P-06-1440 Sefydlu gwasanaeth rhywedd o dan 18 oed yng Nghymru ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru cyn gynted â phosibl

P-06-1440 Sefydlu gwasanaeth rhywedd o dan 18 oed yng Nghymru ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru cyn gynted â phosibl

Petitions4

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan TransVision Cymru, ar ôl casglu cyfanswm o 544 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Yn dilyn perfformiad gwael hirdymor a phresennol y gwasanaeth rhywedd dan 18 yn Lloegr a'u rhestrau aros afresymol y mae plant a phobl ifanc Cymru wedi bod yn destun iddynt, rydym ni (Transvisioncymru) wedi bod yn trafod gyda Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd Cymru ers dros ddwy flynedd i sefydlu ein gwasanaeth rhagorol ein hunain ar gyfer pobl ifanc o dan 18 yng Nghymru. Mae'r comisiynydd eisiau gweld newid hefyd ond nid yw adran iechyd Llywodraeth Cymru wedi symud ymlaen o gwbl eto.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Rydym yn grŵp a sefydlwyd gan rieni plant trawsryweddol sydd wedi canfod bod y system bresennol yn amhosibl ei llywio ac nad ywn rhoi unrhyw gefnogaeth in plant gwych. Dros amser, rydym wedi tyfun grŵp sy'n cynnwys pobl ifanc, rhieni/gofalwyr a chynghreiriaid. Rydym hefyd wedi dod ynghyd â llawer o grwpiau eraill yn yr ymgyrch hon i godi llais yn gryf dros hawliau pobl ifanc traws.

Cyhoeddwyd cynllun gweithredu LHDTC+ anhygoel, cynhwysol ar gyfer Cymru gyfan ym mis Ionawr 2023 sy'n datgan yn gyffrous mai un o’r prif ganlyniadau fydd gwella’r ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Maen nhw’n dweud y byddan nhw’n adolygu’r llwybr Datblygu Hunaniaeth Rhywedd i bobl ifanc yng Nghymru ac yn parhau i ddatblygu’r Gwasanaeth Hunaniaeth Rhywedd. Mewn cyfarfod diweddar gyda swyddogion iechyd Llywodraeth Cymru, nid dyma’r llwybr maen nhw’n ei ddilyn ac maen nhw’n mynd i barhau i wneud i bobl ifanc Cymru aros am 4-5 mlynedd arall ar y rhestr aros am wasanaeth anfoddhaol. Mae angen gwasanaeth arnom nawr.

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 10/11/2025 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

 

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 24/06/2024.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gogledd Caerdydd
  • Canol De Cymru

 

[PetitionFooter]

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 23/04/2025