Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Cyswllt: Abigail Phillips  Deputy Clerk: Sarita Marshall

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

09:00

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

09:00 - 09:10

2.

P-04-334 Uned Arennol Newydd yn Ysbyty'r Tywysog Siarl - trafod ymweld ag Uned Pentwyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu Bethan Jenkins yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ynghylch yr ymweliad rapporteur i’r uned arennol ym Mhentwyn, Caerdydd.

Cytunodd y Pwyllgor i:

geisio gwybodaeth am y cynlluniau presennol ar gyfer uned arennol newydd ym Merthyr Tudful; ac

aros am ymateb i lythyr y Cadeirydd at Fwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf a oedd yn ceisio’r wybodaeth ddiweddaraf am y cyfarfod arfaethedig â chleifion uned arennol Ysbyty’r Tywysog Siarl.

 

09:10 - 09:20

3.

P-04-366 Cau Canolfan Ddydd Aberystwyth - trafod ymweliad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Rhoddodd William Powell y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am yr ymweliad rapporteur i’r ganolfan ddydd newydd yn Aberystwyth.

Cytunodd y Pwyllgor i ystyried y mater hwn yn y cyfarfod nesaf.

09:20 - 09:35

4.

Deisebau newydd

4.1

P-04-395 Dylai Ambiwlans Awyr Cymru gael arian gan y llywodraeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf.

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i geisio ei barn am y ddeiseb ac i ofyn am wybodaeth ynghylch a yw’r Llywodraeth yn rhoi cyllid craidd i Ambiwlans Awyr Cymru.

 

4.2

P-04-396 Sgiliau Triniaeth Cynnal Bywyd Brys i Blant Ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i gydnabod ymateb y Dirprwy Weinidog i’r Ddadl Fer ynglŷn â’r mater hwn ym mis Hydref 2011 ac i geisio ei farn am y ddeiseb.

 

 

4.3

P-04-397 Cyflog Byw

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i: roi gwybod iddo am y ddeiseb; ceisio’r wybodaeth ddiweddaraf am waith y grŵp rhanddeiliaid a gynullwyd; ac i ofyn a fydd y Llywodraeth yn ymgynghori â Llysgenhadon Ifanc Achub y Plant fel rhan o’i gwaith ar y mater hwn.

 

4.4

P-04-398 Ymgyrch dros gael cofrestr ar gyfer pobl sy’n cam-drin anifeiliaid yng Nghymru r

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf, a chytunodd i:

ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i geisio ei farn am y ddeiseb; ac

ysgrifennu at grwpiau lles anifeiliaid, gan gynnwys yr RSPCA, i geisio eu barn am y ddeiseb.

 

4.5

P-04-399 Arferion lladd anifeiliaid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy ac at y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ i geisio eu barn am y ddeiseb.

 

4.6

P-04-400 Safon ansawdd NICE ym maes iechyd meddwl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i geisio ei barn am y ddeiseb.

 

4.7

P-04-401 Y Gymraeg yn ein Cynulliad ni

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y ddeiseb hon am y tro cyntaf, a chytunodd i’w chyfeirio i Gomisiwn y Cynulliad i roi gwybod iddo am gryfder y teimladau am y pwnc, ac yna i gau’r ddeiseb.

 

09:35 - 10:45

5.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

5.1

P-04-330 Cofnod Cymraeg yn ein Cynulliad ni

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb hon.

O gofio bod y Pwyllgor sy’n craffu ar y Bil Ieithoedd Swyddogol wedi argymell y dylai fod Cofnod dwyieithog o holl drafodion y Cynulliad, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.

 

5.2

P-04-389 Y Celfyddydau, amaethyddiaeth a dafad y Cynulliad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gwnaeth William Powell ddatgan buddiant gan ei fod yn bartner mewn fferm da byw/defaid.

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth yn ymwneud â’r ddeiseb, a chytunodd i anfon y cyngor a amlinellwyd gan y Llywydd at y deisebydd, ac yna i gau’r ddeiseb.

 

5.3

P-03-197 Achub y Vulcan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon, a chytunodd i gau’r ddeiseb.

 

5.4

P-03-162 Diogelwch ar y ffyrdd yn Llansbyddyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon. Yn sgîl y wybodaeth a ddarparwyd, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.

 

5.5

P-04-370 Deiseb ynghylch gwella gwasanaethau seicig a greddfol yng Nghymru s

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon a chytunodd i ysgrifennu at Llais Defnyddwyr Cymru i ofyn iddo a yw wedi gwneud unrhyw waith i godi ymwybyddiaeth darparwyr a defnyddwyr gwasanaethau seicig o fesurau i ddiogelu defnyddwyr.

 

5.6

P-03-261 Atebion lleol i dagfeydd traffig yn y Drenewydd

Dogfennau ategol:

5.7

P-04-319 Deiseb ynghylch traffig yn y Drenewydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r deisebau hyn, a chytunodd i:

geisio sylwadau deisebwyr am yr adroddiad a ddarparwyd gan y Gweinidog; 

gofyn i’r Gweinidog a oes unrhyw ddata a ddefnyddiwyd i lunio’r adroddiad, y cytunodd y Gweinidog yn ystod ei sesiwn tystiolaeth lafar i’w anfon at y Pwyllgor, nas anfonwyd hyd yn hyn; ac

anfon yr adroddiad at Gadeirydd grŵp Parthau Twf Lleol Powys er gwybodaeth.

 

5.8

P-04-384 Cysylltiad â’r M48 o’r B4245 Cil-y-Coed/Rogiet

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth yn ymwneud â’r pwnc hwn, a chytunodd i gau’r ddeiseb.

 

5.9

P-04-387 Arwyddion a draeniad ar yr A467

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon.

Gan nad yw’r ffordd dan sylw yn rhan o rwydwaith traffyrdd lleol Llywodraeth Cymru, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Aelodau Cynulliad etholaethol a rhanbarthol y deisebydd i ofyn iddynt a allent gynorthwyo’r deisebydd i ddwyn y mater i sylw’r awdurdod lleol.

Yna, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.

 

5.10

P-04-388 Diogelu’r arfer o addoli ar y cyd fel gofyniad cyfreithiol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r mater hwn.

O ystyried y datganiad a wnaeth y Gweinidog yn ei ymateb, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.  

 

5.11

P-03-303 Yn erbyn bwlio homoffobig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.

 

5.12

P-04-372 Sicrhau bod mwy o doiledau merched mewn lleoliadau adloniant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon.

O ystyried ymateb y Gweinidog, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.

 

 

5.13

P-04-373 Parthau gwaharddedig o amgylch ysgolion ar gyfer faniau symudol sy'n gwerthu bwyd poeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau i geisio ei farn am ddefnyddio rheolaethau traffyrdd neu barcio a threfniadau trwyddedu ar gyfer busnesau.

 

 

5.14

P-04-385 Deiseb ar ryddhau balŵns a lanternau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon.

Dywedodd Aelodau’r Pwyllgor eu bod wedi rhyddhau balŵns/lanternau yn y gorffennol, gan nad oeddent yn gwybod ar y pryd am eu heffaith niweidiol.

Cytunodd y Pwyllgor i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r deisebwyr ac i grwpiau eraill â diddordeb am y gwaith y bydd y Gweinidog yn ei wneud ar effaith rhyddhau balŵns a lanternau.

 

 

5.15

P-04-360 Deiseb man gwan Pen-y-lan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth mewn perthynas â’r ddeiseb hon, a chytunodd i ofyn am amserlen ar gyfer uwchraddio’r seilwaith band eang ym Mhen-y-lan.

 

6.

Papurau i'w nodi

6.1

P-04-329 Rheoli sŵn o dyrbinau gwynt sy’n peri diflastod

Dogfennau ategol:

6.2

P-04-368 Annog gweithgarwch corfforol ac iechyd mewn colegau addysg bellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

10:45

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

10:45 - 11:00

7.1

P-03-238 Llygredd ym Mornant Porth Tywyn - adroddiad drafft

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad, y mae rhai newidiadau i’w gwneud iddo, a gofynnodd a fyddai modd i Aelodau Cymru o Senedd Ewrop gael copi pan fydd yn cael ei gyhoeddi.

 

Trawsgrifiad