Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/03/2023 - Y Pwyllgor Deisebau

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

(14.00 - 14.40)

2.

Sesiwn dystiolaeth 1- P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru

Bethan Sayed, Climate Cymru

 

Ben Saltmarsh, National Energy Action Cymru

 

Luke Young, Gyngor ar Bopeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Bethan Sayed, y deisebydd a chydlynydd ymgyrch Cadwch yn Gynnes y Gaeaf Hwn, Climate Cymru, Ben Saltmarsh, Pennaeth Gweithredu Ynni Cenedlaethol Cymru a Luke Young, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyngor ar Bopeth Cymru.

 

(14.40 - 15.00)

3.

Deisebau newydd

3.1

P-06-1325 Gostwng y cyfyngiad cyflymder ar yr A5 drwy Glasfryn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i:

  • ofyn iddo ddweud rhagor am sylwadau’r deisebydd a’r pryder mai hwn yw’r unig bentref ar yr A5 sydd â chyfyngiad cyflymder o 60mya; a
  • gofyn iddo sicrhau y bydd y darn hwn o’r ffordd yn cael blaenoriaeth ar gyfer cynnal adolygiad arall pan gaiff y canllawiau newydd eu cyhoeddi.

4.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

4.1

P-05-1112 Helpwch gymunedau yng Nghymru i brynu asedau cymunedol: Gweithredwch Ran 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am eglurhad pellach ynghylch yr amserlen ar gyfer sefydlu Comisiwn i fwrw ymlaen â’r rhan fwyaf o’r argymhellion.

 

4.2

P-06-1190 Gwahardd y defnydd o fawn mewn garddwriaeth ac unrhyw ddeunyddiau tyfu erbyn 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac, o ystyried y ffaith bod Llywodraethau’r DU a Chymru wedi ymrwymo i wahardd gwerthu compost mawn, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a llongyfarch y deisebydd ar ymgyrch a chanlyniad llwyddiannus.

 

4.3

P-06-1272 Gwahardd defnyddio 'cymalau dim anifeiliaid anwes' mewn cytundebau tenantiaeth yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd i ofyn am ymateb i gwestiynau ychwanegol y deisebydd.

 

4.4

P-06-1275 Galw ar y Llywodraeth i ail-ystyried eu penderfyniad i dynnu nôl o gynllun ffordd osgoi Llanbedr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd rwystredigaeth y gymuned leol. Fodd bynnag, o ystyried bod adroddiad yr Adolygiad Ffyrdd yn dweud yn glir na fydd cynllun ffordd osgoi Llanbedr yn mynd rhagddo a bod Llywodraeth Cymru wedi nodi ei pharodrwydd i weithio gyda Chyngor Gwynedd a bod cyfarfodydd wedi’u trefnu gyda’r gymuned leol i ystyried dulliau eraill o ymdrin â’r anawsterau, cytunodd y Pwyllgor nad oedd llawer mwy y gallent ei wneud a chytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am dynnu sylw at y mater hwn.

 

4.5

P-06-1299 Dylai "Rhewi ar adeiladu ffyrdd" Llywodraeth Cymru gynnwys cymal ar gyfer achosion sy'n peri perygl i fywyd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i dynnu eu sylw at y ddeiseb ac i ofyn a ydynt wedi cymryd camau i ymdrin â’r broblem y mae’r ddeiseb yn sôn amdani ac, os felly, beth yw’r camau hynny.

 

4.6

P-06-1286 Sicrhau bod triniaeth a sgrinio ar gyfer canser yn parhau yn ystod COVID19

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac, o ystyried bod y Cynllun Gwella Canser wedi’i gyhoeddi, a bod hwn yn cydnabod yr heriau sy’n ein hwynebu ac yn rhoi pwyslais ar wella, cytunodd yr aelodau i gau’r ddeiseb.

 

4.7

P-06-1297 Dod â "llosgi dan reolaeth" i ben yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac o ystyried ymateb yr RSPB a'r deisebydd, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd i ofyn a oes unrhyw gynlluniau i adolygu'r cod statudol a'r rheoliadau ynghylch llosgi dan reolaeth, gan sicrhau eu bod yn gydnaws ag amcanion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy a Thir Cynaliadwy.

 

(15.00 - 15.30)

5.

Sesiwn dystiolaeth 2- P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dean Kirby, newyddiadurwr gyda phapur newydd yr ‘i’.

 

(15.30 - 16.00)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

7.

Trafod tystiolaeth - P-06-1326 Dylai’r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a chytunwyd y byddai'n gwahodd Ofgem, Nwy Prydain, Scottish Power ac Energy UK i roi tystiolaeth yn ei gyfarfod nesaf ar 24 Ebrill.