Pobl y Senedd

Leanne Wood AS

Leanne Wood AS

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Rhondda

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wella gwasanaethau iechyd i bobl yn y Rhondda?

Wedi'i gyflwyno ar 17/03/2021

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth a roddwyd i brosiect Rhondda Skyline?

Wedi'i gyflwyno ar 04/03/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i atal llifogydd yn y Rhondda ers storm Dennis y llynedd?

Wedi'i gyflwyno ar 18/02/2021

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl yn y Rhondda?

Wedi'i gyflwyno ar 17/02/2021

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch sicrhau bod gweithwyr awdurdodau lleol yn cael gwared ar gyfarpar diogelu pers...

Wedi'i gyflwyno ar 27/01/2021

Cynnig bod y Senedd: Yn croesawu adroddiad adolygiad Cumberlege ar y defnydd o feddyginiaethau a dyfeisiau meddygol yn GIG Lloegr ac yn credu ei fod yn cynnwys llawer o wersi i Gymru. F...

I'w drafod ar 13/01/2021

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Leanne Wood AS

Bywgraffiad

Roedd Leanne Wood yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 2003 ac Ebrill 2021. Hwn oedd ei bywgraffiad pan fu adael.

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae Leanne wedi chwarae rhan fawr ym mudiad yr undebau llafur a bu’n gadeirydd grŵp trawsbleidiol Undeb y PCS yn y Cynulliad yn y gorffennol.  Yn ystod ei chyfnod fel Aelod Cynulliad, bun gyfrifol am bortffolios Plaid Cymru ar gyfer Cynaliadwyedd, yr Amgylchedd, Cyfiawnder Cymdeithasol a Thai.  Ar wahân i wleidyddiaeth, mae ei diddordebau yn cynnwys dysgu Cymraeg a garddio.

Cysylltiadau eraill:

  • Aelod o UNSAIN
  • Aelod Cyswllt o Gymdeithas Genedlaethol y Swyddogion Prawf
  • Ymgyrch Cefnogi Palesteina
  • Amnest Rhyngwladol
  • Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
  • CAMRA
  • Hawliau Erthylu
  • Republic
  • Cymdeithas Cymru Cuba
  • Sefydliad Bevan

Hanes personol

Ganed Leanne Wood yn y Rhondda, lle y mae’n byw hyd heddiw.  Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gyfun Tonypandy, Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Caerdydd.

Cefndir proffesiynol

Cyn iddi gael ei hethol i’r Cynulliad Cenedlaethol yn 2003, roedd Leanne yn gweithio fel tiwtor proffesiynol a bu’n darlithio mewn polisi cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd. Bu hefyd yn gweithio fel swyddog prawf a gweithiwr cymorth gyda Chymorth i Fenywod Cwm Cynon yn 2001 a 2002.

Hanes gwleidyddol

Mae Leanne wedi creu dwy ddogfen polisi bwysig i Blaid Cymru. Yn 2008, cyhoeddodd 'Gwneud ein Cymunedau’n fwy Diogel' a oedd yn dadlau dros ddatganoli’r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru.  Yn 2011, cyhoeddwyd 'Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd', lle’r oedd Leanne yn dadlau o blaid rhaglen creu swyddi gwyrdd er mwyn adfywio ardaloedd cyn-feysydd glo’r cymoedd.

Ar 15 Mawrth 2012, etholwyd Leanne yn Arweinydd Plaid Cymru; a hi yw'r ferch gyntaf i arwain y blaid.  Cafodd ei hethol yn Aelod Cynulliad dros y Rhondda ym mis Mai 2016.

Cofrestr Buddiannau

Cofrestr Buddiannau – Y Bumed Senedd (PDF, 3.63MB)

Cofrestr Buddiannau – Y Pedwerydd Cynulliad (PDF, 739KB)

Cofrestr Buddiannau – Y Trydydd Cynulliad (PDF, 466KB)

Cofrestr Buddiannau – Yr Ail Gynulliad (PDF, 362KB)

Tymhorau yn y swydd

  1. 02/05/2003 - 02/05/2007
  2. 04/05/2007 - 31/03/2011
  3. 06/05/2011 - 05/04/2016
  4. 06/05/2016 - 28/04/2021

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Leanne Wood AS