Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/03/2025 - Y Pwyllgor Deisebau
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Datganodd Luke
Fletcher AS fuddiant perthnasol mewn perthynas ag Eitem 2.1 - mae wedi gweithio
gyda phreswylwyr a’r prif ddeisebydd dros y blynyddoedd diwethaf ar ymgyrch
Arbed/y Rhaglen Arbed Ynni Cymunedau. |
|
|
Deisebau newydd |
|
|
P-06-1491 Rydym yn mynnu bargen deg i drigolion yr effeithir arnynt gan y cynllun Arbed/y Rhaglen Arbed Ynni Cymunedau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i: ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i gadarnhau’r safbwynt o ran cais y
deisebwyr am ymchwiliad cyhoeddus; ysgrifennu at y Pwyllgor Cydraddoldeb a
Chyfiawnder Cymdeithasol i ofyn i ba raddau yr oedd wedi edrych ar y sefyllfa
yng Nghaerau a sut yr oedd hynny wedi dylanwadu ar y Llywodraeth o ran ei
rhaglen Cartrefi Clyd newydd; gwahodd y deisebwyr a’r cynghorydd lleol sy’n
cefnogi eu hymgyrch i ddod i gwrdd â’r Pwyllgor; ac ysgrifennu at Gyngor
Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ofyn am gynnydd y gwaith adfer a
ariennir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Yn sgil y camau hynny y
cytunwyd arnynt, byddai'r Pwyllgor yn cadw'r ddeiseb ar agor. |
|
|
P-06-1498 Cyflwyno gwasanaeth bws o Orsaf Fysiau’r Fenni i Ysbyty’r Faenor Dogfennau ategol:
Cofnodion: Yn sgil Bil
masnachfreinio bysiau Llywodraeth Cymru sydd ar ddod, cytunodd y Pwyllgor i
gadw’r ddeiseb ar agor a pharhau i fonitro’r sefyllfa. |
|
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
|
P-06-1352 Cymeradwyo adeiladu trydedd bont dros y Fenai Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i gau’r ddeiseb a pharhau i godi’r mater fel Aelodau unigol yn y
Siambr. |
|
|
P-06-1464 Caniatáu i deuluoedd Cymru sydd wedi colli baban cyn 24 wythnos gael tystysgrif colli baban Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunwyd y
byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu eto at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a
Gofal Cymdeithasol i ofyn am y cynnydd o ran gweithredu’r cynllun yng Nghymru.
Ymrwymodd y Cadeirydd hefyd i godi'r mater yn y Siambr gyda'r Trefnydd o dan y
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes. |
|
|
P-06-1463 Parhau i ariannu swyddogion heddlu ysgolion sy'n addysgu plant ac yn cefnogi ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu’n ôl at yr Ysgrifennydd Cyllid i ganmol Llywodraeth Cymru
am ariannu’r rhaglen cyhyd ag y gwnaeth, o ystyried nad yw plismona wedi’i
ddatganoli, ond i dynnu sylw at y pryderon ynghylch plismona yng Nghymru a’r
broses gynllunio ac ymgynghori. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y
Swyddfa Gartref i bwysleisio pwysigrwydd ariannu’r gwaith hwn yng Nghymru. |
|
|
P-06-1475 Gwella diogelwch yr A458, Treberfedd, Powys ar frys yn sgil gyrru peryglus parhaus Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Joel
James AS fuddiant perthnasol gan ei fod yn adnabod y deisebydd dan sylw.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth i
ofyn am ragor o fanylion am yr astudiaeth; a ellir darparu'r amserlenni ar
gyfer ei gwblhau i'r gymuned ac i'r deisebydd; a eir ati i ymgynghori â’r
cyhoedd, y deisebydd a’r cyngor cymuned fel rhan o’r astudiaeth; a fydd y
canlyniadau/opsiynau a gaiff eu hystyried wedyn yn cael eu rhannu gyda nhw; ac
a oes amserlen yn y pen draw ar gyfer gweithredu unrhyw argymhellion neu
fesurau arfaethedig. Byddai'r ddeiseb yn cael ei chadw ar agor wrth aros am
ymateb. |
|
|
P-06-1476 Clustogfa orfodol 1000 metr ar gyfer yr holl chwareli newydd a phresennol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes a gofyn am ddadl ynghylch y ddeiseb,
gan bwysleisio pwysigrwydd cynnal y ddadl cyn gynted â phosibl, a nodi bod
gwybodaeth newydd bellach ar gael yn dilyn dadl Heledd Fychan ar Gynnig
Deddfwriaethol gan Aelod - Bil yn ymwneud â phrosesau cynllunio ar gyfer
datblygu chwareli, a gynhaliwyd ar 16 Hydref 2024. |
|
|
P-06-1332 Ariannu ymchwil brechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag feirws marwol brech y gwiwerod Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i gau'r ddeiseb, ond cyn gwneud hynny i ysgrifennu at y Dirprwy Brif
Weinidog i ofyn am ymateb i gwestiynau diweddaraf y deisebydd. Byddai'r ymateb
yn cael ei anfon at y deisebydd. Cytunodd yr Aelodau hefyd i ysgrifennu at
Bencampwr Rhywogaethau Cymru ar gyfer gwiwerod coch, Darren Millar AS; Alun
Davies AS, a oedd wedi codi'r mater yn y Siambr; ac Aelodau Gogledd Cymru – yr
ardal sydd â’r boblogaeth fwyaf o wiwerod coch – i dynnu sylw at y ddeiseb er
gwybodaeth iddynt. |
|
|
Papurau i'w nodi |
|
|
P-06-1479 Stopio cadw plant, pobl ifanc ac oedolion ag anableddau dysgu ac awtistiaeth mewn ysbytai Dogfennau ategol: |
|
|
P-06-1489 Deddfu i sicrhau bod briciau gwenoliaid duon yn cael eu gosod ym mhob adeilad newydd yng Nghymru Dogfennau ategol: |
|
|
P-05-1447 Atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau’r ganolfan ymwelwyr yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Ynyslas Dogfennau ategol: |
|
|
P-06-1474 Atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau canolfannau ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, Coed y Brenin ac Ynyslas Dogfennau ategol: |
|
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod |
|
|
Adroddiad byr drafft: P-06-1380 Bathodyn glas gydol oes i unigolion sydd â diagnosis gydol oes Dogfennau ategol:
|
PDF 199 KB