P-676 Creu Pencampwr yr Iaith Gymraeg mewn Cymunedau yng Nghymru

P-676 Creu Pencampwr yr Iaith Gymraeg mewn Cymunedau yng Nghymru

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan  Cynghorydd Sion Jones  ar ôl casglu 10 Llofnod.

 

Geiriad y ddeiseb

Cyflwynaf y ddeiseb hon i chi fel pwynt cychwyn ar yr ymgyrch i greu Pencampwr yr Iaith Gymraeg drwy ein cymunedau yng Nghymru. Bydd y rôl hon yn un wirfoddol o fewn y gymuned, a bydd y pencampwr yn cael ei benodi i hyrwyddo defnydd o'r Iaith Gymraeg yng Nghymru, a chefnogi datblygiadau o fewn ei chymunedau.

Bydd y Pencampwr yn arwain materion gyda'r iaith, yn cynnwys rôl o fewn Ysgolion Cynradd ac Uwchradd, rôl o fewn Cynghorau Plwyf a Thref, a chyswllt agos gyda Chynghorwyr Sir a'r Cyngor Sir.

Bydd y Pencampwr yn cael cymorth gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg i weithredu'r rôl, ac i sicrhau bod cymunedau yng Nghymru yn cyd-fynd â pholisïau lleol a Chymru.

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 12/07/2016 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a'r deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am ei gyfraniad.  Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i rannu'r cynnig a wnaed gan y deisebydd i gefnogi'r gwaith o ddatblygu pencampwyr iaith cymunedol gyda Llywodraeth Cymru ac Un Llais Cymru.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·        Arfon

·        Gogledd Cymru

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/02/2016