P-06-1396 Cyflwyno trwydded e-sigaréts ar gyfer siopau e-sigaréts pwrpasol
P-06-1396 Cyflwyno trwydded e-sigaréts ar gyfer siopau e-sigaréts pwrpasol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Claire ford, ar ôl casglu
541 lofnodion ar lein a 8,494 lofnodion ar bapur, sydd yn wneud cyfanswm o
9,035 lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb:
Gall diffyg hyfforddiant a thrwydded achosi i gynhyrchion
anaddas a dyfeisiau anghyfreithlon gael eu gwerthu, a all fod yn beryglus a
llesteirio'r siawns o roi’r gorau i ysmygu. Mae yna hefyd gynhyrchion fêpio
ffug ac anghyfreithlon ar y farchnad nad ydynt yn cydymffurfio â rheoliadau'r
DU, sy'n berygl i'r cyhoedd. Dylai mangreoedd trwyddedig sydd wedi'u hawdurdodi
i werthu e-sigaréts helpu i fynd i’r afael â hyn gan eu bod yn prynu'n
uniongyrchol gan gyflenwyr trwyddedig, felly ni fydd y cynhyrchion y maent yn
eu gwerthu yn rhai ffug neu’n cael eu prynu'n rhad ar y farchnad ddu i wneud
elw cyflym.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Rydyn ni am i gynhyrchion fêpio gael eu gwerthu mewn
siopau trwyddedig penodol sydd â staff hyfforddedig sy'n arbenigo mewn
cynhyrchion o’r fath a phob agwedd arall ar fêpio, yn ogystal â Therapi Disodli
Nicotin (NRT), gan gynnwys gwybodaeth am wahanol gynhyrchion, i'w galluogi i
weithio gyda'r cyhoedd i gynyddu cyfraddau rhoi’r gorau i ysmygu yn
llwyddiannus.
Ar hyn o bryd, mae siopau e-sigaréts yn cydymffurfio â gofynion Safonau Masnach
i’w galluogi i fasnachu. Mae llawer o staff yn ymarferwyr achrededig y Ganolfan
Genedlaethol Rhoi’r Gorau i Ysmygu a Hyfforddiant, sy’n golygu eu bod yn gallu
rhannu gwybodaeth ymarferol a chyngor am therapi disodli nicotin.
Mae rhieni'n anhapus gan fod rhai manwerthwyr yn gwerthu
e-sigaréts i bobl ifanc o dan 18 oed. Mae hyn yn effeithio’n andwyol ar y
diwydiant e-sigaréts wrth iddo weithio tuag at Gymru ddi-fwg. Mae defnyddio
e-sigaréts yn gam tuag at ysmygu, felly nid yw'n rhywbeth y dylai pobl ifanc
fod yn ei wneud.
Gyda chyfraddau llwyddiant mor uchel yn y diwydiant e-sigaréts o ran helpu pobl
i roi'r gorau i ysmygu, mae angen cydnabod y diwydiant ac mae’n rhaid cyflwyno
trwydded am resymau diogelwch ac i sicrhau bod e-sigaréts yn cael eu gwerthu'n
gyfrifol.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
·
Blaenau Gwent
·
Dwyrain De Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/02/2024