P-03-085 Meddygfeydd yn Sir y Fflint
P-03-085 Meddygfeydd yn Sir y Fflint
Geiriad y ddeiseb:
Rydym ni feddygon ym Meddygfa’r
Laurels, Meddygfa Eyton
Place a Chanolfan Feddygol Allt Goch yn
rhwystredig (fel yr ydych chi mae’n
siwr) oherwydd yr anawsterau a gawn wrth geisio
cynnig digon o apwyntiadau ar gyfer ein cleifion.
Fel y gwyddoch, rydym wedi’n cyfyngu’n
llwyr gan faint ein hadeilad ac mae gwir angen
symud i safle mwy – mewn Canolfan
Gofal Sylfaenol newydd os oes
modd.
Mae’r cynnydd yn hyn o beth
wedi dod i ben yn dilyn penodiad
diweddar y Gweinidog Iechyd newydd a hoffem ddod â’n
pryderon i’w sylw.
Gofynnwn i chi arwyddo’r ddeiseb hon i gefnogi’n
hymdrechion i brysuro’r
broses hon;
“Fel cleifion mewn Meddygfa
yn Sir y Fflint, gofynnwn i’n Haelod
Cynulliad, Mrs Sandy Mewies,
roi pwysau ar Lywodraeth Cynulliad
Cymru i ddatblygu Canolfan Gofal Sylfaenol newydd ar fyrder”
Prif ddeisebydd:
Gillian Robinson
Nifer y deisebwyr:
412
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Dogfennau