Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Cyswllt: Abigail Phillips Deputy Clerk: Sarita Marshall
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Ethol Cadeirydd Dros Dro Cofnodion: Galwodd y Clerc
am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd dros dro, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. Enwebodd Russell
George Joyce Watson, a gafodd ei eilio gan Kirsty Williams. Nid oedd unrhyw
enwebiadau eraill. Etholwyd Joyce Watson yn Gadeirydd. |
||
09:00 |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan William Powell a Bethan Jenkins. Roedd Kirsty Williams yn
dirprwyo ar ran William Powell ac roedd Simon Thomas yn dirprwyo ar ran Bethan
Jenkins. |
|
09:00 - 09:10 |
P-03-238 Llygredd ym Mornant Porth Tywyn - Trafod y dystiolaeth Dogfennau ategol: Cofnodion: Datganodd Joyce
Watson fuddiant gan fod y deisebydd yn aelod o’i staff cymorth. Cytunodd y
Pwyllgor i lunio adroddiad byr ar y pwnc ac i wneud cais am ddadl yn y Cyfarfod
Llawn. |
|
09:10 - 09:20 |
P-04-341 Llosgi gwastraff - Trafod y dystiolaeth Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i ohirio’r eitem hon tan ar ôl iddo glywed tystiolaeth gan yr Athro
Vyvyan Howard ar 29 Mai. |
|
09:20 - 09:30 |
P-03-295 Kyle Beere - Gwasanaethau Niwroadsefydlu Paediatrig - Trafod y dystiolaeth Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i gyfeirio’r ddeiseb hon at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac
yna ei chau. |
|
09:30 - 09:40 |
Deisebau newydd |
|
P-04-389 Y Celfyddydau, Amaethyddiaeth a Dafad y Cynulliad Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Llywydd yn
gofyn am ei barn ar y pwnc. |
||
P-04-390 Dynodi Gwarchodfa Natur Penrhos Caergybi (parc arfordir) yn Warchodfa Natur Genedlaethol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i: Ysgrifennu at Weinidog
yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i ofyn am ei farn ar y pwnc, ac Ysgrifennu at
Gyngor Sir Ynys Môn i ofyn am ei farn ar y pwnc. |
||
P-04-391 Ffordd osgoi Llandeilo Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor
y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth
Leol a Chymunedau i ofyn am ei farn ar y pwnc. |
||
P-04-392 Deiseb ar Drafnidiaeth Gymunedol Dogfennau ategol: Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i: Grwpio’r ddeiseb
hon gyda deiseb arall a gafwyd ar drafnidiaeth gymunedol; Tynnu sylw’r
Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau at ba mor gryf yw’r farn ar y pwnc hwn,
gan ei fod yn ystyried trafnidiaeth gymunedol ar hyn o bryd. |
||
09:40 - 11:00 |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-355 Cymru nid Wales Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn. Gan ystyried bod y Prif
Weinidog a’r Llywydd wedi datgan nad ydynt yn bwriadu defnyddio ‘Cymru’ yn lle ‘Wales’, cytunodd y Pwyllgor i gau’r
ddeiseb. |
||
P-04-379 Diwrnod Coffáu Hil-laddiad yr Armeniaid Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn. O ystyried yr ohebiaeth hon a’r
ffaith y gall Aelodau unigol gyflwyno dadl a arweinir gan Aelod ar y mater os
ydynt yn dymuno, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at yr Aelodau a lofnododd y
Datganiad Barn ar y pwnc hwn a chau’r ddeiseb. |
||
P-03-271 Ardrethi Busnes yn Arberth Dogfennau ategol: |
||
P-03-286 Ardrethi Busnes Ceredigion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Yn dilyn cyhoeddi
adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar adfywio canol trefi, a oedd yn cynnwys
ystyried y deisebau hyn, cytunodd y Pwyllgor i: Sicrhau bod
Cadeirydd y gweithgor sydd wrthi’n adolygu ardrethi busnes yng Nghymru yn
ymwybodol o’r deisebau; a Chau’r deisebau. |
||
P-03-307 Dylunio er mwyn arloesi yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: O ystyried bod y
Llywodraeth wrthi’n ymgynghori ar strategaeth arloesi i Gymru, cytunodd y
Pwyllgor i anfon y ddeiseb ymlaen i ymgynghoriad y Llywodraeth a chau’r ddeiseb.
|
||
P-04-364 Ffibr optig i ardaloedd gwledig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r mater hwn a chytunodd i ysgrifennu at y
Gweinidog yn gofyn am amserlen ar gyfer cyflwyno band eang y genhedlaeth nesaf
i bob safle preswyl a busnes erbyn 2015, yn arbennig y rhai mewn ardaloedd
gwledig. |
||
P-03-315 Deiseb i gael croesfan newydd dros Afon Dyfi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor
ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn a chytunodd i: Ysgrifennu at
ddeisebwyr, yn eu hannog i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus, a fydd yn
cael ei gynnal yn hydref 2013; a Chadw’r ddeiseb
ar agor hyd nes bydd canlyniadau’r ymgynghoriad hwnnw’n hysbys. |
||
P-03-309 Caerdydd yn erbyn y llosgydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn a chytunodd i ysgrifennu at
Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i weld a ddilynwyd y broses gynllunio
ar gyfer y llosgydd yn gywir. |
||
P-04-343 Atal dinistrio mwynderau ar dir comin Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn a chytunodd i ysgrifennu at
Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i ofyn a oedd, neu a ddylai fod, y
gwaith a wnaed ar Dir Comin Marian yn amodol ar gyfeiriad sgrinio o dan Reoliadau
Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol)
(Cymru) 2007 neu unrhyw reoliadau perthnasol eraill. |
||
P-04-344 Carthffos gyhoeddus yn Freshwater East Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor
ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn a chytunodd i aros am ganlyniad arolwg
Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a gynhelir ym mis Mai/Mehefin 2012. |
||
P-04-374 Cadw cŵn ar dennyn bob amser mewn mannau cyhoeddus Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn. O ystyried gohebiaeth y
Gweinidog, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb hon. |
||
P-04-378 Ymestyn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr Dogfennau ategol:
Cofnodion: |
||
P-04-383 Yn erbyn dynodiad Parth Perygl Nitradau ar gyfer Llyn Llangors Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater a chytunodd i aros i’r Gweinidog
gyhoeddi ei benderfyniad ar ba ardaloedd a fydd yn cael eu dynodi yn barthau
perygl nitradau. |
||
P-04-346 Gofal di-dâl i blant 3 a 4 oed yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor
ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn a chytunodd i wahodd y Gweinidog a
Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i roi tystiolaeth lafar ar sut mae
darpariaeth addysg blynyddoedd cynnar yn ystyried anghenion rhieni sy’n
gweithio. |
||
P-04-376 Ail-drefnu Addysg ym Mhowys Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn a chytunodd i ohirio ystyried
y ddeiseb hyd nes y ceir rhagor o wybodaeth gan Kirsty Williams AC. |
||
P-03-294 Clymblaid Genedlaethol Menywod Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Joyce
Watson fuddiant gan ei bod yn arfer rhedeg Clymblaid Menywod Cymru. Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn a chytunodd i anfon y
datganiad a wnaed gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ i Amcanion Cydraddoldeb a Chynllun
Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru. |
||
P-03-085 Meddygfeydd yn Sir y Fflint Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn a chytunodd i ysgrifennu at y
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i’w hannog i gefnogi trafodaethau
rhwng y pleidiau, o ystyried yr awgrym gan Mark Isherwood AC bod y sefyllfa yn
dod yn ‘anniogel yn glinigol’. |
||
P-04-342 Nyrsys MS Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater hwn ac, o ystyried sylwadau’r
deisebwyr eu bod yn fodlon ar sicrwydd y Gweinidog, cytunodd i gau’r ddeiseb. |
||
P-04-362 Gwasanaethau Ambiwlans ym Mynwy Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth mewn cysylltiad â’r mater
hwn. Cytunodd y Pwyllgor i gyfeirio’r ddeiseb a’r dystiolaeth ategol at
Archwilydd Cyffredinol Cymru ac i ohirio ystyried y ddeiseb tan fydd yr
Archwilydd Cyffredinol wedi cwblhau ei waith ar wasanaethau gofal heb ei
drefnu. |
||
P-04-367 Achub ein Gwasanaethau Ysbyty Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth ar y mater hwn a chytunodd i: Grwpio deisebau eraill ar y mater hwn er mwyn eu
hystyried; Ysgrifennu at
Fwrdd Iechyd Hywel Dda i sicrhau ei fod yn ymwybodol o ba mor gryf yw’r farn ar
y pwnc; a Sicrhau bod
deisebwyr yn ymwybodol bod ymgynghoriad yn mynd rhagddo gan Fwrdd Iechyd Lleol
Hywel Dda. |
||
P-04-368 Annog gweithgarwch corfforol ac iechyd mewn colegau Addysg Bellach Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth ar y mater ac, o ystyried ymateb y Gweinidog, cytunodd i: Anfon yr
ymatebion i’r ymgynghoriad a gafwyd ar y pwnc er mwyn i’r swyddogion sy’n
gyfrifol am ymestyn Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru i mewn i golegau
eu hystyried; a Chau’r ddeiseb. |
||
P-04-375 Rhoi Terfyn ar System Eithrio ar gyfer Rhoi Organnau Dogfennau ategol:
Cofnodion: |
||
P-03-197 Achub y Vulcan Dogfennau ategol:
Cofnodion: |
||
P-04-381 Adfer Ysbyty Gogledd Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ohebiaeth yn ymwneud â’r mater hwn. O ystyried ymateb y Gweinidog,
cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
ynghylch amddiffyn ystlumod ar y safle. |
||
Papurau i'w nodi |
||
P-03-170 Cynyddu nifer y bobl ag anableddau dysgu a gyflogir gan y sector cyhoeddus yng Nghymru Dogfennau ategol: |
||
Trawsgrifiad |