prawf gwaed CA125) Dogfennau ategol: |
|
Blaenraglen Waith Dogfennau ategol:
|