Pobl y Senedd

Alun Davies AS

Alun Davies AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Llafur Cymru

Grŵp Llafur Cymru

Blaenau Gwent

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr adroddiadau yn y cyfryngau yr wythnos hon am lygredd mwyngloddiau metel yn afonydd Cymru?

Tabled on 13/03/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol?

Wedi'i gyflwyno ar 07/03/2024

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wneud y mwyaf o fanteision economaidd yr A465, sef ffordd blaenau'r cymoedd?

Wedi'i gyflwyno ar 06/03/2024

Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) bod y mis hwn yn nodi 40 mlynedd ers dechrau streic y glowyr; b) bod y frwydr hon wedi gweld pwysau llawn y rhyfel ynghylch cyflog y wladwriaeth yn...

I'w drafod ar 05/03/2024

Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith bosibl ar Gymru yn sgil cytundeb Gogledd Iwerddon a phapur gorchymyn ‘Safeguarding the Union’?

Wedi'i gyflwyno ar 28/02/2024

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol Fformiwla Barnett?

Wedi'i gyflwyno ar 21/02/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Alun Davies AS

Bywgraffiad

Hanes personol

Etholwyd Alun i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 2007. Mae'n dod o Dredegar a chafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Ar ôl graddio, cafodd Alun ei ethol yn Llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru ac yna bu'n gweithio fel ymgyrchydd dros y Gronfa Natur Fyd Eang (WWF) ac Oxfam. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys prosiectau rhyngwladol yn Rwanda a Gwledydd y Balcan.

Mae Alun hefyd wedi mwynhau gyrfa lwyddiannus gyda Hyder Plc. fel rheolwr cysylltiadau cyhoeddus, cyn cael ei benodi'n Bennaeth Materion Cyhoeddus yn Awdurdod Ynni Atomig y DU ac S4C , fel Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol. Cyn cael ei ethol, roedd Alun yn gyfarwyddwr ar ei fusnes ei hun, Bute Communications. Mae wedi gweithio ar hyd a lled Ewrop a'r Dwyrain Canol ac mae wedi siarad yn rheolaidd mewn seminarau a chynadleddau rhyngwladol.

Cefndir proffesiynol

Ers cael ei hethol i'r Cynulliad Cenedlaethol, mae Alun wedi bod yn aelod o nifer o wahanol bwyllgorau ac wedi cadeirio'r Pwyllgor Darlledu a’r Is-bwyllgor Datblygu Gwledig. Mae wedi ymgyrchu dros faterion lleol a chenedlaethol o broblemau band eang a mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus i dlodi, amddifadedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus.

Hanes gwleidyddol

Ar ôl ei ailethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 2011, cafodd Alun ei benodi'n Ddirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd ac, ym mis Mawrth 2013, cafodd ei benodi’n Weinidog dros Adnoddau Naturiol a Bwyd

Ym mis Mai 2016 cafodd Alun ei ail-ethol yn Aelod Cynulliad dros Flaenau Gwent a’i benodi’n Weinidog dros Addysg Gydol Oes a'r Iaith Gymraeg.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 04/05/2007 - 31/03/2011
  2. 06/05/2011 - 05/04/2016
  3. 06/05/2016 - 28/04/2021
  4. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Alun Davies AS