P-04-460 Moddion nid Maes Awyr

P-04-460 Moddion nid Maes Awyr

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ystyried y ganlyn.

Mae’r gweithdrefnau sydd ar waith ar hyn o bryd i benderfynu ar gyflenwi moddion arbenigol i gleifion ar sail achos drwy Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn ddiffygiol ar lefel sylfaenol, yn niweidiol ac yn peri gofid i gleifion. Mae angen protocolau a gweithdrefnau newydd ar fyrder...Rhaid i Lywodraeth Cymru adolygu’r weithdrefn o ddyrannu moddion arbenigol i gleifion yn gyfan gwbl. Mae angen sicrhau bod y system yn haws o lawer i’w deall. Rhaid i feddygon gael mwy o lais yn y broses o wneud penderfyniadau gan mai nhw yw’r bobl orau i farnu beth yw anghenion ‘cleifion’. Dylid edrych ar ffyrdd amgen o ariannu moddion, fel trafod â chynhyrchwyr i negodi strwythurau prisio mwy realistig, a’r posibilrwydd o dreialon unigol tymor byr ac am ddim.

Gwybodaeth ychwanegol:

 

1.      Pan fydd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn asesu cyffur y gwneir cais amdano, ni ddylai’r argymhellion gan y Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan fod wedi’u cyhoeddi fwy na 18 mis yn ôl. Y rheswm dros hyn yw’r ffaith nad oes gan argymhellion a gafodd eu gwneud flynyddoedd yn ôl feincnod dibynadwy. Mae data dibynadwy sydd ar gael ar gyfer pob math o foddion yn gwella o ddydd i ddydd wrth i nifer yr astudiaethau achos gynyddu. Dylai fod gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yr hawl i wneud cais am adolygiad newydd gan y Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan a dylid gwneud hyn ar fyrder.

 

2.      Pan fo Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn gwrthod cais am foddion, bydd proses apelio yn cychwyn lle caiff y claf, y meddygon neu eiriolwr fod yn bresennol ond nid oes gan yr un ohonynt yr hawl i siarad.  Ni ddylai hyn barhau, felly dylid deddfu i’w wneud yn ofynnol bod yr achos yn cael ei glywed gyda chyfranogiad llawn y claf, y meddygon neu’r eiriolwr.

 

3.      Mewn llawer o achosion, mae cleifion yn sâl iawn, yn unig ac yn agored i niwed.  Dylai fod yn flaenoriaeth sicrhau bod gan gleifion o’r fath eiriolwr i’w helpu drwy’r gweithdrefnau sy’n ymwneud ag ariannu moddion.  Mae gan feddygon lwyth gwaith trwm ac felly nid ydynt yn gallu rhoi mwy o’u hamser i gleifion.

 

4.      Dylid cynnal adolygiad o gostau gwirioneddol moddion arbenigol a wrthodwyd ac o’r gost o dderbyniadau ysbyty yn dilyn hynny a chostau triniaeth amgen. Byddai hyn yn fuddiol i bennu cost wirioneddol moddion arbenigol i drethdalwyr.

 

5.      Dylai Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru gael y pŵer i ganiatáu moddion os yw’r timoedd meddygol wedi penderfynu bod pob triniaeth arall wedi bod yn aflwyddiannus a’u bod yn credu bod posibilrwydd y bydd y moddion o dan sylw’n helpu’r claf.

 

6.     Dylai Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru gael y dewis o gynnig treial o foddion i glaf o leiaf i ganfod a ellid disgwyl canlyniad cadarnhaol.

Prif ddeisebydd: Jeremy Derl-Davis

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  19 Mawrth 2013

 

Nifer y llofnodion: 51

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried