Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Cyswllt: Naomi Stocks  Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

9.00

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins AC, ac roedd Elin Jones AC yn dirprwyo ar ei rhan.

 

 

9.00

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Item 3.

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

9.00 - 9.10

3.

Trafodaeth am weithgarwch y Pwyllgor

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau'r hyn y maent am i'r Pwyllgor ei wneud yn ystod tymor yr hydref.

 

9.10 - 9.15

4.

P-04-457 Yr Ymgyrch Caplaniaeth Elusennol

Dogfennau ategol:

9.15 - 9.20

5.

P-04-474 Cefnogaeth i wasanaethau caplaniaeth y GIG

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau'r sesiwn dystiolaeth ar 2 Mehefin a chytunodd i ysgrifennu at:

 

·         fyrddau iechyd lleol yn unigol a gofyn iddynt a ydynt yn cofnodi unrhyw ddata ynghylch y defnydd o wasanaethau caplaniaeth; a gofyn sut mae cyllid yn cael ei ddyrannu ar draws y gwasanaethau mewn ardal bwrdd iechyd lleol; a'r

·         Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi gwybod iddo am y gwaith y mae'r Pwyllgor wedi ei wneud ar y deisebau, gan amlygu pryderon deisebwr y Gaplaniaeth Elusennol am y diffiniadau o ofal ysbrydol a chrefyddol a holi a yw Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd lleol ddarparu gwasanaethau caplaniaeth.  

 

Gan ddibynnu ar yr ymatebion gan fyrddau iechyd lleol a'r Gweinidog, efallai y bydd y Pwyllgor yn gwrando ar sesiwn dystiolaeth lafar arall ar y ddeiseb.

 

9.20 - 9.40

6.

Deisebau newydd

6.1

P-04-487 Cynllun benthyg blaendal Llywodraeth Cymru i’r rheini sy’n prynu tŷ am y tro cyntaf yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio i holi ei farn am y ddeiseb.

 

6.2

P-04-488 Yr hawl i benderfynu: diwedd ar astudiaeth orfodol o’r Gymraeg hyd at lefel TGAU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i holi ei farn am y ddeiseb.

 

6.3

P-04-489 Deddf genedlaethol i Gymru ar dai fforddiadwy ac â blaenoriaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio i holi ei farn am y ddeiseb.

 

6.4

P-04-490 Meddyginiaeth Gwrth-retrofeirysol yng Nghaerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol:

 

·         y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; a

·         Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd a'r Fro yn holi eu barn am y ddeiseb.

 

6.5

P-04-491 Banc Cenedlaethol ac arian cyflenwol i Gymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol:

 

·         Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth; a'r

·         Gweinidog Cyllid yn holi eu barn am y ddeiseb.

 

6.6

P-04-492 Diagnosis o awtistiaeth ymysg plant

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau i holi ei farn am y ddeiseb.

 

9.40 - 10-15

7.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

7.1

P-03-262 Academi Heddwch Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gynhyrchu adroddiad yn crynhoi canfyddiadau'r Pwyllgor drwy gydol y gwaith o ystyried y ddeiseb.

 

7.2

P-03-150 Safonau Canser Cenedlaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Iechyd Cyhoeddus Cymru yn egluro ei rôl o ran gwybodaeth i gleifion am wasanaethau canser.

 

7.3

P-04-366 Cau canolfan ddydd Aberystwyth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at  Gyngor Ceredigion yn amlygu pryderon y deisebwr am yr adolygiad annibynnol a gofyn am ei farn am y pryderon hyn.

 

7.4

P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylder Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         glywed tystiolaeth lafar ynghylch y ddeiseb gan y deisebwyr a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; ac

·         ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol cyn iddo roi tystiolaeth yn amlygu'r pryderon sydd gan y deisebwr o hyd am y cyllid a'r gwasanaethau annigonol i bobl ag anhwylderau bwyta.

 

7.5

P-04-460 Moddion nid Maes Awyr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:

 

·         rannu datganiad ysgrifenedig diweddar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol â'r deisebwr, ac i holi ei farn am yr ohebiaeth gan y Gweinidog a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru; ac

·         ysgrifennu at Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru am y pryderon am yr amser y mae'n ei gymryd i ymateb i'r Pwyllgor.   

 

Awgrymodd y Pwyllgor efallai y byddai'n ystyried gwrando ar sesiwn dystiolaeth lafar gan bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn y dyfodol.

 

7.6

P-04-463 Lleihau Lefelau Halen mewn Bwyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn holi ei farn am y ddeiseb.

 

7.7

P-04-396 Sgiliau Triniaeth Cynnal Bywyd Brys i Blant Ysgol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yn wyneb datganiad y Gweinidog yn nodi nad oes ganddo unrhyw fwriad gwneud hyfforddiant triniaeth cynnal bywyd brys yn rhan orfodol o'r cwricwlwm.

 

Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i roi gwybod am y ddeiseb i Lywodraethwyr Cymru.  

 

 

7.8

P-04-467 Arholiadau ym mis Ionawr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yn wyneb cyhoeddiad y Gweinidog Addysg a Sgiliau.

 

Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i anfon copi o ddatganiad ysgrifenedig y Gweinidog at y deisebwyr. 

 

 

7.9

P-03-263 Rhestru Parc y Strade

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon yn holi a fyddai Cadw'n ystyried cofrestru'r cae chwarae ym Mharc y Strade yn y categori chwaraeon.

 

 

 

7.10

P-03-317 Cyllid ar gyfer y Celfyddydau Hijinx

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yn wyneb y gwaith a wnaed eisoes a chan nad yw Llywodraeth Cymru'n rhoi rhagor o gyllid iddo.

 

7.11

P-04-477 Cefnogi'r Bil Rheoli Cŵn (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at  y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn amlygu pryderon y deisebwr cyn yr ystyrir y mater ymhellach.

 

7.12

P-04-454 Gwahardd yr Arfer o Ddal Swyddi fel Cynghorydd ac fel Aelod Cynulliad ar yr un Pryd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y rhanddeiliaid canlynol yn holi eu barn am y mater:

  

·         Y Comisiwn Etholiadol 

·         Y Gymdeithas Diwygio Etholiadol

·         Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

·         Un Llais Cymru 

 

 

7.13

P-04-435 Gweithredu Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau 2018 ar Sail Ddi-ddifidend

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn gofyn am gynnwys y deisebwr ar y rhestr ymgynghori ar gyfer gwaith ymgynghori ar reilffyrdd yng Nghymru yn y dyfodol.

 

7.14

P-04-438 Hygyrchedd wrth Siopa

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i drefnu cyfarfod rhwng y deisebwyr a Chyngor Caerdydd i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon a godwyd yn ystod yr ymweliad.

 

7.15

P-04-475 Yn eisiau – Bysiau i Feirionnydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y rhanddeiliaid canlynol yn holi eu barn am y mater:

  

·         Cyngor Gwynedd

·         Anabledd Cymru

·         Age Cymru

·         Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

·         Comisiynydd Plant Cymru

 

Rhoddodd Joyce Watson wybod i'r Pwyllgor am ei chanfyddiadau hi yn dilyn yr ymweliad â'r deisebwyr. Diolchodd i’r deisebwyr am gwrdd â hi ac am drafod yr hyn sy'n peri pryder iddynt ac i staff llyfrgell  Abermo am eu croeso yn ystod yr ymweliad.

 

10.15 - 10.45

8.

P-04-432 Atal Recriwtio i’r Fyddin mewn Ysgolion: Sesiwn Dystiolaeth

Arfon Rhys, Prif Ddeisebwr

 

Sara Hawys, Ban Schoolyard Recruitment

 

Emma Sangster, Forces Watch

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd Arfon Rhys, Sara Hawys ac Emma Sangster gwestiynau'r Pwyllgor.

 

Cytunodd Emma Sangster i roi rhagor o fanylion i'r Pwyllgor am weithgarwch y lluoedd arfog mewn ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru.