Cwestiynau i'r Prif Weinidog - Y Bumed Senedd
Caiff Aelodau'r Cynulliad ofyn Cwestiynau Llafar y
Cynulliad i'r Prif Weinidog am unrhyw fater sy'n dod o fewn eu cyfrifoldeb.
Bydd y Prif Weinidog yn ateb cwestiynau bob wythnos. Atebir
cwestiynau llafar yn ystod cyfnod a neilltuir ar gyfer Cwestiynau yn y Cyfarfod
Llawn. Unwaith
bob pedair wythnos caiff yr eitem ei threfnu am 60 munud a bydd y Dirprwy
Weinidog a’r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar
faterion sy’n ymwneud â’i chyfrifoldebau.
Bydd y Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a
gaiff gyflwyno cwestiynau. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.
Yna, rhaid i'r Aelod a ddetholir gyflwyno'r cwestiwn
llafar o leiaf bum niwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer ei ateb. Defnyddir
cyfrifiadur i ddewis trefn ar hap ar gyfer gofyn y cwestiynau yn y Cyfarfod
Llawn.
Math o fusnes: Cwestiynau llafar
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/06/2016