Digartrefedd

Digartrefedd

Mae’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi cyhoeddi ei adroddiad ar Ddigartrefedd ar 9 Mawrth 2023. (PDF 1.8MB)

 

Ysgrifennodd y Pwyllgor at randdeiliaid wedi'u targeduv ym mis Ionawr 2022 i wahodd eu barn ar y sefyllfa o ran digartrefedd ar y pryd a sawl mater penodol.

 

Ym mis Hydref 2022 cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl a nodir isod ac ysgrifennodd eto at randdeiliaid wedi'u targedu i wahodd eu barn arno.

 

Cylch gorchwyl

Mae’r Pwyllgor wedi cytuno i edrych yn fanwl ar:

>>>> 

>>>Cyflenwad, addasrwydd ac ansawdd y llety dros dro sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd i gartrefu pobl sy'n ddigartref a’r gwasanaethau cymorth sydd ar gael iddynt;

>>>Yr effaith y caiff byw mewn llety dros dro ei chael ar unigolion a theuluoedd;

>>>Effaith y galw parhaus am lety dros dro ar awdurdodau lleol a gwasanaethau cymorth, eu partneriaid a’u cymunedau;

>>>Opsiynau i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy a phriodol yn y tymor byr i ganolig, er mwyn lleihau’r defnydd o lety dros dro;

>>>Cynnydd o ran gweithredu Rhoi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru:

>>>Cynllun gweithredu lefel uchel 2021 i 2026, ac yn arbennig y symud tuag at ddull ailgartrefu cyflym.

<<<< 

 

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 01/02/2022

Dogfennau

Ymgynghoriadau