Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/03/2024 - Y Pwyllgor Deisebau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd
ymddiheuriad gan Joel James AS. Roedd Altaf
Hussain AS yn bresennol yn y cyfarfod, yn dirprwyo ar ran Joel James AS. |
|
Deisebau newydd |
|
P-06-1385 Cynnal arolwg diduedd o’r trigolion sy'n byw yn ardaloedd y cynllun peilot ar gyfer terfyn cyflymder o 20mya Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod Trafnidiaeth Cymru eisoes yn cynnal
gweithrediad monitro helaeth. Fel rhan o'r data yma, bydd data'n cael ei gasglu
am hyd at bum mlynedd ar ôl gweithredu, a fydd yn cynnwys arolygon ansoddol o
agweddau. Cyhoeddwyd yr adroddiad monitro terfynol ar gyfer yr ardaloedd peilot
ar 20 Chwefror. Yng ngoleuni hyn, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch
i’r deisebydd. |
|
P-06-1386 Dylid cyflwyno ffordd i etholwyr bleidleisio i gael gwared ar eu AS cyn diwedd eu tymor Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd waith Pwyllgor y Bil Diwygio. Cytunodd yr
Aelodau i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i dynnu sylw at
y ddeiseb hon a gofyn iddi gael ei hystyried fel tystiolaeth wrth ystyried
adalw Aelodau yn y dyfodol. Yn ogystal â hyn, cytunodd yr Aelodau i gau’r
ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
|
P-06-1391 Dylid rheoleiddio'r sector steilio cŵn, er mwyn diogelu lles cŵn a hawliau perchnogion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Materion Gwledig a
Gogledd Cymru, a’r Trefnydd i ofyn i’r ddeiseb hon a’r wybodaeth a ddarparwyd
gael eu hystyried yn dystiolaeth yn yr ymgynghoriad a ddaeth i ben ar 1 Mawrth
2024, ar drwyddedu sefydliadau lles anifeiliaid. |
|
P-06-1392 Diwygio Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i wneud cais
am ddadl ar y mater. Bu sawl deiseb yn codi pryderon am y Cod ADY – a’r broses
o’i roi ar waith – a chyfeirir at y deisebau eraill pan fydd y ddeiseb hon yn
cael ei thrafod. |
|
P-06-1396 Cyflwyno trwydded e-sigaréts ar gyfer siopau e-sigaréts pwrpasol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl
a Llesiant yn gofyn am ragor o wybodaeth am archwiliad Llywodraeth Cymru o
gynllun trwyddedu ar gyfer manwerthwyr tybaco ac anwedd. Cytunodd yr Aelodau i
aros am ymateb y Dirprwy Weinidog cyn penderfynu a ddylid cynnal unrhyw waith
pellach ar y ddeiseb. At hynny,
cytunwyd i ofyn cwestiwn ar wahân ‘r Dirprwy Weinidog am stondinau shisha. |
|
P-06-1401 Rhaid sicrhau na fydd pob bwyd a gaffaelir yn gyhoeddus yng Nghymru byth yn fegan neu’n llysieuol yn unig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb ac yng ngoleuni ymateb y Gweinidog, nid yw'n glir beth arall
y gall y Pwyllgor ei wneud i fwrw ymlaen â'r ddeiseb. Cytunodd yr Aelodau i
gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
|
P-06-1402 Diwygio deddfwriaeth yng Nghymru i alinio â Lloegr mewn perthynas â chynyddu’r dreth gyngor yn ormodol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd ymateb y Gweinidog gan ddweud nad oes unrhyw
gynlluniau i gyflwyno refferenda ar gynnydd yn y dreth gyngor, a bod cynlluniau
eisoes ar waith i ymateb i godiadau gormodol, os oes angen. Yng ngoleuni hyn,
cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
|
P-06-1403 Ailystyried Toriadau i Gyllid Ôl-raddedig a Chynyddu Benthyciadau Doethuriaeth i Gyfateb ag Ariantal Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog Addysg i ofyn
am eglurhad ynghylch pwyntiau pellach y deisebydd ynghylch unrhyw asesiad o
effaith y toriadau ac a oes data ar gael ar ganlyniadau myfyrwyr blaenorol a
allai lywio'r drafodaeth. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-06-1294 Peidiwch â gadael cleifion â chanser y fron metastatig yng Nghymru y tu ôl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Mynegodd yr
aelodau eu tristwch fod iechyd Tassia wedi gwaethygu'n sylweddol ac roedd eu
meddyliau gyda Tassia a'i hanwyliaid yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mynegodd yr
aelodau pa mor ysbrydoledig y bu ei hymrwymiad a'i hymroddiad i wella gofal
canser. Fe wnaethon nhw dynnu sylw at hanes a llwyddiant y ddeiseb a’r hyn y
mae Tassia wedi’i gyflawni drwy ei deiseb ac ymgyrchu ehangach i wella prosesau
cynllunio, a gwasanaethau ar gyfer canser metastatig y fron. Cytunodd yr
Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i Tassia am fod yn gatalydd ar gyfer newid, ac
yn hyrwyddwr ar gyfer pob menyw â chanser y fron sydd, wedyn yn datblygu canser
metastatig y fron yng Nghymru. |
|
P-06-1350 Ailagor Ward Dyfi yn Ysbyty Tywyn ar unwaith Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd yr ohebiaeth gan y Bwrdd Iechyd, Cymdeithas yr
Ysbytai Cymunedol a'r deisebydd. Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu'n ôl at y Bwrdd Iechyd i godi pryderon y deisebydd a
Chymdeithas yr Ysbytai Cymunedol, a gofyn yn benodol am y canlynol:
manylion
penderfyniad y Bwrdd Iechyd i dynnu’r hawl i ofyn cwestiynau i’r cyhoedd mewn
cyfarfodydd cyffredinol yn ôl. |
|
P-06-1380 Bathodyn glas gydol oes i unigolion sydd â diagnosis gydol oes Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Jack
Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae wedi cyfarfod
â'r deisebwyr ar adegau ac mae'n gefnogol iawn i gynsail y ddeiseb. Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb a nododd yr ohebiaeth ddiweddar a ddaeth i law oddi wrth
Mark Isherwoord AS. Cytunodd yr
Aelodau i gymryd amser i fyfyrio ar yr ohebiaeth a gafwyd, ac i ysgrifennu'n ôl
at y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd gyda'r cwestiynau a godwyd gan y
deisebydd, a'r llythyr a gafwyd oddi wrth Mark Isherwood AS. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y
cynnig. |