NDM7179 Dadl Plaid Cymru - Rotas Newydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
NDM7179 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gwrthwynebu penderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr i gyflwyno rotas newydd a fydd yn ymestyn sifftiau staff nyrsio
o fis Ionawr 2020.
2. Yn credu bod hwn yn gam niweidiol ac yn gam yn ôl - yn
enwedig ar adeg pan fo mwy nag un o bob deg swydd nyrsio yn y Bwrdd Iechyd yn
wag.
3. Yn nodi bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
wedi bod o dan fesurau arbennig dros y pedair blynedd diwethaf a'i fod felly o
dan reolaeth uniongyrchol y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthdroi'r penderfyniad
a diogelu amodau gwaith nyrsys.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gwerthfawrogi gweithlu’r GIG a’n trefniadau
gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr (BIPBC) ac ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru.
2. Yn nodi bod BIPBC yn parhau i ymgysylltu â’r staff
nyrsio a’u hundebau llafur ynglŷn â newidiadau i rotas nyrsio.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu
dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnwys fel pwynt newydd ar ol pwynt 2 ac ailrifo yn unol
â hynny:
Yn gresynu ymhellach bod nifer y diwrnodau gwaith a
gollir oherwydd straen a materion yn ymwneud ag iechyd meddwl o fewn y bwrdd
iechyd wedi cynyddu 20 y cant ers 2014.
Gwelliant 3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 3, dileu 'dros y pedair blynedd diwethaf' a
rhoi 'am dros bedair blynedd' yn ei le.
Gwelliant 4 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â
hynny:
Yn gresynu bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol wedi methu â rhwystro'r penderfyniad hwn rhag cael ei wneud.
Gwelliant 5 - Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau nad yw
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a byrddau iechyd eraill ledled Cymru yn
ceisio osgoi Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 drwy ailddosbarthu
patrymau gwaith.
Deddf
Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/06/2021
Angen Penderfyniad: 6 Tach 2019 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS