Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/11/2025 - Y Pwyllgor Deisebau
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan Vaughan Gething AS, ac nid oedd neb yn dirprwyo
ar ei ran. |
||
(14.00 - 14.40) |
Sesiwn dystiolaeth: Dylid cyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i ddirymu’r drwydded amgylcheddol a sicrhau bod Enovert a’i Safle Tirlenwi’r Hafod yn Wrecsam yn cau Steve Gittins, prif
deisebydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y prif ddeisebydd, Steve Gittins. |
|
|
Deisebau newydd |
||
|
P-06-1534 Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd yr
Aelodau i wneud cais i gynnal dadl, ond trafodwyd argaeledd data ar ofal mewn
coridorau, ac a fyddai'n well gwneud cais am ddadl cyn toriad y Nadolig, neu
ohirio tan y Flwyddyn Newydd pan fyddai ffigurau wedi'u diweddaru ar gyfer y
cyfnod anodd ym mis Rhagfyr ar gael i'r Aelodau. Cytunwyd i ofyn i Lywodraeth
Cymru am y data sydd ganddi, a gwybodaeth ynghylch sut y mae'n diffinio 'gofal
mewn coridorau'. Cytunodd yr Aelodau i ofyn am ddewis y deisebwyr ar gyfer
amseriad y ddadl cyn ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes. |
||
(14.40 - 15.15) |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
|
P-06-1538 Diogelu gwasanaethau strôc llawn yn Ysbyty Bronglais; atal yr israddio i Drin a Throsglwyddo Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunwyd i
ysgrifennu'n ôl at Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gyda thrawsgrifiad llawn
o’r ddadl er mwyn iddynt allu gweld cryfder y teimlad trawsbleidiol ac
awgrymiadau'r Aelodau ynghylch y cynigion. Byddai'r ddeiseb yn cael ei chadw ar
agor tra'n aros am ymateb y Bwrdd Iechyd. |
||
|
P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol Dogfennau ategol: Cofnodion: Talodd yr Aelodau
deyrnged i'r gwaith pwysig a wnaed ar y mater hwn gan y diweddar Hefin David AS
ond teimlent fod y Pwyllgor Deisebau bellach wedi gwneud y cyfan a oedd yn
bosibl ei wneud. Wrth gau y ddeiseb, cytunwyd i ysgrifennu at y Pwyllgor
Llywodraeth Leol a Thai ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
i’w hatgoffa o bwysigrwydd y mater cyfredol hwn, a bod angen ei ddatrys, os nad
yn y Senedd hon, yna’n gynnar yn y Senedd nesaf. Gellid nodi'r mater hefyd yn
adroddiad gwaddol y Pwyllgor fel blaenoriaeth ar gyfer ei dilyn yn y Senedd
nesaf. |
||
|
P-06-1494 Llywodraeth Cymru i ddiogelu cyllid mewn addysg rhag toriadau Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan nodi mai'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
oedd yn y sefyllfa orau i fwrw ymlaen â hyn, a bod ystyriaeth o'r gyllideb ar
gyfer 2026-2027 yn parhau. |
||
|
P-06-1423 Adfer gwasanaeth bws arfordirol 552 y Cardi Bach yn Ne Ceredigion! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Roedd clod yn
ddyledus i'r deisebydd am gadw'r gwasanaeth bws hwn yn flaenllaw ym meddyliau'r
rhai sy'n gwneud penderfyniadau trafnidiaeth, a nodwyd y byddai proses
ail-dendro. Gobeithiwyd y byddai gweithredwr yn dod ymlaen, ond roedd y
Pwyllgor wedi mynd â'r mater cyn belled ag y gallai, felly diolchodd i'r
deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb. |
||
|
P-06-1444 Mae gan ferched Gogledd Cymru yr hawl i gael Gwasanaethau/Clinig Menopos yn Ysbyty Gwynedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Roedd yr
Aelodau’n ddiolchgar am ymgysylltiad parhaus y deisebwyr, ond roedd bellach yn
mynd y tu hwnt i gwmpas y Pwyllgor Deisebau, ac roedd y Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol mewn gwell sefyllfa i fwrw ymlaen â chwestiynau manwl y deisebwyr.
Cytunwyd i gau'r ddeiseb ac anfon y wybodaeth gan y deisebydd ymlaen at y
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. |
||
|
P-06-1426 Dylid gosod goleuadau traffig wrth gylchfan McDonald’s ym Mhont-y-pwl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Roedd gwybodaeth
a dderbyniwyd gan yr heddlu yn dangos bod y canlyniad a ddymunir wedi'i
gyflawni, ac mae llai o wrthdrawiadau, er y byddai'r sefyllfa'n gofyn am ei
monitro’n barhaus. Felly diolchwyd i'r deisebydd am eu deiseb a gafodd ei chau
gan y Pwyllgor. |
||
|
P-06-1440 Sefydlu gwasanaeth rhywedd o dan 18 oed yng Nghymru ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru cyn gynted â phosibl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Diolchwyd i’r
deisebwyr am dynnu sylw at y mater. Roedd ymateb y Llywodraeth yn nodi'r ffordd
yr oedd gwasanaethau'n cael eu darparu. Teimlwyd bod y Pwyllgor wedi mynd â'r
ddeiseb cyn belled ag y gallai, a chytunwyd i’w chau. |
||
|
P-06-1445 Newid Treth Trafodiadau Tir ar gyfer y rheini sy’n prynu cartref am y tro cyntaf yng Nghymru, i fod yn unol â Llywodraeth y DU Dogfennau ategol:
Cofnodion: Roedd yn amlwg
nad oedd Llywodraeth Cymru yn mynd i newid ei safbwynt ar y Dreth Trafodiadau
Tir. Mynegodd Joel James AS siom gydag ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet. Yn y
dyfodol byddai'n fater i faniffestos y pleidiau. Felly, cytunodd y Pwyllgor i
gau'r ddeiseb. |
||
|
P-06-1487 Darparu croesfan i gerddwyr ar yr A4042 yn Llanofer; ei gwneud yn ddiogel i ddefnyddwyr bysiau a gostwng y terfyn cyflymder. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Joel
James AS fuddiant perthnasol yn unol â Rheol Sefydlog 17.42A gan ei fod yn
adnabod y prif ddeisebydd. Croesawodd yr
Aelodau y datblygiadau a amlinellwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet a nodwyd bod y
mater yn cael ei symud ymlaen yn weithredol fel mater lleol gan Aelodau
etholedig lleol. Barn y mwyafrif o’r Aelodau oedd ei bod hi’n well gadael y
mater yn nwylo’r Aelodau lleol nawr, ac felly cytunwyd i gau’r ddeiseb. |
||
|
P-06-1464 Caniatáu i deuluoedd Cymru sydd wedi colli baban cyn 24 wythnos gael tystysgrif colli baban Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd yr Aelodau
fod y Gweinidog wedi dweud bod problemau technegol i'w datrys cyn cyflwyno'r
tystysgrifau yng Nghymru. Roedd yn fater cenedlaethol a chytunodd y Pwyllgor
mai’r cyfan oedd ei angen oedd i’r Llywodraeth roi dyddiad iddo y byddai’r
tystysgrifau’n cael eu cyflwyno yng Nghymru, yn enwedig gan eu bod ar gael yn
Lloegr nawr. Byddai llythyr pellach yn cael ei anfon at y Gweinidog Iechyd
Meddwl a Llesiant i ymateb gyda dyddiad penodol. Byddai'r ddeiseb yn cael ei
chadw ar agor nes bod y dyddiad hwnnw wedi'i gadarnhau. |
||
|
P-06-1489 Deddfu i sicrhau bod briciau gwenoliaid duon yn cael eu gosod ym mhob adeilad newydd yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ni chafodd y
Pwyllgor ei argyhoeddi gan ddadl yr Ysgrifennydd Cabinet dros beidio â'i gwneud
yn ofynnol i ddatblygwyr osod briciau gwenoliaid duon. O hyn ymlaen, byddai'r
mater hwn yn fater i faniffestos pleidiau ac i Aelodau ei godi'n unigol. Felly
cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb. |
||
(15.15) |
Papurau i'w nodi |
|
|
P-06-1427 Dylid creu cynllun traffig cynaliadwy ar gyfer Dyffryn Rhiangoll Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd yr Aelodau
y papur. |
||
(15.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Cytunwyd ar y
cynnig gweithdrefnol. |
|
(15.15 - 15.25) |
Trafod y dystiolaeth: Dylid cyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i ddirymu’r drwydded amgylcheddol a sicrhau bod Enovert a’i Safle Tirlenwi’r Hafod yn Wrecsam yn cau Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd. Bydd adroddiad drafft yn cael ei drafod ar
gyfer cytuno arno mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
(15.25 - 15.55) |
Adolygiad o Reol Sefydlog 23 a'r Broses Ddeisebu: Cynigion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd yr
Aelodau y papur a chytuno i: a) ysgrifennu at
y Pwyllgor Busnes gyda rhai newidiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 23, i’r
Pwyllgor hwnnw eu hystyried - yn ymwneud â statws y pwyllgor fel un sydd wedi’i
neilltuo i ystyried deisebau, ac i egluro’r broses o ystyried deisebau; b) cynnig rhai
gwelliannau bach i Benderfyniad y Llywydd ar Ffurf Briodol Deisebau Cyhoeddus
er mwyn eglurder, yn enwedig mewn cysylltiad â derbyniadwyedd deisebau ar
ganiatadau cynllunio ar gyfer Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DAC); c) nodi bod y
trothwyon presennol ar gyfer ystyriaeth a thrafodaeth yn parhau’n briodol; c) nodi'r
ymatebion cyhoeddedig i'w ymgynghoriad targedig ar y broses ddeisebu yn y dyfodol
a'r materion a godwyd gan ymatebwyr, gan gynnwys yr awgrym y gallai pwyllgor
olynol fod eisiau cynnal ymchwiliadau thematig ar bynciau penodol gyda nifer o
ddeisebau cysylltiedig; d) mabwysiadu
dull tebyg o drosglwyddo deisebau rhwng y Chweched Senedd a'r Seithfed Senedd
ag a fabwysiadwyd rhwng y Pumed Senedd a'r Chweched Senedd. Byddai hyn yn
cynnwys atal llofnodion ar ddeisebau agored yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad,
ac adolygiad o'r holl ddeisebau sy'n cael eu hystyried cyn y diddymiad i
benderfynu ar gamau gweithredu pellach, gan gynnwys a ddylid cau deisebau neu
eu cyfeirio i'r Seithfed Senedd; a e) nodi y byddai
rhai materion a drafodwyd yn cael eu nodi yn adroddiad gwaddol y Pwyllgor, i'w
hystyried gan y Seithfed Senedd. |
PDF 204 KB