P-04-334 Uned Arennol Newydd yn Ysbyty Tywysog Siarl
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar y Cynulliad
Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i adeiladu Uned Arennol
newydd yn Ysbyty’r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful,
Cafodd yr
uned bresennol ei hadeiladu ym
1989 i drin 16 claf yr wythnos,
ond mae’r nifer hwnnw bellach
wedi codi i 52. Gyda nifer y cleifion arennol yn cynyddu’n
flynyddol, rydym yn credu ei
bod yn bwysig adeiladu uned newydd
yn awr er
mwyn ymdopi â’r cynnydd hwn.
Byddai uned newydd hefyd
yn golygu y gellid trin cleifion
arennol sydd ond angen mân-driniaethau
yn yr uned
yn hytrach na’u trosglwyddo i ysbytai eraill sydd angen y gwelyau.
Dyma rai
yn unig o’r
problemau sydd gennym yn yr
uned bresennol:
1. Diffyg ardal ynysu
(a allai arwain
at groes-heintio)
2.
Un toiled yn unig
i gleifion gwrywaidd a benywaidd
3. Ardal aros gyfyng
4. Aerdymheru gwael
5. Mae’r uned wedi dioddef llifogydd ar sawl achlysur.
Prif ddeisebydd:
Robert Kendrick
Nifer y deisebwyr:
56
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/04/2014