P-04-663 Bwyd yn Ysbytai Cymru

P-04-663 Bwyd yn Ysbytai Cymru

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Rachel Flint ar ôl casglu 40 Llofnod

 

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio safonau bwyd yn ysbytai Cymru. Rhaid archwilio darpariaeth pob bwrdd iechyd i sicrhau ei fod yn ateb gofynion cleifion a'r rhai sydd ag anghenion dietegol a chyflyrau meddygol, a rhaid gorfodi safonau ym mhob rhan o GIG Cymru. Dylid darparu bwyd maethlon a ffres mewn ysbytai fel rhan bwysig o becyn gofal y claf ac i helpu i adfer iechyd yn hytrach na gwneud pethau'n waeth. Rhaid darparu ar gyfer anghenion dietegol – a gofalu bod bwyd heb glwten neu lactos ar gael, ynghyd â bwyd i'r rhai sy'n dioddef o glefyd seliag, llysieuwyr a feganiaid - ond mae profiad yn dangos nad yw hyn yn digwydd ar hyn o bryd a bod cleifion yn aml yn teimlo'u bod yn creu trafferth os ydynt yn gofyn am fwyd gwahanol. Rhaid safoni bwyd i gleifion sy'n dioddef o gyflyrau meddygol – gan gynnwys y rhai sy'n dioddef o gyflyrau'r coluddyn neu sydd wedi cael llawdriniaeth, i sicrhau eu bod yn cael y maeth priodol bob amser.  Ar hyn o bryd, mae cleifion ar rai wardiau'n cael yr un bwyd waeth beth yw eu cyflwr, eu pwysau na'u hanghenion dietegol. Nid yw hyn yn dderbyniol - gall beri gofid i gleifion a gall fod yn niweidiol iddynt. Ni ddylai ysbytai ddibynnu ar berthnasau i ddod â bwyd i'r cleifion, ni ddylent ddisgwyl i'r cleifion fwyta'r un pryd diflas bob dydd, na chaniatáu iddynt ddihoeni os na allant fwyta'r bwyd sydd ar gael. Rhaid i faeth fod yn rhan allweddol o becyn gofal pob claf. Nid ydym yn gofyn i ysbytai gynnig bwyd sy'n haeddu seren Michelin, dim ond prydau bwyd sy'n gwneud lles, yn hytrach na niwed, i gleifion.   

 

Gwybodaeth ychwanegol

Mae fy mhrofiad i o'r bwyd y mae'r GIG yn ei ddarparu'n dangos bod y safonau'n amrywio'n ôl ward, ysbyty ac adran ac mae gwahaniaeth hefyd rhwng safonau yng Nghymru a Lloegr. Nid yng Nghymru yn unig y mae'r broblem– mae'r GIG yn gyffredinol yn cael trafferth darparu prydau bwyd i'r rhai sydd ag ymwrthedd isel neu sydd â chyflyrau dietegol. Ond mae fy mhrofiad o fwyd ysbytai Cymru yn ddiweddar yn dangos nad yw'r safon yn ddigon da. Nid oedd bwydlenni i'w cael (yn wahanol i ysbyty Caer ac ysbytai eraill Lloegr) ac roedd y cleifion i gyd yn cael yr un pryd bwyd waeth beth oedd eu cyflwr, eu pwysau neu eu hanghenion dietegol. Ar un ward, cynigiwyd cyri, cawl ffacbys a brechdanau tiwna a chorn melys i gleifion a oedd newydd gael llawdriniaeth ar y coluddyn. Roedd y bwydydd hyn yn gwbl amhriodol - ac o bosibl yn niweidiol. Ar adegau, os nad oeddech yn gallu bwyta dim a oedd ar y troli neu os nad oeddech wrth ymyl eich gwely, nid oeddech yn bwyta, oni bai bod nyrs yn fodlon gwneud tost i chi. Rhaid i hyn newid; heb y maeth priodol, rwy'n credu bod pobl yn gorfod aros yn hirach yn yr ysbyty.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

• De Caerdydd a Phenarth

•Canol De Cymru

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/07/2016