P-04-621 Cadw’r Uned Famolaeth dan Arweiniad Ymgynghorwyr yn Ysbyty Glan Clwyd ar Agor

P-04-621 Cadw’r Uned Famolaeth dan Arweiniad Ymgynghorwyr yn Ysbyty Glan Clwyd ar Agor

Wedi'i gwblhau

 

Yr ydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn gofyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr roi’r gorau i gau’r Uned Famolaeth dan arweiniad Ymgynghorwyr yn Ysbyty Glan Clwyd.  Credwn y bydd cau’r uned yn niweidio lles merched beichiog a’u teuluoedd, ac y bydd yn peryglu bywydau.  Nid ydym yn credu ei fod yn iawn nac yn deg i gleifion orfod teithio hyd at 30 milltir am driniaeth, yn enwedig pan fydd angen triniaeth ar frys.  Credwn y bydd y pwysau ychwanegol ar staff Ysbyty Maelor ac Ysbyty Gwynedd yn niweidio’r gwasanaethau mamolaeth yn yr ysbytai hynny.  Gofynnwn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ystyried opsiynau eraill (fel cau’r uned i driniaethau dewisol) a chadw ymgynghorwyr yn Ysbyty Glan Clwyd ar gyfer diogelwch merched beichiog.

 

Prif ddeisebydd: Rebecca Roberts  

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:

 

Nifer y llofnodion: 562 ar lein

 

Yn ei gyfarfod ar 17/01/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb gan fod y deisebydd bellach wedi cadarnhau, gan na chyflwynwyd y newidiadau arfaethedig y rhoddwyd sylw iddynt yn y ddeiseb, ei bod yn fodlon bod canlyniad derbyniol wedi'i sicrhau ar y mater.

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 12/03/2015