P-04-536 Rhoi’r Gorau i Ffatrioedd Ffermio Gwartheg Godro yng Nghymru
P-04-536 Rhoi’r Gorau i Ffatrioedd Ffermio Gwartheg Godro yng Nghymru
Rydym
yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddiweddaru
Polisi Cynllunio Cymru a dogfennau cynllunio perthnasol eraill, fel Nodyn
Cyngor Technegol 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy, er mwyn
sicrhau na chaiff ffermydd gwartheg godro dan do ar raddfa fawr eu creu er elw
byrdymor ac, o bosibl, ar draul llawer o ffermydd bach. Wrth gymeradwyo’r fferm
yn y Trallwng yn ddiweddar, cyfeiriodd Cyngor Sir Powys yn benodol at baragraff
7.2.2 o Bolisi Cynllunio Cymru gan ddweud ei fod yn "...(c)ydnabod y bydd
y manteision economaidd weithiau’n gwrthbwyso’r ystyriaethau cymdeithasol ac
amgylcheddol", ac rydym o’r farn y dylid adolygu hyn ar frys, gan na
ddylai’r posibilrwydd o greu nifer fach o swyddi newydd wrthbwyso’r buddion
economaidd hirdymor a ddaw yn sgîl pori, sy’n ased digonol, effeithlon a
chynaliadwy, ac mae llawer o ffermwyr godro yng Nghymru yn cydnabod hynny’n
llwyr.
Mae
ffatrioedd ffermio gwartheg godro dan do ar raddfa fawr wedi’u cynllunio i gadw
buchod dan do, yn hytrach nag allan ar dir pori, a gwelwyd enghreifftiau eisoes
o sut y gallant gynyddu niwed i’r amgylchedd, gwneud y gymuned leol yn dlotach,
effeithio’n ddifrifol ar les anifeiliaid a bod yn faich ariannol ar yr ardal
gyfagos. Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gymeradwyo’r fferm yn y
Trallwng, credwn ei bod yn hollbwysig cynnal adolygiad o ddeddfwriaeth
gynllunio er mwyn sicrhau bod Cymru yn cyflawni ei dyhead i fod yn wlad
wirioneddol gynaliadwy.
Prif ddeisebydd: World Society for the
Protection of Animals
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 18 Chwefror 2014
Nifer y llofnodion: TBC
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/02/2014