Datganiadau 90 Eiliad

Yn dilyn y cwestiynau ar ddydd Mercher, gall Aelodau wneud datganiad personol byr. Rhaid i'r rhain fod yn fyr ac yn ffeithiol, ac nid ydynt yn destun dadl.

Gellir eu defnyddio i dynnu sylw at unrhyw bwnc sy’n destun pryder. Er enghraifft, gall Aelodau godi materion sy'n peri pryder mawr i'w hetholwyr, tynnu sylw at broblemau lleol, penblwyddi neu ddyddiadau arwyddocaol, neu dalu teyrnged i rywun.

Neilltuir cyfanswm o bum munud i’r eitem hon ac, fel yr awgryma'r enw, ni chaiff yr un datganiad bara mwy na 90 eiliad. Mae hyn yn caniatáu i dri Aelod wneud datganiadau bob wythnos, a chaiff y rhain eu dewis ymlaen llaw gan y Llywydd.

Math o fusnes: Datganiad

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Cyhoeddwyd yr adroddiad

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/01/2017