Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd
Caiff Aelodau'r
Cynulliad ofyn Cwestiynau Llafar y Cynulliad i Weinidogion am unrhyw fater sy'n dod o fewn eu cyfrifoldeb.
Bydd
Gweinidogion yn ateb cwestiynau unwaith bob pedair wythnos. Atebir cwestiynau
llafar yn ystod cyfnod a neilltuir ar gyfer Cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.
Bydd y Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno
cwestiynau. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.
Yna,
rhaid i'r Aelod a ddetholir gyflwyno'r cwestiwn llafar o leiaf bum niwrnod cyn
y dyddiad a bennwyd ar gyfer ei ateb. Defnyddir cyfrifiadur i ddewis trefn ar
hap ar gyfer gofyn y cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.
Math o fusnes: Cwestiynau llafar
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/01/2019