Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Steve George  Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Dogfennau ategol:

Trawsgrifiad

2.

Deisebau newydd

2.1

P-04-567 Chwarae Teg i Fyfyrwyr Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:

·         ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i ofyn am ei farn ar y ddeiseb; a

·         gofyn a oedd unrhyw ddeisebau blaenorol wedi arwain at faterion tebyg er mwyn adolygu'r camau a gymerwyd. 

 

2.2

P-04-568 Ymchwiliad Cyhoeddus i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei farn ar y ddeiseb.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gyflwyno adroddiad ar y ddeiseb i'r Cynulliad â'r bwriad o gynnal trafodaeth ar y mater yn y Cyfarfod Llawn.

 

3.2

P-04-519 Diddymu Taliadau Comisiwn wrth werthu Cartrefi mewn Parciau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Gweinidog a yw'n fodlon cyfarfod â'r deisebydd, yn unol â chais y deisebydd.

 

3.3

P-04-536 Rhoi’r Gorau i Ffatrïoedd Ffermio Gwartheg Godro yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

  • ysgrifennu at y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i ofyn a allai ystyried edrych y materion fel rhan o'i flaenraglen waith, ac yn dibynnu ar ei ymateb;

·         ystyried cyflawni darn o waith ar y ddeiseb fel rhan o flaenraglen waith y Pwyllgor Deisebau; ac

  • ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio a Cyfoeth Naturiol Cymru gan roi cyfle iddynt ymateb i'r materion a godwyd gan y deisebwyr.

 

3.4

P-04-521 Rheoleiddio Safleoedd Carafannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         cau'r ddeiseb gan y teimlwyd na ellid gwneud fawr ddim yn rhagor, yn gyffredinol nac yn benodol, o ran bwrw ymlaen â'r ddeiseb; ond wrth wneud hynny

·         anfon manylion y ddeiseb at Darren Millar AC a Chadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol gan eu bod yn trafod y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru).  

 

3.5

P-04-540 Stopio rhagfarn ar sail rhyw mewn cam-drin domestig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         aros am ymateb gan Cymorth i Fenywod; a

·         Rhoi gwybod i'r deisebydd am drefniadau i graffu ar y Bil Trais ar Sail Rhywedd, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) yng Nghyfnod 1, a'i wahodd i gyfrannu at y broses honno.

 

3.6

P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn y Gweinidog a'r deisebydd ar y wybodaeth a ddarparwyd gan Gymdeithas Adareg Cymru.

 

3.7

P-04-514 Dylid adeiladu gorsaf bŵer sy'n defnyddio glo glân o Gymru a/neu gorsaf ynni adnewyddadwy yn hytrach na gorsaf niwclear arfaethedig Wylfa B ar Ynys Môn.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am ymateb gan Hitachi ynglŷn â'i waith i ddatblygu technoleg glo glân.

 

3.8

P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         drafod deisebau P-04-408 a P-04-505 ar wahân yn y dyfodol; ac

·         thynnu sylw'r deisebydd at Ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed; a

·         anfon manylion am y ddeiseb at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

 

 

3.9

P-04-505 Uned Anhwylderau Bwyta yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         drafod deisebau P-04-408 a P-04-505 ar wahân yn y dyfodol; ac

·         ysgrifennu at y deisebydd yn gofyn am wybodaeth am ei hymgyrch ddiweddar.

 

3.10

P-04-456 Dementia – Gallai hyn ddigwydd i chi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gadw golwg ar y mater.

 

3.11

P-04-490 Meddyginiaeth Gwrth-retrofeirysol yng Nghaerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

·         ofyn i'r Gweinidog pa gamau yr oedd wedi eu cymryd yn benodol i ymgynghori â chleifion HIV ynghylch y canllawiau; a

·         gofyn am farn grwpiau o gleifion HIV ynghylch y mater.

 

3.12

P-04-485 Camddefnyddio contractau dros dro yn y sector Addysg Bellach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         rannu'r papur ymchwil gyda'r deisebwyr; a

·         thrafod a oes angen cymryd unrhyw gamau pellach yn sgil yr ymateb.

 

3.13

P-04-516 Gwneud gwyddor gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o addysg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         rannu'r papur ymchwil gyda'r deisebydd; ac

·         ysgrifennu at yr Athro Graham Donaldson gan rannu'r papur ymchwil a gofyn a fyddai'n barod i gyfarfod â'r deisebydd er mwyn cael trafodaeth fanylach ynglŷn â phwnc y ddeiseb.

 

3.14

P-04-528 Addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn eto i'r deisebydd a oes ganddo unrhyw sylwadau yn sgîl yr ymatebion a ddaeth i law hyd yma.

 

3.15

P-04-542 Cyfleoedd Ymarferol i Bobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r deisebydd a yw'n fodlon ar ymateb y Dirprwy Weinidog.

 

3.16

P-04-475 Yn eisiau – Bysiau i Feirionnydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor bapur ymchwil ar ddeisebau P-04-475, 513 a 515 a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, gan ofyn iddi ymateb i nifer o gwestiynau, a fydd yn helpu gyda'r gwaith y mae'r Pwyllgor yn ei wneud.

 

3.17

P-04-513 Achub gwasanaeth bws X94 Wrecsam/Abermo

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gweler y pwynt gweithredu o dan eitem 3.16 ar yr agenda.

 

3.18

P-04-515 Darparu rhagor o arian ar gyfer Gwasanaethau Bysiau Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gweler y pwynt gweithredu o dan eitem 3.16 ar yr agenda.