Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) - Y Bumed Senedd
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) - Y Bumed Senedd
Caiff Aelodau'r
Cynulliad ofyn Cwestiynau Llafar y Cynulliad i Weinidogion am unrhyw fater sy'n dod o fewn eu cyfrifoldeb. Mae hyn yn cynnwys y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog
Brexit (mewn perthynas â’i gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit).
Bydd
Gweinidogion yn ateb cwestiynau unwaith bob pedair wythnos. Atebir cwestiynau
llafar yn ystod cyfnod a neilltuir ar gyfer Cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.
Bydd y Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno
cwestiynau. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.
Yna,
rhaid i'r Aelod a ddetholir gyflwyno'r cwestiwn llafar o leiaf bum niwrnod cyn
y dyddiad a bennwyd ar gyfer ei ateb. Defnyddir cyfrifiadur i ddewis trefn ar
hap ar gyfer gofyn y cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/02/2019