Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/03/2025 - Y Pwyllgor Deisebau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Luke Fletcher AS fuddiant perthnasol mewn perthynas ag Eitem 2.1 - mae wedi gweithio gyda phreswylwyr a’r prif ddeisebydd dros y blynyddoedd diwethaf ar ymgyrch Arbed/y Rhaglen Arbed Ynni Cymunedau.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-06-1491 Rydym yn mynnu bargen deg i drigolion yr effeithir arnynt gan y cynllun Arbed/y Rhaglen Arbed Ynni Cymunedau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i: ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i gadarnhau’r safbwynt o ran cais y deisebwyr am ymchwiliad cyhoeddus; ysgrifennu at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i ofyn i ba raddau yr oedd wedi edrych ar y sefyllfa yng Nghaerau a sut yr oedd hynny wedi dylanwadu ar y Llywodraeth o ran ei rhaglen Cartrefi Clyd newydd; gwahodd y deisebwyr a’r cynghorydd lleol sy’n cefnogi eu hymgyrch i ddod i gwrdd â’r Pwyllgor; ac ysgrifennu at Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ofyn am gynnydd y gwaith adfer a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Yn sgil y camau hynny y cytunwyd arnynt, byddai'r Pwyllgor yn cadw'r ddeiseb ar agor.

 

2.2

P-06-1498 Cyflwyno gwasanaeth bws o Orsaf Fysiau’r Fenni i Ysbyty’r Faenor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yn sgil Bil masnachfreinio bysiau Llywodraeth Cymru sydd ar ddod, cytunodd y Pwyllgor i gadw’r ddeiseb ar agor a pharhau i fonitro’r sefyllfa.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-06-1352 Cymeradwyo adeiladu trydedd bont dros y Fenai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a pharhau i godi’r mater fel Aelodau unigol yn y Siambr.

 

3.2

P-06-1464 Caniatáu i deuluoedd Cymru sydd wedi colli baban cyn 24 wythnos gael tystysgrif colli baban

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunwyd y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu eto at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofyn am y cynnydd o ran gweithredu’r cynllun yng Nghymru. Ymrwymodd y Cadeirydd hefyd i godi'r mater yn y Siambr gyda'r Trefnydd o dan y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.

 

3.3

P-06-1463 Parhau i ariannu swyddogion heddlu ysgolion sy'n addysgu plant ac yn cefnogi ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu’n ôl at yr Ysgrifennydd Cyllid i ganmol Llywodraeth Cymru am ariannu’r rhaglen cyhyd ag y gwnaeth, o ystyried nad yw plismona wedi’i ddatganoli, ond i dynnu sylw at y pryderon ynghylch plismona yng Nghymru a’r broses gynllunio ac ymgynghori. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Swyddfa Gartref i bwysleisio pwysigrwydd ariannu’r gwaith hwn yng Nghymru.

 

3.4

P-06-1475 Gwella diogelwch yr A458, Treberfedd, Powys ar frys yn sgil gyrru peryglus parhaus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS fuddiant perthnasol gan ei fod yn adnabod y deisebydd dan sylw. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth i ofyn am ragor o fanylion am yr astudiaeth; a ellir darparu'r amserlenni ar gyfer ei gwblhau i'r gymuned ac i'r deisebydd; a eir ati i ymgynghori â’r cyhoedd, y deisebydd a’r cyngor cymuned fel rhan o’r astudiaeth; a fydd y canlyniadau/opsiynau a gaiff eu hystyried wedyn yn cael eu rhannu gyda nhw; ac a oes amserlen yn y pen draw ar gyfer gweithredu unrhyw argymhellion neu fesurau arfaethedig. Byddai'r ddeiseb yn cael ei chadw ar agor wrth aros am ymateb.

 

3.5

P-06-1476 Clustogfa orfodol 1000 metr ar gyfer yr holl chwareli newydd a phresennol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes a gofyn am ddadl ynghylch y ddeiseb, gan bwysleisio pwysigrwydd cynnal y ddadl cyn gynted â phosibl, a nodi bod gwybodaeth newydd bellach ar gael yn dilyn dadl Heledd Fychan ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil yn ymwneud â phrosesau cynllunio ar gyfer datblygu chwareli, a gynhaliwyd ar 16 Hydref 2024.

 

3.6

P-06-1332 Ariannu ymchwil brechlyn i amddiffyn gwiwerod coch rhag feirws marwol brech y gwiwerod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, ond cyn gwneud hynny i ysgrifennu at y Dirprwy Brif Weinidog i ofyn am ymateb i gwestiynau diweddaraf y deisebydd. Byddai'r ymateb yn cael ei anfon at y deisebydd. Cytunodd yr Aelodau hefyd i ysgrifennu at Bencampwr Rhywogaethau Cymru ar gyfer gwiwerod coch, Darren Millar AS; Alun Davies AS, a oedd wedi codi'r mater yn y Siambr; ac Aelodau Gogledd Cymru – yr ardal sydd â’r boblogaeth fwyaf o wiwerod coch – i dynnu sylw at y ddeiseb er gwybodaeth iddynt.

 

4.

Papurau i'w nodi

4.1

P-06-1479 Stopio cadw plant, pobl ifanc ac oedolion ag anableddau dysgu ac awtistiaeth mewn ysbytai

Dogfennau ategol:

4.2

P-06-1489 Deddfu i sicrhau bod briciau gwenoliaid duon yn cael eu gosod ym mhob adeilad newydd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

4.3

P-05-1447 Atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau’r ganolfan ymwelwyr yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Ynyslas

Dogfennau ategol:

4.4

P-06-1474 Atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau canolfannau ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, Coed y Brenin ac Ynyslas

Dogfennau ategol:

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

6.

Adroddiad byr drafft: P-06-1380 Bathodyn glas gydol oes i unigolion sydd â diagnosis gydol oes

Dogfennau ategol: