P-06-1251 Dylid sicrhau'r hawl i fynediad o bell i bobl anabl a niwrowahanol

P-06-1251 Dylid sicrhau'r hawl i fynediad o bell i bobl anabl a niwrowahanol

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Caley Crahart, ar ôl casglu cyfanswm o 158 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Rwy’n fyfyriwr â ffibromyalgia ac anhwylder straen ôl-drawmatig cymhleth. Roedd gallu cael mynediad at fy nghwrs o bell o fudd mawr i’m hiechyd corfforol a’m hiechyd meddwl. Mae pobl anabl a niwrowahanol eraill wedi cael profiadau tebyg a hoffent gael yr opsiwn i barhau i gael mynediad at eu cyrsiau yn y modd hwn.

Dylai’r Senedd sicrhau’r hawl i fynediad o bell at addysg. Ymhellach, dylai ddiogelu cyfrifoldeb sefydliadau addysgol yn y gyfraith i ymroi’n llwyr i greu amgylchedd hygyrch, cynhwysol. Mae gwrthod hyn yn amddifadu pobl anabl a niwrowahanol o’r bywyd a’r rhyddid rydym yn eu haeddu.

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 11/07/2022 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ddiolch i CCAUC am ei ymatebion trylwyr i'r Pwyllgor a nododd, er bod gweithio o bell yn cynnig manteision, fod anfanteision i eraill hefyd. Mae’n pwysleisio y dylai prifysgolion weithio gyda'u myfyrwyr i sicrhau eu bod yn diwallu anghenion yr holl fyfyrwyr. Wrth wneud hynny, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 07/03/2022.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Canol Caerdydd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 21/02/2022