P-04-375 Rhoi Terfyn ar System Eithrio ar gyfer Rhoi Organnau
P-04-375 Rhoi Terfyn ar System Eithrio ar gyfer Rhoi Organnau
Geiriad y
ddeiseb:
Rydym yn galw ar
Lywodraeth Cymru i roi terfyn ar y cynigion ynghylch cael system eithrio ar
gyfer rhoi organau. Rwyf o’r farn ei bod yn gwbl anfoesol bod Llywodraeth Cymru
yn ceisio cyflwyno system eithrio ar gyfer rhoi organau. Ni ddylid cyflwyno’r
system hon, yn enwedig os nad yw’n ystyried barn perthnasau. Er fy mod yn
gwerthfawrogi’r ffaith bod angen rhoi organau er mwyn osgoi marwolaethau
diangen, rwyf yn dal i gredu’n gryf mai penderfyniad i’r unigolyn ddylai hyn
fod ac nid rhywbeth a gaiff ei orfodi arnom gan y wladwriaeth. Dywedodd Dr
Morgan, Archesgob Cymru: “Mater o rodd, ac nid mater o ddyletswydd, yw rhoddi
organ, does bosib”, ac rwy’n cytuno â’r datganiad. Mae’r system hon yn annheg
ac yn tarfu ar hawliau unigolion. Llofnodwch y ddeiseb os ydych o’r un farn ac
am atal y ddeddfwriaeth hon rhag cael ei phasio.
Prif ddeisebydd:
Bablin Molik
Nifer y deisebwyr:
71
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/04/2014