P-04-387 Arwyddion a draeniad ar yr A467

P-04-387 Arwyddion a draeniad ar yr A467

P-04-387  Arwyddion a System Ddraenio ar yr A467

Geiriad y ddeiseb:

Ddydd Sadwrn, 18 Chwefror 2012, collodd gŵr a thad cariadus ei fywyd ar yr A467 mewn damwain car angheuol damwain a allai fod wedii hosgoi, yn ein barn ni, petai gan y ffordd system ddraenio ddigonol. Byddai system or fath wedi sicrhau na fyddai modd i’r holl ddŵr wyneb gasglu ar y ffordd ac achosi ir cerbyd sglefrio ar y dŵr. Nid oes arwyddion parhaol ar y ffordd ar hyn o bryd syn rhybuddio bod perygl o lifogydd arni.

Mae hon yn ffordd ddeuol brysur yng Nghymru a dylid bod ganddi system ddraenio briodol i ymdopi â’r amodau tywydd hyn er mwyn sicrhau diogelwch ar gyfer yr holl fodurwyr sy’n teithio arni.

Rydym yn deisebu i alw am newid y system ddraenio ar hyd y rhan hon o’r ffordd er mwyn sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto ac nad oes yn rhaid i deulu arall ddioddef yn yr un modd. Mae angen codi arwyddion gwell er mwyn rhybuddio modurwyr o’r peryglon. Erfyniwn arnoch i wneud yr ymdrech i lofnodi’r ddeiseb honmae pob llofnod wir yn cyfri.

 

Cyflwynwyd y ddeiseb gan:  Stacey Gallagher

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 1 Mai 2012

 

Nifer y llofnodion:  1000+ (362 electronic signatures and 966+ paper signatures)

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/04/2014