Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 281(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 24/06/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dechreuodd
yr eitem am 11.00. Dywedodd y Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor
Busnes, y bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys - nodwyd pob
un ohonynt ar yr agenda. Dywedodd y Llywydd fod y cyhoedd, yn unol â Rheol
Sefydlog 34.15, wedi cael eu gwahardd rhag mynychu'r Cyfarfod Llawn hwn, fel
sy'n ofynnol er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond byddai'r cyfarfod yn cael
ei ddarlledu'n fyw a byddai cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y
ffordd arferol. Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa gan y Llywydd hefyd y
byddai Rheolau Sefydlog yn ymwneud â threfniadau a threfn busnes yn y Cyfarfod
Llawn yn gymwys i'r cyfarfod hwn. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Prif Weinidog Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau
am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 11.00 Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y
Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn
2. Atebodd
y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip y pedwar cwestiwn cyntaf am 15 munud olaf y
sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â’i chyfrifoldebau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
12.27 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig Bydd y Llywydd yn galw ar
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
12.35 Gofynnwyd y 6 cwestiwn
cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. Am 13.19, cafodd y
cyfarfod ei atal dros dro tan 14.00. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.00 Gofynnwyd
yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 5, 7 ac 8 eu grwpio i’w hateb gyda’i
gilydd. Cafodd cwestiwn
6 ei ateb gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol. Gwahoddodd y Llywydd
lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 munud) |
Cwestiynau Amserol Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr achosion o Covid-19
yn deillio o ffatri 2 Sisters yn Llangefni? (TQ449) Gofyn i’r Gweinidog Addysg Sian
Gwenllian (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn rhoi'r wybodaeth
ddiweddaraf ynghylch trefniadau ar gyfer ail agor yr ysgolion am bedair wythnos
cyn toriad yr haf? (TQ453) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.53 Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr achosion o Covid-19
yn deillio o ffatri 2 Sisters yn Llangefni? Gofyn i’r Gweinidog Addysg Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn rhoi'r wybodaeth
ddiweddaraf ynghylch trefniadau ar gyfer ail agor yr ysgolion am bedair wythnos
cyn toriad yr haf? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dad ar y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2020-21 NDM7335 Rebecca
Evans (Gwyr) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y
flwyddyn ariannol 2020-21 a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Iau, 28 Mai 2020. Troednodyn: Yn unol â'r
darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20,
mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol: (i) y datganiad
ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru; (ii) yr adnoddau y
cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn
ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi; (iii) cysoniad rhwng
yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r
adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig; (iv) cysoniad rhwng y
symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd
Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig; (v) cysoniad rhwng yr
adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr
awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a (vi) manylion am
unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 –
20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o
dan Reol Sefydlog 20.1A. Mae'r wybodaeth
ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau: - nodyn yn egluro'r
prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol. Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.20 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7335 Rebecca Evans (Gwyr) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol
Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21 a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ddydd Iau, 28 Mai 2020. Troednodyn: Yn
unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol
Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol: (i)
y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth
Cymru; (ii)
yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y
flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi; (iii)
cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y
Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig; (iv)
cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan
yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y
cynnig; (v)
cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r
Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran
125(1)(c); a (vi)
manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau
Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y
cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A. Mae'r
wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau: -
nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(15 munud) |
Dadl ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyllid NDM7336 Lesley
Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod y Senedd, yn
unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y
darpariaethau yn y Bil Cyllid i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Senedd Cymru. Gosodwyd
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mai 2020 yn
unol â Rheol Sefydlog 29.2. Mae copi o’r Bil i’w
weld ar wefan Senedd y DU: Y Bill Cyllid
2019-21 (Saesneg yn unig) Dogfennau Ategol Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
16.14 NDM7336 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU
ystyried y darpariaethau yn y Bil Cyllid i’r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru. Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mai 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan y Senedd y DU Finance
Bill 2019-21(Saesneg yn unig) Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 34 NDM7338 Elin
Jones (Ceredigion) Cynnig bod y Senedd,
yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1. Yn ystyried
adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Pleidleisio o Bell' a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mehefin 2020. 2. Yn cymeradwyo'r
cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 34, fel y nodir yn Atodiad A o adroddiad y
Pwyllgor Busnes. 3. Yn nodi bod y
newidiadau hyn yn rhai dros dro, ac y byddant yn peidio â chael effaith pan
gaiff y Senedd hon ei diddymu, neu pan fydd y Senedd yn penderfynu felly, pa un
bynnag sydd gyntaf. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.20 Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. NDM7338 Elin Jones (Ceredigion) Cynnig
bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2: 1.
Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Pleidleisio o Bell' a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Mehefin 2020. 2.
Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 34, fel y nodir yn Atodiad A o
adroddiad y Pwyllgor Busnes. 3.
Yn nodi bod y newidiadau hyn yn rhai dros dro, ac y byddant yn peidio â chael
effaith pan gaiff y Senedd hon ei diddymu, neu pan fydd y Senedd yn penderfynu
felly, pa un bynnag sydd gyntaf. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Effaith argyfwng COVID-19 ar y sector celfyddydau NDM7337
Helen
Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor
Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar effaith argyfwng COVID-19 ar y sector
celfyddydau, a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Mehefin 2020. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.20 NDM7337 Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig
bod y Senedd: Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar effaith
argyfwng COVID-19 ar y sector celfyddydau, a osodwyd yn
y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Mehefin 2020. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Brexit - Codi'r Cyfyngiadau Symud NDM7334 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn galw ar Lywodraeth
Cymru: a) i gyflymu'r gwaith o
godi mesurau'r cyfyngiadau symud; b) gweithio gyda
Llywodraeth y DU i gefnogi dull gweithredu ar gyfer y DU gyfan; c) hwyluso ail-agor
economi Cymru yn gyflymach; d) diystyru codi
cyfraddau treth incwm Cymru i dalu costau ymestyn y cyfyngiadau symud. Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1 - Neil McEvoy
(Canol De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Sicrhau bod y broses o lacio'r cyfyngiadau symud yn digwydd yn ddiogel
drwy sicrhau bod y rhaglen lymaf bosibl o brofi, olrhain, ynysu a thrin yn cael
ei rhoi ar waith. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.50 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Ni chafodd Gwelliant 1 ei gynnig Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig NDM7334 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru) Cynnig bod y Senedd: Yn galw ar Lywodraeth Cymru: a) i gyflymu'r gwaith o godi
mesurau'r cyfyngiadau symud; b) gweithio gyda Llywodraeth y
DU i gefnogi dull gweithredu ar gyfer y DU gyfan; c) hwyluso ail-agor economi
Cymru yn gyflymach; d) diystyru codi cyfraddau
treth incwm Cymru i dalu costau ymestyn y cyfyngiadau symud.
Gwrthodwyd y cynnig |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Covid a'r economiar NDM7339 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod bod y pandemig
coronafeirws yn argyfwng iechyd cyhoeddus ac yn argyfwng economaidd. 2. Yn croesawu'r
manteision economaidd a ddaw i Gymru yn sgil bod yn rhan o'r Deyrnas Unedig yn
ystod y pandemig, gan gynnwys cyllid ar gyfer: a) y Cynllun Cadw
Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws sy'n gwarchod 316,500 o fywoliaethau yng
Nghymru; a b) y Cynllun Cymorth
Incwm i’r Hunangyflogedig sy'n helpu 102,000 o bobl yng Nghymru. 3. Yn nodi â phryder
adroddiad y 'Centre for Towns', sef 'Covid and our Towns' sy'n awgrymu y
bydd economïau trefi'r Cymoedd ac arfordir gogledd Cymru ymhlith y rhai a fydd
yn ddioddef waethaf yn sgîl y pandemig. 4. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sefydlu Cronfa Adfer Cymunedol Covid i ddarparu cymorth
economaidd wedi'i dargedu ar gyfer y cymunedau hynny y bydd y pandemig wedi
cael yr effaith fwyaf arnynt. Centre for
Towns - Covid and our Towns - 23 Ebrill 2020 (Saesneg yn unig) Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwyntiau 3 a 4 a
rhoi yn eu lle: Yn croesawu Cronfa
Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru sydd werth £500m. Mae’r Gronfa hon yn
rhan o becyn gwerth £1.7 biliwn o gymorth ar gyfer busnesau yng Nghymru mewn
ymateb i’r pandemig. Dyma’r pecyn mwyaf hael mewn unrhyw wlad yn y DU. Yn nodi’r ffaith bod
cyllid yr UE wedi helpu Llywodraeth Cymru i ymateb i bandemig COVID-19 a hefyd
yn nodi na fydd Llywodraeth Cymru, heb gyllid olynol, yn gallu ymateb i unrhyw
argyfwng yn y dyfodol i’r un graddau. Yn nodi adroddiad y
Centre for Towns ‘Covid and our Towns’ ac yn croesawu’r mesurau
trawslywodraethol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno drwy ei Grŵp
Gweithredu ynghylch Canol Trefi a’r agenda ‘Trawsnewid Trefi’ ar draws Cymru. Yn cydnabod
swyddogaeth bwysig cynghorau tref ac Ardaloedd Gwella Busnes creadigol a
deinamig o safbwynt helpu canol trefi i adfer ar ôl effeithiau economaidd y
Coronafeirws. Yn croesawu’r gwaith
arbrofol sy’n cael ei gyflawni drwy Gronfa Her yr Economi Sylfaenol o safbwynt
ystyried dulliau newydd o sicrhau bod trefi a chymunedau ar draws Cymru yn fwy
cydnerth. Bydd hyn yn cefnogi ein hymateb i bandemig COVID-19. Yn croesawu galwadau
gan sefydliadau sy’n cynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, FSB Cymru, TUC
Cymru, y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a Chanolfan Llywodraethiant Cymru i
Lywodraeth y DU waredu ar frys y cyfyngiadau cyllid sy’n cyfyngu’n sylweddol ar
allu Llywodraeth Cymru i wario er mwyn gallu ymateb yn effeithiol i’r pandemig. Yn galw eto ar
Lywodraeth y DU i ddatblygu pecyn sylweddol ar gyfer sbarduno’r economi, gan
gefnogi gwaith Llywodraeth Cymru tuag at adfer trefi a chymunedau ar draws
Cymru mewn modd gwyrdd a phriodol yn sgil y pandemig. [Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Gwelliant 2 - Sian
Gwenllian (Arfon) Dileu pwynt 4 a rhoi
yn ei le: Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sefydlu Cronfa Adnewyddu Cymru Gyfan i ymdrin ag effeithiau'r pandemig, a
fyddai'n trawsnewid y sectorau a nodwyd fel y rhai fyddai'n cael eu taro
waethaf gan Covid-19, yn adeiladu Cymru gynaliadwy drwy baratoi'r ffordd i
genedl ddi-garbon erbyn 2030 a datblygu ymdeimlad newydd o 'leoliaeth' sy'n
gwerthfawrogi gwasanaethau cyhoeddus. Gwelliant 3 - Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig: Yn credu mai nawr yw'r
amser i Lywodraeth y DU ddatganoli rhagor o bwerau ariannol i Lywodraeth Cymru
fel y gall ofalu'n well am bobl Cymru yng ngoleuni'r pandemig Covid-19. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.41 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM7339 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod bod y pandemig
coronafeirws yn argyfwng iechyd cyhoeddus ac yn argyfwng economaidd. 2. Yn croesawu'r manteision
economaidd a ddaw i Gymru yn sgil bod yn rhan o'r Deyrnas Unedig yn ystod y
pandemig, gan gynnwys cyllid ar gyfer: a) y Cynllun Cadw Swyddi drwy
gyfnod y Coronafeirws sy'n gwarchod 316,500 o fywoliaethau yng Nghymru; a b) y Cynllun Cymorth Incwm i’r
Hunangyflogedig sy'n helpu 102,000 o bobl yng Nghymru. 3. Yn nodi â phryder adroddiad
y 'Centre for Towns', sef 'Covid and our Towns' sy'n awgrymu y bydd
economïau trefi'r Cymoedd ac arfordir gogledd Cymru ymhlith y rhai a fydd yn
ddioddef waethaf yn sgîl y pandemig. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sefydlu Cronfa Adfer Cymunedol Covid i ddarparu cymorth economaidd wedi'i
dargedu ar gyfer y cymunedau hynny y bydd y pandemig wedi cael yr effaith fwyaf
arnynt.
Gwrthodwyd y cynnig
heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr) Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle: Yn
nodi’r ffaith bod cyllid yr UE wedi helpu Llywodraeth Cymru i ymateb i bandemig
COVID-19 a hefyd yn nodi na fydd Llywodraeth Cymru, heb gyllid olynol, yn gallu
ymateb i unrhyw argyfwng yn y dyfodol i’r un graddau. Yn
nodi adroddiad y Centre for Towns ‘Covid and our Towns’ ac yn croesawu’r mesurau
trawslywodraethol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno drwy ei Grŵp
Gweithredu ynghylch Canol Trefi a’r agenda ‘Trawsnewid Trefi’ ar draws Cymru. Yn
cydnabod swyddogaeth bwysig cynghorau tref ac Ardaloedd Gwella Busnes creadigol
a deinamig o safbwynt helpu canol trefi i adfer ar ôl effeithiau economaidd y
Coronafeirws. Yn croesawu’r gwaith arbrofol sy’n cael ei gyflawni drwy
Gronfa Her yr Economi Sylfaenol o safbwynt ystyried dulliau newydd o sicrhau
bod trefi a chymunedau ar draws Cymru yn fwy cydnerth. Bydd hyn yn cefnogi ein
hymateb i bandemig COVID-19. Yn croesawu galwadau gan sefydliadau sy’n cynnwys
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, FSB Cymru, TUC Cymru, y Sefydliad
Astudiaethau Cyllid a Chanolfan Llywodraethiant Cymru i Lywodraeth y DU waredu
ar frys y cyfyngiadau cyllid sy’n cyfyngu’n sylweddol ar allu Llywodraeth Cymru
i wario er mwyn gallu ymateb yn effeithiol i’r pandemig. Yn galw eto ar Lywodraeth y DU i ddatblygu pecyn
sylweddol ar gyfer sbarduno’r economi, gan gefnogi gwaith Llywodraeth Cymru
tuag at adfer trefi a chymunedau ar draws Cymru mewn modd gwyrdd a phriodol yn
sgil y pandemig. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant
1. Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliant 2
ei ddad-ddethol Gwelliant 3 - Sian
Gwenllian (Arfon) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu mai nawr yw'r amser i Lywodraeth y DU ddatganoli
rhagor o bwerau ariannol i Lywodraeth Cymru fel y gall ofalu'n well am bobl
Cymru yng ngoleuni'r pandemig Covid-19. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
Derbyniwyd gwelliant 3. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM7339 Darren Millar (Gorllewin Clwyd) Cynnig bod y Senedd: 1. Yn cydnabod bod y pandemig
coronafeirws yn argyfwng iechyd cyhoeddus ac yn argyfwng economaidd. 2. Yn croesawu'r manteision
economaidd a ddaw i Gymru yn sgil bod yn rhan o'r Deyrnas Unedig yn ystod y
pandemig, gan gynnwys cyllid ar gyfer: a) y Cynllun Cadw Swyddi drwy
gyfnod y Coronafeirws sy'n gwarchod 316,500 o fywoliaethau yng Nghymru; a b) y Cynllun Cymorth Incwm i’r
Hunangyflogedig sy'n helpu 102,000 o bobl yng Nghymru. 3. Yn croesawu Cronfa Cadernid
Economaidd Llywodraeth Cymru sydd werth £500m. Mae’r Gronfa hon yn rhan o becyn
gwerth £1.7 biliwn o gymorth ar gyfer busnesau yng Nghymru mewn ymateb i’r
pandemig. Dyma’r pecyn mwyaf hael mewn unrhyw wlad yn y DU. 4. Yn nodi’r ffaith bod cyllid
yr UE wedi helpu Llywodraeth Cymru i ymateb i bandemig COVID-19 a hefyd yn nodi
na fydd Llywodraeth Cymru, heb gyllid olynol, yn gallu ymateb i unrhyw argyfwng
yn y dyfodol i’r un graddau. 5. Yn nodi adroddiad y Centre
for Towns ‘Covid and our Towns’ ac yn croesawu’r mesurau trawslywodraethol y
mae Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno drwy ei Grŵp Gweithredu ynghylch Canol
Trefi a’r agenda ‘Trawsnewid Trefi’ ar draws Cymru. 6. Yn cydnabod swyddogaeth
bwysig cynghorau tref ac Ardaloedd Gwella Busnes creadigol a deinamig o
safbwynt helpu canol trefi i adfer ar ôl effeithiau economaidd y Coronafeirws. 7. Yn croesawu’r gwaith arbrofol sy’n cael ei gyflawni
drwy Gronfa Her yr Economi Sylfaenol o safbwynt ystyried dulliau newydd o
sicrhau bod trefi a chymunedau ar draws Cymru yn fwy cydnerth. Bydd hyn yn
cefnogi ein hymateb i bandemig COVID-19. 8. Yn croesawu galwadau gan sefydliadau sy’n cynnwys
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, FSB Cymru, TUC Cymru, y Sefydliad
Astudiaethau Cyllid a Chanolfan Llywodraethiant Cymru i Lywodraeth y DU waredu
ar frys y cyfyngiadau cyllid sy’n cyfyngu’n sylweddol ar allu Llywodraeth Cymru
i wario er mwyn gallu ymateb yn effeithiol i’r pandemig. 9. Yn galw eto ar Lywodraeth y DU i ddatblygu pecyn
sylweddol ar gyfer sbarduno’r economi, gan gefnogi gwaith Llywodraeth Cymru
tuag at adfer trefi a chymunedau ar draws Cymru mewn modd gwyrdd a phriodol yn
sgil y pandemig. 10. Yn credu mai nawr yw'r amser i Lywodraeth y DU
ddatganoli rhagor o bwerau ariannol i Lywodraeth Cymru fel y gall ofalu'n well
am bobl Cymru yng ngoleuni'r pandemig Covid-19.
Derbyniwyd y cynnig
fel y’i diwygiwyd |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Pwynt o Drefn Dywedodd Neil Hamilton ar gofnod ei fod wedi
bwriadu pleidleisio yn erbyn y Rheoliadau Coronafeirws yr wythnos diwethaf, ond
ei fod wedi methu gwneud hynny am fod ei feicroffon wedi’i osod yn anghywir. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.34 Enwebodd pob grŵp
gwleidyddol un Aelod o'r grŵp neu'r grwpiad i gario'r un nifer o
bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp. Yn achos grŵp gwleidyddol sydd
â rôl weithredol, bydd yr enwebai yn cario'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o
aelodau'r grŵp hwnnw ynghyd ag unrhyw aelodau eraill o'r llywodraeth.
Roedd Aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp neu grwpiad yn pleidleisio
drostynt eu hunain. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |