Pobl y Senedd

Huw Irranca-Davies AS

Huw Irranca-Davies AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Llafur Cymru a chydweithredol

Grŵp Llafur Cymru

Ogwr

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) bod y mis hwn yn nodi 40 mlynedd ers dechrau streic y glowyr; b) bod y frwydr hon wedi gweld pwysau llawn y rhyfel ynghylch cyflog y wladwriaeth yn...

I'w drafod ar 05/03/2024

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi defnyddwyr mesuryddion rhagdalu sy'n cael trafferth ychwanegu arian at eu cyfrif o fis Ebrill ymlaen?

Wedi'i gyflwyno ar 05/03/2024

Beth yw gweledigaeth y Prif Weinidog ar gyfer datblygu Senedd Cymru dros y 10 mlynedd nesaf?

Wedi'i gyflwyno ar 29/02/2024

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ymdrechion i fynd i'r afael ag iaith casineb a radicaleiddio yng Nghymru?

Wedi'i gyflwyno ar 28/02/2024

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o bwysigrwydd ffermio llaeth adfywiol i ddyfodol ffermio cynaliadwy yng Nghymru?

Wedi'i gyflwyno ar 21/02/2024

Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad sef “Ymchwiliad i lywodraethiant y DU a’r UE”, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Tachwedd...

I'w drafod ar 14/02/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Huw Irranca-Davies AS

Bywgraffiad

Hanes personol

Mae Huw yn briod â Joanna Irranca-Davies (gwnaethant gyfuno eu cyfenwau, sef Davies ac Irranca, ar ôl priodi). Mae ganddynt dri mab, ac maent i gyd yn falch o'u gwreiddiau teuluol yng Nghymru a'r Eidal. Magwyd Huw mewn teulu â chysylltiadau cryf â'r Blaid Lafur. Mae wedi ymgyrchu ar lawr gwlad a gweithredu ym maes adfywio cymunedol ers tro.

Mae Huw, a aned yn 1963, yn gyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Tre-gŵyr, ac yn gyn-fyfyriwr Coleg Crewe ac Alsager (BA Anrh) ac Athrofa Addysg Uwch Abertawe (MSc).

Yn gerddwr brwd (fel Is-lywydd Ramblers Cymru) ac yn "seiclwr bob dydd ar feic cefn syth", mae hefyd yn ymlacio drwy wylio ei feibion yn chwarae rygbi neu drwy ddarllen nofelau hanesyddol (ond byth unrhyw beth gwleidyddol!)

Cefndir proffesiynol

Cyn ymuno â'r byd gwleidyddol, gweithiodd Huw Irranca-Davies fel rheolwr yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, ac fel uwch ddarlithydd mewn addysg uwch. Mewn isetholiad seneddol a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2002, cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol y Blaid Lafur yn etholaeth Ogwr. Daliodd y sedd honno tan 2016, pan gafodd ei ethol yn Aelod Cynulliad dros Ogwr.

Hanes gwleidyddol

Cafodd Huw ei ethol yn Aelod Seneddol Llafur dros Ogwr yn 2002. Mae Huw wedi gwasanaethu fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat i Weinidogion yn yr Adran Gwaith a Phensiynau, Gogledd Iwerddon a’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, fel Chwip y Llywodraeth, fel Is-ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac fel Gweinidog yr Amgylchedd.

O 2010, gwasanaethai fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Ynni, ac yna fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Fwyd, Ffermio a Materion Gwledig. Ym mis Mai 2015, cafodd ei ethol yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol. Daliodd y swydd honno tan fis Mai 2016, pan gafodd ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru – Senedd Cymru bellach.

Yn y Bumed Senedd, ef oedd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, cyn iddo gael ei benodi’n Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol. Yna, ar gais y Prif Weinidog, daeth yn Gadeirydd ar Grŵp Llywio Buddsoddiad Rhanbarthol Cymru, y Grŵp Cynghori Ewropeaidd a Phwyllgor Monitro'r Rhaglen, gan oruchwylio gwariant ffrydiau cyllidor UE yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, mae ei rolau’n cynnwys Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, aelod o Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, Cadeirydd y Fforwm Strategol ar Fuddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru, a Chadeirydd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd. Mae Huw hefyd yn Gadeirydd, yn Is-gadeirydd ac yn aelod o 25 Grŵp Trawsbleidiol.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 06/05/2016 - 28/04/2021
  2. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Huw Irranca-Davies AS