NDM7178 Dadl Plaid Cymru - Mynediad at Wasanaethau Iechyd
NDM7178 Dadl Plaid Cymru - Mynediad at Wasanaethau Iechyd
NDM7178 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn mynegi pryder ynghylch y diffyg mynediad at
wasanaethau meddygol sylfaenol, gan gynnwys meddygon teulu a deintyddiaeth y
GIG, mewn sawl rhan o Gymru.
2. Yn galw am recriwtio a chadw staff meddygol ychwanegol
i sicrhau mynediad priodol at wasanaethau iechyd ledled Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r camau gweithredu cadarnhaol sydd ar y gweill
drwy Fodel Gofal Sylfaenol Cymru i wella mynediad pobl, ddydd a nos, at y
gweithiwr proffesiynol a’r gwasanaeth cywir ar gyfer eu hanghenion penodol.
2. Yn nodi’r gwelliant amlwg yn lefelau recriwtio
meddygon i’r rhaglen hyfforddiant arbenigol ar gyfer meddygon teulu eleni.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu
dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â
hynny:
Yn gresynu bod dros 119,000 o gleifion yng Nghymru o dan
ofal practisau meddygon teulu mewn perygl ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i
sicrhau bod gofal sylfaenol yn cael ei ariannu'n ddigonol drwy dderbyn o leiaf
10 y cant o gyllideb gyfan y GIG.
Gwelliant 3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â
hynny:
Yn nodi pryderon parhaus Cymdeithas Feddygol Prydain
Cymru ynghylch cynaliadwyedd gwasanaethau gofal sylfaenol yn y dyfodol a
chyhoeddi map gwres diweddaraf practisau meddygon teulu Cymru.
Cymdeithas
Feddygol Prydain - map gwres practisau meddygon teulu Cymru Ebrill 2019
Gwelliant 4 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 2, ar ôl 'ychwanegol' rhoi 'a gweithwyr iechyd
proffesiynol eraill'.
Gwelliant 5 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad
bon a brig o'r gwaith o gynllunio gweithlu yn y GIG yng Nghymru.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/06/2021
Angen Penderfyniad: 6 Tach 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS