Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 239(v5)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 06/11/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Mae’r Llywydd wedi
cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn
ateb cwestiynau ar ran y Gweinidog. Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Cafodd y Llywydd ei hysbysu, o dan Reol Sefydlog 12.58, y
byddai Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn ateb cwestiynau ar ran y
Gweinidog. Gofynnwyd
y 9 cwestiwn cyntaf i Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Gwahoddodd
y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) Bydd
y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl
Cwestiwn 3. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem
am 14.20 Gofynnwyd
cwestiynau 2 - 8. Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y
pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 3. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Dadl o dan Reol Sefydlog 25.15 ar Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2019 - Gorchymyn Adran 109 yn ymwneud â Swyddogion Cofrestru Etholiadol NDM7176 Jeremy
Miles (Castell-nedd) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 25.15 yn cymeradwyo fersiwn
ddrafft Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2019. Gosodwyd y Gorchymyn
drafft
a'r Memorandwm
Esboniadol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Hydref 2019. Dogfen Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 14.56 NDM7176 Jeremy Miles (Castell-nedd) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 25.15 yn cymeradwyo
fersiwn ddrafft Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2019. Gosodwyd y Gorchymyn drafft a'r Memorandwm Esboniadol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Hydref 2019. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Nid oedd cyfnod
pleidleisio. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gwneud o benderfyniad GIG
Lloegr i gymeradwyo'r defnydd o Orkambi a Symkevi? Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am golli 2763 o gleifion yn ddiweddar o'r
rhestr aros ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg? Gofyn i’r Prif Weinidog: Leanne Wood (Rhondda): Pa drafodaethau y mae’r
Prif Weinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ar y goblygiadau i Gymru yn
dilyn ymddiswyddiad Ysgrifennydd Gwladol Cymru? Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.00 Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol Jack Sargeant (Alun a Glannau
Dyfrdwy): Pa ystyriaeth y mae
Llywodraeth Cymru wedi'i gwneud o benderfyniad GIG Lloegr i gymeradwyo'r
defnydd o Orkambi a Symkevi? Angela
Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog
ddatganiad am golli 2763 o gleifion yn ddiweddar o'r rhestr aros ym Mwrdd
Iechyd Cwm Taf Morgannwg? Atebwyd gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd Leanne Wood (Rhondda): Pa
drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael gyda Llywodraeth y DU ar y
goblygiadau i Gymru yn dilyn ymddiswyddiad Ysgrifennydd Gwladol Cymru? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.24 Gwnaeth
Vikki Howells ddatganiad am Penblwydd Hapus SuperTed. Gwnaeth
Nick Ramsay ddatganiad am Dathlu
Pen-blwydd Cwmbran yn 70 – Unig Dref Newydd Cymru o Gam Cyntaf y Ddeddf Trefi
Newydd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) NDM7175 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36: Yn cytuno i waredu’r
adrannau a’r atodlenni i’r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y
drefn ganlynol: a) adrannau 2 i 9, b) Atodlen 1, c) adrannau 10 i 28, d) Atodlen 2, e) adran 29, f) Atodlen 3, g) adrannau 30 i 41, h) adran 1, i) Teitl hir. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.27 NDM7175 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36: Yn cytuno i
waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) yng
Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol: a) adrannau 2 i 9, b) Atodlen 1, c) adrannau 10 i
28, d) Atodlen 2, e) adran 29, f) Atodlen 3, g) adrannau 30 i
41, h) adran 1, i) Teitl hir. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Hepatitis C: Cynnydd tuag at ei ddileu yng Nghymru NDM7174 Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Hepatitis C: Cynnydd tuag at
ei ddileu yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno
ar 27 Mehefin 2019. Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth
Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Awst 2019. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.28 NDM7174 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Hepatitis C: Cynnydd tuag at
ei ddileu yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 27 Mehefin 2019. Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar Ddeiseb P-05-854 - Gwneud Hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai NDM7177 Janet
Finch-Saunders (Aberconwy) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-854
Gwneud Hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai’ a
gasglodd 5,654 o lofnodion P-05-854
Gwneud hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.56 NDM7177 Janet Finch-Saunders (Aberconwy) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn
nodi’r ddeiseb ‘P-05-854 Gwneud Hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer
staff ysbytai’ a gasglodd 5,654 o lofnodion P-05-854 Gwneud Hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer
staff ysbytai Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. Oherwydd
nam technegol, cafodd y trafodion eu hatal dros dro am 16.39 am 15 munud.
Cafodd y gloch ei chanu 5munud cyn ailgynnull. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Mynediad at Wasanaethau Iechyd NDM7178 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn mynegi pryder ynghylch
y diffyg mynediad at wasanaethau meddygol sylfaenol, gan gynnwys meddygon teulu
a deintyddiaeth y GIG, mewn sawl rhan o Gymru. 2. Yn galw am
recriwtio a chadw staff meddygol ychwanegol i sicrhau mynediad priodol at
wasanaethau iechyd ledled Cymru. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r camau
gweithredu cadarnhaol sydd ar y gweill drwy Fodel Gofal Sylfaenol Cymru i wella
mynediad pobl, ddydd a nos, at y gweithiwr proffesiynol a’r gwasanaeth cywir ar
gyfer eu hanghenion penodol. 2. Yn nodi’r gwelliant
amlwg yn lefelau recriwtio meddygon i’r rhaglen hyfforddiant arbenigol ar gyfer
meddygon teulu eleni. [Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol] Gwelliant 2 - Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu bod dros
119,000 o gleifion yng Nghymru o dan ofal practisau meddygon teulu mewn perygl
ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gofal sylfaenol yn cael ei
ariannu'n ddigonol drwy dderbyn o leiaf 10 y cant o gyllideb gyfan y GIG. Gwelliant 3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny: Yn nodi pryderon
parhaus Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru ynghylch cynaliadwyedd gwasanaethau
gofal sylfaenol yn y dyfodol a chyhoeddi map gwres diweddaraf practisau
meddygon teulu Cymru. Cymdeithas
Feddygol Prydain - map gwres practisau meddygon teulu Cymru Ebrill 2019 Gwelliant 4 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ym mhwynt 2, ar ôl
'ychwanegol' rhoi 'a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill'. Gwelliant 5 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ymhellach ar
Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad bon a brig o'r gwaith o gynllunio gweithlu
yn y GIG yng Nghymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.54 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7178 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn mynegi pryder ynghylch y diffyg mynediad at wasanaethau meddygol
sylfaenol, gan gynnwys meddygon teulu a deintyddiaeth y GIG, mewn sawl rhan o
Gymru. 2. Yn galw am recriwtio a chadw staff meddygol ychwanegol i sicrhau
mynediad priodol at wasanaethau iechyd ledled Cymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r camau
gweithredu cadarnhaol sydd ar y gweill drwy Fodel Gofal Sylfaenol Cymru i wella
mynediad pobl, ddydd a nos, at y gweithiwr proffesiynol a’r gwasanaeth cywir ar
gyfer eu hanghenion penodol. 2. Yn nodi’r gwelliant
amlwg yn lefelau recriwtio meddygon i’r rhaglen hyfforddiant arbenigol ar gyfer
meddygon teulu eleni. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1
wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol Gwelliant 5 - Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ymhellach ar
Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad bon a brig o'r gwaith o gynllunio gweithlu
yn y GIG yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7178 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi’r camau
gweithredu cadarnhaol sydd ar y gweill drwy Fodel Gofal Sylfaenol Cymru i wella
mynediad pobl, ddydd a nos, at y gweithiwr proffesiynol a’r gwasanaeth cywir ar
gyfer eu hanghenion penodol. 2. Yn nodi’r gwelliant
amlwg yn lefelau recriwtio meddygon i’r rhaglen hyfforddiant arbenigol ar gyfer
meddygon teulu eleni.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru - Rotas Newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr NDM7179 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gwrthwynebu penderfyniad
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyflwyno rotas newydd a fydd yn
ymestyn sifftiau staff nyrsio o fis Ionawr 2020. 2. Yn credu bod hwn yn
gam niweidiol ac yn gam yn ôl - yn enwedig ar adeg pan fo mwy nag un o bob deg
swydd nyrsio yn y Bwrdd Iechyd yn wag. 3. Yn nodi bod Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod o dan fesurau arbennig dros y pedair
blynedd diwethaf a'i fod felly o dan reolaeth uniongyrchol y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i wrthdroi'r penderfyniad a diogelu amodau gwaith nyrsys. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gwerthfawrogi
gweithlu’r GIG a’n trefniadau gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol ym Mwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ac ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru. 2. Yn nodi bod BIPBC
yn parhau i ymgysylltu â’r staff nyrsio a’u hundebau llafur ynglŷn â
newidiadau i rotas nyrsio. [Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol] Gwelliant 2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnwys fel pwynt
newydd ar ol pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu ymhellach
bod nifer y diwrnodau gwaith a gollir oherwydd straen a materion yn ymwneud ag
iechyd meddwl o fewn y bwrdd iechyd wedi cynyddu 20 y cant ers 2014. Gwelliant 3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Ym mhwynt 3, dileu
'dros y pedair blynedd diwethaf' a rhoi 'am dros bedair blynedd' yn ei le. Gwelliant 4 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnwys pwynt newydd
ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny: Yn gresynu bod y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi methu â rhwystro'r
penderfyniad hwn rhag cael ei wneud. Gwelliant 5 - Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ymhellach ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a
byrddau iechyd eraill ledled Cymru yn ceisio osgoi Deddf Lefelau Staff Nyrsio
(Cymru) 2016 drwy ailddosbarthu patrymau gwaith. Deddf
Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.28 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7179 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gwrthwynebu penderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i
gyflwyno rotas newydd a fydd yn ymestyn sifftiau staff nyrsio o fis Ionawr
2020. 2. Yn credu bod hwn yn gam niweidiol ac yn gam yn ôl - yn enwedig ar adeg
pan fo mwy nag un o bob deg swydd nyrsio yn y Bwrdd Iechyd yn wag. 3. Yn nodi bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod o dan
fesurau arbennig dros y pedair blynedd diwethaf a'i fod felly o dan reolaeth
uniongyrchol y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthdroi'r penderfyniad a diogelu amodau
gwaith nyrsys.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gwerthfawrogi
gweithlu’r GIG a’n trefniadau gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol ym Mwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ac ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru. 2. Yn nodi bod BIPBC yn
parhau i ymgysylltu â’r staff nyrsio a’u hundebau llafur ynglŷn â
newidiadau i rotas nyrsio. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1
wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol Gwelliant 5 - Caroline Jones (Gorllewin
De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ymhellach ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a byrddau
iechyd eraill ledled Cymru yn ceisio osgoi Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru)
2016 drwy ailddosbarthu patrymau gwaith. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 5:
Gwrthodwyd gwelliant 5. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7179 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gwerthfawrogi
gweithlu’r GIG a’n trefniadau gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol ym Mwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ac ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru. 2. Yn nodi bod BIPBC yn
parhau i ymgysylltu â’r staff nyrsio a’u hundebau llafur ynglŷn â
newidiadau i rotas nyrsio.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.52 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7171 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cofio a pharchu: pam y
dylem ddiogelu cofebion rhyfel yng Nghymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.57 NDM7171 Paul Davies (Preseli Sir
Benfro) Cofio a pharchu: pam y dylem ddiogelu cofebion rhyfel yng
Nghymru. |