P-06-1403 Ailystyried Toriadau i Gyllid Ôl-raddedig a Chynyddu Benthyciadau Doethuriaeth i Gyfateb ag Ariantal Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI)
P-06-1403 Ailystyried Toriadau i Gyllid Ôl-raddedig a Chynyddu Benthyciadau Doethuriaeth i Gyfateb ag Ariantal Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI)
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Micaela Panes, ar ôl casglu
2,026 lofnodion ar lein a 130 lofnodion ar bapur, sydd yn wneud cyfanswm o 2,156
lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb:
Mae ôl-raddedigion yn hanfodol ar gyfer datblygu
gwybodaeth, arloesi a meithrin arbenigedd. Fodd bynnag, mae Cyllideb Ddrafft
Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25 wedi cyhoeddi y bydd gwerth £12.8 miliwn o
grantiau a bwrsariaethau ôl-raddedig yn cael eu dileu. Bydd hyn yn peri rhwystr
i ddarpar fyfyrwyr ôl-raddedig oherwydd beichiau ariannol cynyddol, bydd yn
peryglu amrywiaeth yn ein rhaglenni academaidd, bydd yn llesteirio
cystadleurwydd ein sefydliadau yn fyd-eang, a bydd yn effeithio ar dwf economi
a chymunedau Cymru.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae’r ddeiseb hon hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i
gynyddu benthyciadau doethuriaeth i gyfateb ag ariantal blynyddol UKRI. Mae
myfyrwyr doethuriaeth sy'n cael benthyciad gan Gyllid Myfyrwyr Cymru yn cael
£28,395 i dalu ffioedd dysgu a chostau byw cyffredinol am dair i bedair blynedd
o astudio amser llawn (gall unrhyw un sy'n bodloni'r gofynion wneud cais am y
rhain). Fodd bynnag, mae’r rhai sy’n cael ariantal UKRI (sydd ond ar gael i
fyfyrwyr a ariennir gan y Cyngor Ymchwil) yn cael £18,622 y flwyddyn ar gyfer
costau byw yn unig. Mae’r gwahaniaeth hwn yn gadael myfyrwyr doethuriaeth sy’n
defnyddio benthyciadau mewn sefyllfa anodd iawn, gyda llawer ohonynt yn gwneud
sawl swydd tra eu bod yn dilyn cyrsiau amser llawn, yn defnyddio banciau bwyd,
a hyd yn oed yn gadael eu hastudiaethau doethuriaeth. Gyda’r argyfwng costau
byw sydd ohoni, y gostyngiad yn y cyllid a’r ysgoloriaethau ymchwil sydd ar
gael, a chyfradd druenus y benthyciadau doethuriaeth, mae Cymru mewn perygl o
weld gostyngiad sylweddol yn nifer y myfyrwyr sy’n dilyn astudiaethau
doethuriaeth, a byddai hynny’n cael effaith ddifrifol ar arloesi ac ymchwil.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Canol Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 29/02/2024