Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/03/2022 - Y Pwyllgor Deisebau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

Datganodd Luke Fletcher ei fod yn aelod o Achub Milgwn Cymru.

 

2.

Sesiwn Dystiolaeth - P-06-1207 Dechreuwch gyfeirio at ddinasoedd a threfi Cymru yn ôl eu henwau Cymraeg

 

Gwenith Price, Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg


Eleri James
, Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg

 

 

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gwenith Price, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg ac Eleri James, uwch swyddog polisi, seilwaith ac ymchwil gyda swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.

 

3.

Deisebau newydd

3.1

P-06-1240 Gwella gwasanaethau iechyd i bobl ag epilepsi sy'n byw yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Jack Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n adnabod y deisebydd ac wedi lansio llwybr rheoli trawiadau ac epilepsi cyntaf i oedolion yng Nghymru gyfan yn y Senedd y llynedd.

 

Nododd y Pwyllgor yr ymateb a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog i ofyn beth yw'r cynlluniau ar gyfer cynyddu nifer y nyrsys a lledaeniad nyrsys arbenigol epilepsi ledled Cymru.

 

3.2

P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Jack Sargeant AS a Luke Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'r ddau ohonynt yn adnabod y deisebydd.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i gynnal ymchwiliad byr a chasglu tystiolaeth gan amrywiaeth eang o dystion.

 

3.3

P-06-1251 Dylid sicrhau’r hawl i fynediad o bell i bobl anabl a niwrowahanol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n adnabod aelod o'r teulu sydd â ffibromyalgia.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a dderbyniwyd a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn gofyn sut y mae wedi cefnogi prifysgolion a cholegau a gofyn pa drafodaethau a gafwyd ynghylch sicrhau bod cymaint o gyrsiau â phosibl ar gael drwy fynediad o bell.

 

3.4

P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Luke Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae'n aelod o Achub Milgwn Cymru.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i gymryd tystiolaeth a chynnal ymchwiliad byr.

 

4.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

4.1

P-05-1106 Cyflwyno cyllidebau iechyd personol a gofal personol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyrioedd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i:

  • ysgrifennu at yr arbenigwyr a enwir gan y deisebydd i ofyn eu barn ar y ddeiseb i lunio'r llythyr at y Gweinidog
  • ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog i rannu siom y deisebydd a'r dadansoddiad gan yr arbenigwyr
  • gofyn am eglurhad ynghylch a fydd disgwyl i Fyrddau Iechyd Lleol ddarparu pecynnau ar y cyd a chomisiynu Ymddiriedolaethau Defnyddwyr Annibynnol a pha ganllawiau a chymorth fydd ar gael i sicrhau bod hyn yn digwydd; ac
  • o gofio mai'r ddeddfwriaeth yw'r rhwystr, gofyn pam nad yw camau'n cael eu cymryd i ddiwygio'r ddeddfwriaeth ddiffygiol.

 

4.2

P-06-1200 Dylid gwneud rhwymo ceffylau yn anghyfreithlon ac yn weithred o greulondeb yng Nghymru, ni waeth a oes gan y ceffylau gysgod neu beidio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod y Gweinidog wedi rhoi mwy o fanylion am sut y mae’n bwriadu bwrw ymlaen â'i hymrwymiadau lles anifeiliaid, gan gynnwys gwella hyfforddiant a sgiliau swyddogion gorfodi awdurdodau lleol a bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag asiantaethau gorfodi a sefydliadau lles anifeiliaid ac yn bwriadu ymgynghori ar eu blaenoriaethau. Felly, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

4.3

P-06-1228 Talu bonws i athrawon uwchradd am farcio a safoni asesiadau swyddogol haf 2021

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:

  • ofyn i Cymwysterau Cymru egluro pam mae'r adroddiad ymchwil ar y mater hwn yn cael ei ohirio tan fis Mai; ac
  • aros i Cymwysterau Cymru gyhoeddi'r adroddiad ymchwil i gael trosolwg cliriach o brofiadau athrawon ledled Cymru, cyn penderfynu pa gamau pellach y gellir eu cymryd

 

 

4.4

P-06-1230 Mae pob eiliad yn cyfrif: Dylid gosod diffibriliwr ym mhob ysgol yng Nghymru i'r cyhoedd gael mynediad ato

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yng ngoleuni'r ffaith bod y Gweinidog wedi darparu ymateb pellach ynghylch mynediad at gyllid, gan ddweud bod potensial o gyllid pellach yn cael ei ystyried ac y bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried hyrwyddo hyn drwy rwydweithiau ysgolion a cholegau, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb.

 

4.5

P-05-949 Arbed yr hen ysgol ganolradd i ferched y bont-faen rhag ei dymchwel

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cydnabu'r Pwyllgor a chanmolodd yr ymgyrchu diflino a wnaed gan y deisebydd drwy gydol y broses hon. Yn dilyn y ddadl yn y Senedd ar 16 Chwefror, daeth yr aelodau i'r casgliad eu bod wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi'r ddeiseb hon, ac felly cytunodd i gau'r ddeiseb nawr a diolch i'r deisebydd.

 

5.

Papur i'w Nodi - Llythyr ac adroddiad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch ymgysylltu â phlant a phobl ifanc am flaenoriaethau’r Pwyllgor ar gyfer y Chweched Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nodwyd y papur.

 

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 7 y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

7.

Trafod tystiolaeth - P-06-1207 Dechreuwch gyfeirio at ddinasoedd a threfi Cymru yn ôl eu henwau Cymraeg

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn tynnu sylw at y materion. Roedd y dystiolaeth yn tynnu sylw at y trefniadau personol yng Nghymru a'r diffyg pwerau statudol i weithredu argymhellion. Mae angen adolygiad manylach o'r darlun presennol cyn y gellir gwneud argymhellion i fynd i'r afael â'r sefyllfa gymhleth hon. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i dynnu sylw Pwyllgorau perthnasol y Senedd at hyn.