Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd/ Zoom
Cyswllt: Aled Elwyn Jones
Amseriad disgwyliedig: 292
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 30/09/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.20 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Atebwyd cwestiwn 5 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Ni dderbyniwyd
unrhyw Cwestiynau Amserol. Cofnodion: Ni ddewiswyd unrhyw Gwestiynau Amserol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.27 Gwnaeth Mike Hedges
ddatganiad am: Canser y Fron – Gwisgwch binc. Gwnaeth Elin Jones
ddatganiad am: Penblwydd Radio Bronglais yng Ngheredigion yn 50. Yn unol â Rheol Sefydlog
12.18, am 15.30 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Cadeirydd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Effaith Covid-19, a'r modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru NDM7401 Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod Senedd
Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar ei Ymchwiliad i effaith
Covid-19, a'r modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng
Nghymru, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Gorffennaf 2020. Nodyn: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Medi 2020. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.40 NDM7401 Dai Lloyd (Gorllewin De
Cymru) Cynnig bod Senedd Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar ei Ymchwiliad i effaith Covid-19, a'r
modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Gorffennaf 2020. Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Medi 2020. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Aelod o dan Rheol Sefydlog 11.21 (iv) Incwm Sylfaenol Cyffredinol NDM7384 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) y niwed y mae
tlodi'n ei wneud i gyfleoedd bywyd ac nad yw gwaith bellach yn llwybr
gwarantedig allan o dlodi; b) bod y pandemig wedi
gorfodi mwy o bobl i mewn i dlodi gyda niferoedd cynyddol o breswylwyr yn
gorfod troi at gymorth elusennol fel banciau bwyd; c) yr oedd twf y DU,
hyd yn oed cyn y pandemig, yn wael a'n bod yn wynebu'r her gynyddol o
awtomeiddio, sy'n gosod niferoedd cynyddol o swyddi mewn perygl; d) bod incwm sylfaenol
cyffredinol yn rhoi mwy o reolaeth i bobl dros eu bywydau, yn lleddfu tlodi ac,
yn ogystal, yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl; e) y byddai incwm
sylfaenol cyffredinol yn creu swyddi ac yn annog pobl i fanteisio ar gyfleoedd
hyfforddi; f) bod incwm sylfaenol
cyffredinol yn rhoi'r lle i bobl gymryd mwy o ran yn eu cymuned a chefnogi eu
cymdogion. 2. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru: a) i sefydlu treial
incwm sylfaenol cyffredinol yng Nghymru; b) i lobïo Llywodraeth
y DU am gyllid i sefydlu incwm sylfaenol cyffredinol ledled Cymru. Cefnogwyr Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.27 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7384 Jack Sargeant (Alun a
Glannau Dyfrdwy) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) y niwed y mae tlodi'n
ei wneud i gyfleoedd bywyd ac nad yw gwaith bellach yn llwybr gwarantedig allan
o dlodi; b) bod y pandemig wedi
gorfodi mwy o bobl i mewn i dlodi gyda niferoedd cynyddol o breswylwyr yn
gorfod troi at gymorth elusennol fel banciau bwyd; c) yr oedd twf y DU, hyd
yn oed cyn y pandemig, yn wael a'n bod yn wynebu'r her gynyddol o awtomeiddio,
sy'n gosod niferoedd cynyddol o swyddi mewn perygl; d) bod incwm sylfaenol
cyffredinol yn rhoi mwy o reolaeth i bobl dros eu bywydau, yn lleddfu tlodi ac,
yn ogystal, yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl; e) y byddai incwm
sylfaenol cyffredinol yn creu swyddi ac yn annog pobl i fanteisio ar gyfleoedd
hyfforddi; f) bod incwm sylfaenol
cyffredinol yn rhoi'r lle i bobl gymryd mwy o ran yn eu cymuned a chefnogi eu
cymdogion. 2. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru: a) i sefydlu treial
incwm sylfaenol cyffredinol yng Nghymru; b) i lobïo Llywodraeth y
DU am gyllid i sefydlu incwm sylfaenol cyffredinol ledled Cymru. Cefnogwyr Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.22 cafodd y
cyfarfod ei atal dros dro gan y Cadeirydd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwerth am Arian i Drethdalwyr NDM7404 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod rheoli
arian trethdalwyr yn llwyddiannus yn dibynnu ar amcanion clir, llywodraethu da
a gwaith craffu effeithiol. 2. Yn gresynu at y
ffaith bod dros £1 biliwn wedi'i wastraffu gan Lywodraethau olynol Cymru ar
bolisïau di-rym, prosiectau y cefnwyd arnynt a gorwario yn erbyn cyllidebau ers
2010. 3. Yn gresynu
ymhellach at y ffaith y caniatawyd i bolisïau Cymreig a allai fod wedi bod yn
rhai da edwino oherwydd diffyg cefnogaeth a phenderfyniadau a wnaed gan
ganolbwyntio ar y tymor byr. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sefydlu swyddfa drawsadrannol sydd wrth wraidd y llywodraeth
i sbarduno newid diwylliant, herio'r broses o wneud penderfyniadau a sicrhau
bod gwerth am arian yn cael ei ddarparu i drethdalwyr. Gwelliant 1 Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod rheoli
arian trethdalwyr yn llwyddiannus yn dibynnu ar amcanion clir, llywodraethu da
a gwaith craffu effeithiol ac yn cydnabod bod economeg cyni yn cynnig gwerth
gwael am arian. 2. Yn gresynu at y
ffaith bod Llywodraeth y DU wedi tanariannu a / neu wedi rhwystro nifer o
brosiectau, gwasanaethau a seilweithiau heb eu datganoli yng Nghymru, gan
gynnwys ymchwil a datblygu, rheilffyrdd, cysylltiad band eang ac ynni’r llanw
ers 2010. 3. Yn croesawu’r
cynnydd a wnaed wrth gyflawni polisïau arloesol Llywodraeth Cymru sydd wedi’u
cynllunio ar gyfer pobl Cymru, gan gynnwys: presgripsiynau am ddim, Twf Swyddi
Cymru, system caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau, un llwybr canser, y
cynnig gofal plant, dyblu’r terfyn cyfalaf, Ysgolion yr 21ain Ganrif a’r Gronfa
Cadernid Economaidd. 4. Yn galw ar
Lywodraeth y DU i roi mwy o hyblygrwydd cyllidol i Lywodraeth Cymru er budd
rheoli cyllidebau yn dda Os derbynnir gwelliant
1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu
dad-ddethol] Gwelliant 2 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ôl pwynt 3 ac ailrifo'n unol â hynny: Yn credu bod methiant
Llywodraeth Cymru i gyflawni ei pholisïau wedi helpu i gyfrannu at y diffyg
ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth sydd wedi golygu na chymerodd dros hanner
etholwyr Cymru ran yn etholiadau'r Senedd. Gwelliant 3 Gareth
Bennett (Canol De Cymru) Dileu pwynt 4 a rhoi
yn ei le: Yn galw am refferendwm
cyfrwymol ynghylch a ddylid cadw neu ddiddymu llywodraeth a senedd datganoledig
Cymru, yn sgil methiannau Llywodraeth Cymru. Gwelliant 4 Neil
McEvoy (Canol De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau gwerth am arian drwy: a) cydnabod bod
adnoddau cyhoeddus yn cael eu gwastraffu yn y trydydd sector preifat, drwy
ddyblygu a rheoli pendrwm; b)
democrateiddio'r gwasanaethau a ddarperir drwy ailgyfeirio cyllid i lywodraeth
leol yng Nghymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.34 Gohiriwyd y bleidlais ar
y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7404 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod rheoli arian trethdalwyr yn llwyddiannus yn dibynnu ar
amcanion clir, llywodraethu da a gwaith craffu effeithiol. 2. Yn gresynu at y ffaith bod dros £1 biliwn wedi'i wastraffu gan
Lywodraethau olynol Cymru ar bolisïau di-rym, prosiectau y cefnwyd arnynt a
gorwario yn erbyn cyllidebau ers 2010. 3. Yn gresynu ymhellach at y ffaith y caniatawyd i bolisïau Cymreig a
allai fod wedi bod yn rhai da edwino oherwydd diffyg cefnogaeth a
phenderfyniadau a wnaed gan ganolbwyntio ar y tymor byr. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu swyddfa drawsadrannol sydd wrth
wraidd y llywodraeth i sbarduno newid diwylliant, herio'r broses o wneud
penderfyniadau a sicrhau bod gwerth am arian yn cael ei ddarparu i drethdalwyr.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gwyr) Dileu popeth a rhoi yn
ei le Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod rheoli
arian trethdalwyr yn llwyddiannus yn dibynnu ar amcanion clir, llywodraethu da
a gwaith craffu effeithiol ac yn cydnabod bod economeg cyni yn cynnig gwerth
gwael am arian. 2. Yn gresynu at y
ffaith bod Llywodraeth y DU wedi tanariannu a / neu wedi rhwystro nifer o
brosiectau, gwasanaethau a seilweithiau heb eu datganoli yng Nghymru, gan
gynnwys ymchwil a datblygu, rheilffyrdd, cysylltiad band eang ac ynni’r llanw
ers 2010. 3. Yn croesawu’r cynnydd
a wnaed wrth gyflawni polisïau arloesol Llywodraeth Cymru sydd wedi’u cynllunio
ar gyfer pobl Cymru, gan gynnwys: presgripsiynau am ddim, Twf Swyddi Cymru,
system caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau, un llwybr canser, y cynnig
gofal plant, dyblu’r terfyn cyfalaf, Ysgolion yr 21ain Ganrif a’r Gronfa
Cadernid Economaidd. 4. Yn galw ar Lywodraeth
y DU i roi mwy o hyblygrwydd cyllidol i Lywodraeth Cymru er budd rheoli
cyllidebau yn dda Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod Gwelliant 1 wedi’i
dderbyn, cafodd Gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol Gwelliant 4 Neil McEvoy (Canol De
Cymru) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau gwerth am arian drwy: a) cydnabod bod adnoddau
cyhoeddus yn cael eu gwastraffu yn y trydydd sector preifat, drwy ddyblygu a
rheoli pendrwm; b) democrateiddio'r
gwasanaethau a ddarperir drwy ailgyfeirio cyllid i lywodraeth leol yng Nghymru. Cynhaliwyd pleidlais ar
welliant 4:
Gwrthodwyd gwelliant 4. Cynhaliwyd pleidlais ar
y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7404 Darren Millar (Gorllewin
Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod rheoli
arian trethdalwyr yn llwyddiannus yn dibynnu ar amcanion clir, llywodraethu da
a gwaith craffu effeithiol ac yn cydnabod bod economeg cyni yn cynnig gwerth
gwael am arian. 2. Yn gresynu at y
ffaith bod Llywodraeth y DU wedi tanariannu a / neu wedi rhwystro nifer o
brosiectau, gwasanaethau a seilweithiau heb eu datganoli yng Nghymru, gan
gynnwys ymchwil a datblygu, rheilffyrdd, cysylltiad band eang ac ynni’r llanw
ers 2010. 3. Yn croesawu’r cynnydd
a wnaed wrth gyflawni polisïau arloesol Llywodraeth Cymru sydd wedi’u cynllunio
ar gyfer pobl Cymru, gan gynnwys: presgripsiynau am ddim, Twf Swyddi Cymru,
system caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau, un llwybr canser, y cynnig
gofal plant, dyblu’r terfyn cyfalaf, Ysgolion yr 21ain Ganrif a’r Gronfa
Cadernid Economaidd. 4. Yn galw ar Lywodraeth
y DU i roi mwy o hyblygrwydd cyllidol i Lywodraeth Cymru er budd rheoli
cyllidebau yn dda
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, am 18.32, cafodd y trafodion eu hatal
dros dro er mwyn caniatáu egwyl technegol cyn y cyfnod pleidleisio. Dechreuodd yr eitem 18.39 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM7403 Rhun ap Iorwerth (Ynys) Yr
heriau a’r cyfleon i economi Môn: Cyfle i fwrw golwg eang ar economi Môn, yn
cynnwys pryderon difrifol Brexit, yr heriau a’r cyfleon ym maes ynni, a sut i
greu cynaliadwyedd cymunedol ac amgylcheddol wrth greu cyfleon economaidd
newydd. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.43 NDM7403 Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn) Yr heriau a’r cyfleon i economi Môn: Cyfle i fwrw golwg
eang ar economi Môn, yn cynnwys pryderon difrifol Brexit, yr heriau a’r cyfleon
ym maes ynni, a sut i greu cynaliadwyedd cymunedol ac amgylcheddol wrth greu
cyfleon economaidd newydd. |