Blaenoriaethau i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Blaenoriaethau i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Sefydlwyd y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan y Senedd i graffu ar bolisi a
deddfwriaeth, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn meysydd penodol. Mae'r
meysydd hyn yn cynnwys plant a phobl ifanc; addysg; ac iechyd, gwasanaethau
gofal, a gofal cymdeithasol i’r graddau y maent yn ymwneud â phlant a phobl
ifanc.
Rhwng nawr a'r
gaeaf, byddwn yn dechrau ystyried beth ddylai ein blaenoriaethau fod ar gyfer y
Senedd hon.
Mae mwy o fanylion am ein cylch gorchwyl ar
gael (PDF 95KB) os ydych chi eisiau darllen mwy.
Er mwyn helpu i
lywio ein gwaith cynllunio strategol a’n blaenraglen waith, gofynnwyd am eich
barn chi ynghylch beth ddylai fod yn brif flaenoriaethau i ni yn y Chweched
Senedd (2021-2026).
Mae'r holl
ymatebion ar gael ar dudalen
yr ymgynghoriad.
Un o’n prif
flaenoriaethau yw sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed yn
ein gwaith. Cynhaliwyd gweithgareddau gyda phlant a phobl ifanc yn nhymor yr
hydref 2021 i'n helpu i ddeall eu blaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd.
Deallasom y byddai gan blant a phobl ifanc amrywiaeth o safbwyntiau.
Mae crynodeb
o'n canfyddiadau (PDF 2MB) o'r gwaith ymgysylltu hwn bellach ar gael.
Hoffem ddiolch i'r holl blant a phobl ifanc hynny a gyfrannodd.
Ar 16 Rhagfyr,
cyhoeddodd y Pwyllgor ddau fersiwn o'i Strategaeth ar gyfer y Chweched Senedd: fersiwn
syml (PDF 66KB) a fersiwn
manwl (PDF 48KB).
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/07/2021
Dogfennau
- Ymgysylltu â Dinasyddion - Blaenoriaethau pobl ifanc ar gyfer y Pwyllgor yn y Chweched Senedd PDF 2 MB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Lywodraeth Cymru - 14 Mawrth 2022 PDF 2 MB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Cadeiryddion y Pwyllgorau - 18 Chwefror 2022 PDF 2 MB
- Llythyr gan Seicolegwyr dros Newid Cymdeithasol (Saesneg yn unig) - September 2021 PDF 147 KB
- Strategaeth y Chweched Senedd (manwl) PDF 48 KB
- Strategaeth y Chweched Senedd (syml) PDF 66 KB
Ymgynghoriadau
- Blaenoriaethau'r Chweched Senedd (Wedi ei gyflawni)