P-06-1427 Dylid creu cynllun traffig cynaliadwy ar gyfer Dyffryn Rhiangoll
P-06-1427 Dylid creu cynllun traffig cynaliadwy ar gyfer Dyffryn Rhiangoll
Petitions3
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Tim Morgan, ar ôl casglu cyfanswm o 258 lofnodion.
Geiriad y
ddeiseb:
1. Lleihau’r terfyn
cyflymder drwy bentref Cwmdu i 30 mya ac 20 mya heibio i'r dafarn, y tai a'r
maes chwarae.
2. Gorfodi
rheoliadau ynghylch sŵn
egsôst a gosod camerâu monitro a gorfodi ar ddau ben yr A479.
3. Creu terfyn
pwysau ar hyd y ffordd yn ei chyfanrwydd i sicrhau na fydd dirgryniadau o
gerbydau nwyddau trwm yn achosi rhagor o ddifrod i adeiladau hanesyddol.
4. Creu llwybrau
ar gyfer dulliau teithio iach ac amgylcheddol gynaliadwy fel cerdded a beicio.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Caiff Dyffryn
Rhiangoll ei wasanaethu gan briffordd yr A479 sy'n mynd o'r de i'r gogledd, gan
ddechrau yng nghyffordd Nant y Ffin ger Crucywel a gorffen yn Nhalgarth.
Mae'r ffordd
droellog a'r golygfeydd godidog yn denu beiciau modur a cheir yn yr haf, sydd
yn aml yn goryrru ac yn creu sŵn
mawr am gyfnodau parhaus oherwydd yr egsôsts stwrllyd.
Prin iawn yw’r
cyfleoedd ar gyfer teithio cynaliadwy ar yr A479, er enghraifft ar feic,
oherwydd cyflymder y traffig a’r ffaith bod nifer o gorneli cudd ar y ffordd.
Cafwyd cwynion am ddifrod i adeiladau a achoswyd gan ddirgryniadau o’r cerbydau
nwyddau trwm sy’n teithio drwy'r pentrefi a heibio i dai sydd yn ymyl y ffordd.
Nid oes llawer o gyfleoedd i orfodi terfynau cyflymder yn y ffyrdd traddodiadol
a chyfarwydd oherwydd topograffi’r ffordd.
Mae'r preswylwyr
yn mynnu camau gweithredu i fynd i’r afael â goryrru, sŵn egsôsts a cherbydau nwyddau trwm. Mae'r
preswylwyr hefyd yn mynnu ffyrdd diogel a chynaliadwy o deithio o gwmpas eu
cymunedau a rhyngddynt.

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd:
>>>>
>>>Brycheiniog
a Sir Faesyfed
>>>Canolbarth
a Gorllewin Cymru
<<<
[PetitionFooter]
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/03/2025