Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Steve George Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad View the meeting transcript. |
||
(9.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i gyfarfod y Pwyllgor. Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
(9.30 - 10.15) |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-526 Gwnewch Senedd TV yn hygyrch i bobl fyddar Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ofyn i'r deisebydd am ei ymateb i lythyr y Llywydd a, thrwy hynny, dynnu
sylw at gynnig y Llywydd i drefnu cyfarfod i drafod y materion gyda'r staff perthnasol
yn y Cynulliad; ac ·
ysgrifennu at y Llywydd yn gofyn am eglurhad o'r gwaith a gafodd ei wneud
mewn cysylltiad â'r cynllun peilot ac am wybodaeth bellach am y rhesymau dros y
penderfyniad i'w ddal yn ôl. |
||
P-03-240 Diogelwch ar ffordd yr A40 yn Llanddewi Felffre Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i
ysgrifennu at y Gweinidog: ·
i gael ei barn am awgrym y deisebydd ynghylch yr arwyddion rhybuddio o ran
cyfyngiadau cyflymder ac, yn benodol: o
ei barn ynghylch awgrym y deisebydd y byddai arwyddion sy'n dangos gwir
gyflymder cerbydau yn llawer llai costus ac yn fwy effeithiol; o
gwybodaeth bellach am gostau'r gwahanol arwyddion rhybuddio; a
|
||
P-04-506 Pasys bws am ddim / teithio rhatach i'r rhai sy'n hawlio budd-daliadau, myfyrwyr a phobl o dan 18 oed Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i
ysgrifennu at y deisebydd i ofyn am unrhyw sylwadau ar lythyr y Gweinidog, gan
nodi y bydd y Cynulliad yn symud i gau'r ddeiseb o ystyried datganiad clir y
Gweinidog nad oes ganddi unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i ymestyn cymhwysedd
ar gyfer pasys bws rhatach. |
||
P-04-456 Dementia - Gallai hyn ddigwydd i chi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i
ysgrifennu ar frys at y Gweinidog i: ·
gyfleu sylwadau'r deisebydd a gofyn pa gamau a gymerwyd i gynnwys y
deisebydd yn y Grwpiau Gorchwyl a Gorffen a'r ymgynghoriad, fel y nodwyd yn
llythyr 3 Awst; a ·
gofyn a yw'n bosibl o hyd i ystyried barn y deisebydd. |
||
P-04-490 Meddyginiaeth Gwrth-retrofeirysol yng Nghaerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i
ysgrifennu at: ·
y Gweinidog i ofyn: o
a yw ei swyddogion mewn sefyllfa i roi rhagor o fanylion ynghylch sut y
penderfynwyd ar amcangyfrif o £15 miliwn a pha gyfran o hyn y gellir ei
briodoli i arbedion ar feddyginiaethau HIV gwrth-retrofeirysol; ac o
am wybodaeth benodol ynghylch y rhesymau dros hyd y cyfnodau presgripsiwn
presennol am feddyginiaethau gwrth-retrofeirysol; ac ·
at y deisebydd yn gofyn am sylwadau ar lythyr y Gweinidog a gwybodaeth
gysylltiedig. |
||
P-04-492 Diagnosis o awtistiaeth ymysg plant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i: ·
ysgrifennu at y Gweinidog i groesawu ei hymateb a gofyn iddi hysbysu'r
Pwyllgor o ddatblygiadau yn y meysydd a nodir yn y paragraff olaf ond un yn
llythyr y deisebydd; ·
mynegi pryder i'r Gweinidog ynghylch y diffyg ymateb gan ddau o'r Byrddau
Iechyd a gofyn pa gamau y mae wedi'u cymryd i sicrhau y bydd y wybodaeth honno
ar gael; ac ·
yn unol â chais y deisebydd, rhannu'r grynodeb lawn o ymatebion â changen
Sir Benfro o Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru. |
||
P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan NDCS a chytunodd i edrych yn fwy
manwl ar y mater o acwsteg mewn ysgolion, yn arbennig sut y gall y Rhaglen
Ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif a rheoliadau adeiladu helpu i
gynnal y gwelliannau. |
||
P-04-516 Gwneud gwyddor gwleidyddiaeth yn rhan orfodol o addysg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i: ·
ofyn am farn y deisebydd ar ymateb y Gweinidog; a ·
gofyn am ragor o wybodaeth gan y grŵp llywio a sefydlwyd i
oruchwylio'r diwygiadau i Fagloriaeth Cymru ynghylch unrhyw ystyriaethau sydd
ganddynt i gynnwys gwyddor gwleidyddiaeth yn y cwricwlwm; ·
aros am ganlyniadau'r holiadur sy'n cael ei ddosbarthu gan dîm addysg y
Cynulliad; a ·
gofyn i Glerc y Pwyllgor gadw mewn cysylltiad â'r Gwasanaeth Ymchwil
ynghylch y gwaith o geisio â chael gwybodaeth mwy cynhwysfawr gan ysgolion
ynghylch a ddylid cynnwys gwyddor gwleidyddiaeth yn eu cwricwlwm ABCh, a sut i
wneud hynny. |
||
P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i: ·
ysgrifennu at yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i ofyn eu barn am
y gwaith sy'n cael ei wneud mewn ysgolion yn Lloegr ac i ofyn pam nad oes
gofyniad statudol i hysbysu myfyrwyr a rhieni o drefniadau rheoli asbestos mewn
ysgolion; a ·
gofyn am farn y deisebydd ynghylch y cyngor cyfreithiol a roddwyd yn y
cyfarfod. |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Cyfrifoldeb dros Faterion y Gymraeg. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau,
Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ynghych cyfrifoldeb dros y Gymraeg |
||
(10.15- 10.45) |
Sesiwn Dystiolaeth - Gwasanaethau Bysiau yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor. |
|
P-04-475 Yn eisiau – Bysiau i Feirionnydd Dogfennau ategol: |
||
P-04-513 Achub gwasanaeth bws X94 Wrecsam/Abermo Dogfennau ategol: |
||
P-04-515 Darparu rhagor o arian ar gyfer Gwasanaethau Bysiau Cymru Dogfennau ategol: |