P-06-1402 Diwygio deddfwriaeth yng Nghymru i alinio â Lloegr mewn perthynas â chynyddu'r dreth gyngor yn ormodol
P-06-1402 Diwygio deddfwriaeth yng Nghymru i alinio â Lloegr mewn perthynas â chynyddu'r dreth gyngor yn ormodol
Petitions4
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan David Titheridge, ar ôl
casglu 331 o lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb:
Yn Lloegr mae’n rhaid i awdurdodau lleol benderfynu a
yw’r cynnydd maent yn bwriadu ei gyflwyno i’r dreth gyngor yn ‘ormodol’. Mae’r
Ysgrifennydd Gwladol yn pennu trothwyon ar gyfer pa mor ormodol yw cynnydd yn y
dreth, a elwir yn ‘egwyddorion refferendwm’. Ar hyn o bryd gall cynghorau lleol
yng Nghymru gynyddu’r dreth gyngor hyd at 10% y flwyddyn heb refferendwm lleol,
ac mae cynghorau lleol yng Nghymru wedi gwneud hyn yn ystod y 12 mis diwethaf.
Mae llawer yn bwriadu gwneud hyn eto gan roi baich ariannol enfawr ar aelwydydd
sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae’r papur briffio hwn https://commonslibrary.parliament.uk/research-briefings/sn05682/ yn
egluro’r system o gael refferendwm lleol ar gyfer cynnydd ‘gormodol’ i’r dreth
gyngor, sydd wedi bod ar waith yn Lloegr ers blwyddyn ariannol 2012/13. Mae’n
egluro’r cefndir cyfreithiol i’r system, gan gynnwys y gweithdrefnau, amseru, a
chostau ar gyfer refferenda, a sut mae unrhyw gynnydd i’r dreth gyngor yn cael
ei gyflwyno gan awdurdodau lleol.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 04/03/2024
penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd
uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
04/03/2024.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Clwyd West
- North Wales
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 28/02/2024