P-05-730 Cyllid ac Ariannu Llywodraeth Leol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan UNISON Wales ar ôl
casglu 2,192 llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru
i annog Llywodraeth Cymru i:
a. Gynyddu cyfanswm cyllid (refeniw) allanol i
awdurdodau lleol i o leiaf y lefelau hynny a oedd yn berthnasol yn 2013/14 mewn
termau real.
b. Cyflwyno deddfwriaeth a fyddai’n darparu ‘pŵer
cymhwysedd cyffredinol’ i awdurdodau lleol yng Nghymru.
c. Annog awdurdodau lleol i ddefnyddio eu pwerau
presennol i ddarparu nwyddau a gwasanaethau i rannau eraill o’r sector
cyhoeddus yng Nghymru, ac i ymchwilio a masnachu drwy ddatblygu amrywiaeth o
nwyddau a gwasanaethau y gellir eu cyflenwi i’r cyhoedd yn gyffredinol ac i’r
sector preifat yn fwy cyffredinol.
d. Gweithio gydag awdurdodau lleol yng Nghymru i
ryddhau ffrydiau refeniw presennol drwy, er enghraifft, ailariannu neu ddisodli
cynlluniau PFI ar d.elerau mwy ffafriol, gan ddefnyddio’r cyfleoedd a gynigir
gan gyfraddau llog hanesyddol isel.
e. Ymgymryd â chefnogi gwaith y Comisiwn Annibynnol
Materion Ariannol Llywodraeth Leol Cymru
Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn gweld gwerth y
gwasanaethau a ddarperir gan gynghorau lleol yng Nghymru, ac rydym o’r farn,
drwy weithredu’r camau hyn y gall Llywodraeth Cymru helpu i atal difrod pellach
i ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus yn lleol; er, rydym yn cydnabod fod y
camau hyn yn ddim ond rhan o’r ateb, ac y bydd angen rhoi terfyn ar raglen
galedi Llywodraeth San Steffan i sicrhau y gall gwasanaethau cyhoeddus gael eu
hariannu mewn ffordd gynaliadwy a digonol yn y dyfodol.
Gwybodaeth ychwanegol
UNSAIN Cymru yw Undeb Llafur
mwyaf y sector cyhoeddus, sy’n cynrychioli oddeutu 100,000 o weithwyr sector
cyhoeddus yng Nghymru.
Mae UNSAIN Cymru, yn ogystal ag ymgyrchu dros
ddiweddu caledi a thros Ariannu Teg i Gymru gan Lywodraeth San Steffan, hefyd
yn ymgyrchu dros ddiogelu gwariant ar lywodraeth leol gan Lywodraeth Cymru, ac
yn cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau y caiff gwasanaethau ein cynghorau,
sy’n sicrhau bod ein cymunedau yn iach ac yn addysgedig eu diogelu
Statws
Yn ei gyfarfod ar 07/03/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail bod gan y deisebwyr ar hyn o
bryd gyfle i roi eu barn o ran datblygu cynigion ar ddiwygio llywodraeth leol,
ac nad oes fawr o werth pellach y gall y Pwyllgor Deisebau gynnig ochr yn ochr
â'r broses honno.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Canol Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r
Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses
Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/11/2016