Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1&2 Cyfynol - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/11/2022 - Y Pwyllgor Deisebau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

Cafwyd ymddiheuriadau oddi wrth Buffy Williams AS a Rhys ab Owen AS.

 

Roedd Rhiannon Passmore AS yn dirprwyo ar ran Buffy Williams AS.

 

 

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-06-1287 Rhaid ymchwilio i benderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i gau'r feddygfa yng ngogledd Penarth a symud cleifion i feddygon teulu sydd ymhell i ffwrdd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at:

 

  • Gyngor Iechyd Cymuned De Morgannwg i weld beth mae eu gwaith monitro o ran profiad y claf wedi'i ddatgelu; a
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, yn gofyn pa gamau maen nhw wedi'u cymryd i leihau'r straen ar bractisau yn yr ardal, a'r cynlluniau ar gyfer canolfan iechyd newydd yn Cogan yn y dyfodol.

 

 

2.2

P-06-1297 Dod â "llosgi dan reolaeth" i ben yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar i ofyn am eu barn ynghylch a oes angen caniatáu rhywfaint o amser ar gyfer llosgi o dan reolaeth, ac a yw'r amser a nodwyd ar gyfer gwneud hynny yn briodol.

 

 

2.3

P-06-1304 Adolygu'r polisi tai dros dro mewn argyfwng sy'n effeithio ar ein cymunedau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:

  • dynnu sylw’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at y ddeiseb am ei fod yn cynnal ymchwiliad i ddigartrefedd yng Nghymru ar hyn o bryd.
  • aros am ganlyniad yr ymchwiliad ac ymateb Llywodraeth Cymru iddo; ac
  • ysgrifennu at yr Heddlu lleol a gofyn a ydynt yn ymwybodol o'r materion.

 

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-05-1112 Helpwch gymunedau yng Nghymru i brynu asedau cymunedol: Gweithredwch Ran 5, Pennod 3 o Ddeddf Lleoliaeth 2011

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i aros am ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar Asedau Cymunedol, ac i dynnu sylw at y ddeiseb yn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn y disgwylir iddi gael ei chynnal yn gynnar yn 2023.

 

 

 

3.2

P-06-1212 Cyfraith Mark Allen – rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a llongyfarchodd y deisebydd Leanne Bartley, teulu Mark a phawb sydd wedi ymgyrchu’n ddiflino i godi ymwybyddiaeth a gwella diogelwch dŵr.  Diolchodd y Cadeirydd i'r rhai a gyfrannodd at yr ymchwiliad i helpu i atal pobl eraill rhag profi colled drasig o'r fath.

 

Cydnabu’r Pwyllgor y cyd-destun ehangach a’r gwaith sy’n digwydd o ran gweithgareddau antur, a chroesawodd y Cadeirydd y gwahoddiad i fod yn bresennol mewn cyfarfod o’r Grŵp Trawsbleidiol ar y sector Gweithgareddau Awyr Agored yng Nghymru yn y dyfodol.

 

Cynhelir dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Rhagfyr a bydd y Pwyllgor yn dychwelyd i ystyried y ddeiseb ar ôl hyn.

 

 

3.3

P-06-1240 Gwella gwasanaethau iechyd i bobl ag epilepsi sy'n byw yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a chytunodd i drafod y ddeiseb eto pan ddaw ymateb gan Lywodraeth Cymru i adroddiad y mudiad Epilepsy Action Cymru.

 

 

3.4

P-06-1235 Dylid sicrhau darpariaeth briodol o wasanaethau a chefnogaeth i bobl yng Nghymru sydd wedi cael niwed i'r ymennydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog i gyfleu sylwadau'r deisebydd, gan gynnwys y cais am gydweithio parhaus i wella gwasanaethau yn y dyfodol ar gyfer cleifion sydd wedi cael niwed i’r ymennydd.

 

Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebwyr am amlygu’r mater pwysig hwn.

 

 

3.5

P-06-1273 Lleihau amseroedd aros am ambiwlansys ac mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn ddirfawr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac oherwydd yr ymchwiliad manwl a'r adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr holl argymhellion mewn egwyddor, cytunodd yr Aelodau fod llawer o'r materion a godwyd yn y ddeiseb a'r sylwadau dilynol wedi'u nodi a chael sylw. Felly cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebydd am godi’r mater pwysig hwn.

 

Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i dynnu sylw'r deisebydd at ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

 

5.

Deiseb y Flwyddyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y gwaith a wnaed yn ddiweddar ar Ddeiseb y flwyddyn.

 

 

6.

Papur cwmpasu ar waith y dyfodol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried papur cwmpasu ar waith y gallai'r Pwyllgor ei wneud yn y dyfodol.