P-06-1386 Dylid cyflwyno ffordd i etholwyr bleidleisio i gael gwared ar eu AS cyn diwedd eu tymor

P-06-1386 Dylid cyflwyno ffordd i etholwyr bleidleisio i gael gwared ar eu AS cyn diwedd eu tymor

Petitions4

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Deborah Dangerfield, ar ôl casglu 2,012 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Ar hyn o bryd, nid oes ffordd o gael gwared ar yr Aelodau o’r Senedd ar gyfer eich ardal os nad yw eu hetholwyr yn hapus gyda nhw – ar ôl cael eu hethol, maent yn aros yno am 5 mlynedd oni bai eu bod yn ymddiswyddo’n wirfoddol.

Mae’r ddeiseb hon yn galw ar y Senedd i fabwysiadu trefn adalw (fel y nodir isod), neu rywbeth tebyg, fel y gall etholwyr alw ar AS i adael ei sedd. Yr amodau i sbarduno adalw byddai deiseb ar-lein sydd ag o leiaf 100 o lofnodion gan bleidleiswyr cofrestredig cymwys.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Enghraifft o drefn adalw

 

Dylai’r broses fod yn debyg i Ddeddf Adalw Aelodau Seneddol 2015. Er mwyn i ddeiseb adalw fod yn llwyddiannus, byddai angen i 10 y cant o’r pleidleiswyr cofrestredig cymwys lofnodi’r ddeiseb, a fydd yn arwain yn y pen draw at is-etholiad.

 

Statws 

Yn ei gyfarfod ar 04/03/2024 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.  

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod. 

 

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 04/03/2024. 

 

The Senedd chamber

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Llanelli
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

[PetitionFooter]

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 28/02/2024

Dogfennau

Papurau cefndir