NDM7334 Codi'r Cyfyngiadau Symud
NDM7334 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru:
a) i gyflymu'r gwaith o godi mesurau'r cyfyngiadau symud;
b) gweithio gyda Llywodraeth y DU i gefnogi dull
gweithredu ar gyfer y DU gyfan;
c) hwyluso ail-agor economi Cymru yn gyflymach;
d) diystyru codi cyfraddau treth incwm Cymru i dalu
costau ymestyn y cyfyngiadau symud.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Sicrhau bod y broses o lacio'r cyfyngiadau symud yn
digwydd yn ddiogel drwy sicrhau bod y rhaglen lymaf bosibl o brofi, olrhain,
ynysu a thrin yn cael ei rhoi ar waith.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/06/2021
Angen Penderfyniad: 24 Meh 2020 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Caroline Jones AS