Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg - Y Bumed Senedd

Caiff Aelodau'r Cynulliad ofyn Cwestiynau Llafar y Cynulliad i Weinidogion am unrhyw fater sy'n dod o fewn eu cyfrifoldeb.

Bydd Gweinidogion yn ateb cwestiynau unwaith bob pedair wythnos. Atebir cwestiynau llafar yn ystod cyfnod a neilltuir ar gyfer Cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.

Bydd y Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.

Yna, rhaid i'r Aelod a ddetholir gyflwyno'r cwestiwn llafar o leiaf bum niwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer ei ateb. Defnyddir cyfrifiadur i ddewis trefn ar hap ar gyfer gofyn y cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.

Math o fusnes: Cwestiynau llafar

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/01/2019