P-04-568 Ymchwiliad Cyhoeddus i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

P-04-568 Ymchwiliad Cyhoeddus i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Wedi'i gwblhau

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan ABMU Victim Support Group, ar ôl casglu 87 o lofnodion.

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad cyhoeddus llawn er mwyn ymchwilio i’r pryderon difrifol a godwyd ynghylch safonau gofal ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a’r modd y mae’r bwrdd yn ymdrin â chwynion—materion sydd wedi achosi cymaint o niwed a dioddefaint y gellid eu hosgoi i gleifion mewn ysbytai sy’n cael eu gweinyddu gan y Bwrdd a’i gyrff rhagflaenol, ac i berthnasau sy’n galaru—ac, lle bo hynny’n briodol, i ddwyn y prif weithredwr a’r tîm rheoli i gyfrif.

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 12/07/2016 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Ystyriodd y Pwyllgor ymateb gan y deisebwr a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am ymgysylltu â'r broses ddeisebu.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 01/07/2014

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/07/2014